Dechreuwch y Gwyliau gydag ymweliad â Ffair Aeaf Frenhinol Cymru - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Gyda’r dyddiau’n byrhau a’r dail yn dechrau troi, mae’r teimlad hydrefol yn yr awyr yn arwydd fod Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn agosáu. Ni fydd yn hir nes bydd maes y sioe yn Llanelwedd yn ferw unwaith eto o arddangoswyr, da byw gwobrwyol a siopwyr Nadolig. Mae’r paratoadau wedi hen gychwyn ar gyfer y Ffair Aeaf flynyddol sy’n cael ei chynnal ar ddydd Llun 28ain a dydd Mawrth 29ain Tachwedd.

Fel un o’r sioeau stoc dethol gorau yn Ewrop, mae’r Ffair Aeaf yn tynnu tyrfaoedd o bell ac agos i fwynhau dau ddiwrnod sy’n orlawn o gystadlaethau, dathliadau, bwyd a diod, a siopa. Roeddem wrth ein bodd yn ei gweld yn dychwelyd yn 2021 ar ôl bwlch o ddwy flynedd oherwydd y pandemig ac rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi’n ôl fis Tachwedd yma ar gyfer yr hyn sy’n addo bod yn Ffair Aeaf wych arall.

Mae atodlenni da byw ar gael ar ein gwefan ac mae cynigion ar gyfer y cystadlaethau’n cael eu derbyn yn awr. Gall arddangoswyr roi’u henw ar gyfer cystadlaethau ar-lein trwy wefan CAFC. Mae cynigion da byw yn cau ar y 19eg o Hydref, felly os nad ydych wedi ymgeisio eto yna ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth.

Bydd Ffair Aeaf eleni’n cael ei hagor yn swyddogol ar ddydd Llun 28ain Tachwedd am 10 y bore. Yn dilyn yr agoriad swyddogol bydd Gwobr Goffa John Gittins 2022, Bwrsari Cynhadledd Ffermio Rhydychen CAFC 2023 ac Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield 2022 yn cael eu cyflwyno.

Yn newydd yn Ffair eleni fydd y Gystadleuaeth Bacwn, Byrgyr a Selsig, a fydd yn cael ei beirniadu gan Neil Morrisey, seren Men Behaving Badly a Bob the Builder, ynghyd â Steve Morgan o Morgan Family Butchers a Phillip John o Gaerdydd, yr awdur a’r cyfarwyddwr sydd wedi ennill gwobrau lawer. Bydd dosbarthiadau bridiau gwartheg newydd hefyd, yn cynnwys y cystadlaethau Aberdeen Angus a Byrgorn ac Adran Bustych a Heffrod ar gyfer pob brîd.

Yn ogystal â chystadlaethau da byw, mae’r Ffair Aeaf yn cynnal amrywiaeth enfawr o wahanol ddosbarthiadau a chystadlaethau, yn cynnwys ceffylau, y sioe gŵn hela, dofednod wedi’u trin, bwtsieraeth, hamperi cig, coginio, cynnyrch a gwaith llaw, garddwriaeth a threfnu blodau… mae yna rywbeth i bawb gymryd rhan ynddo.

Ynghyd â’r uchod i gyd, mae’r Ffair Aeaf yn cynnig y cyfle perffaith i siopwyr ddod o hyd i anrhegion Nadolig unigryw a gwreiddiol ar y cannoedd o stondinau masnach ar draws maes y sioe yn ystod y digwyddiad deuddydd. Bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau gwylio’r gerddoriaeth fyw a’r carolwyr yn perfformio ledled maes y sioe, a hyd yn oed yn cael cyfle i gyfarfod Siôn Corn!

Mae’r Neuadd Fwyd enwog yn denu cynhyrchwyr o bob rhan o Gymru ac ymhellach na hynny ac mae’n orlawn o ddanteithion wedi’u coginio, arddangosiadau, anrhegion Nadolig perffaith a phethau dengar i’w blasu. Dewch heibio, bwytewch, yfwch a byddwch lawen!

Meddai William Hanks, Cyfarwyddwr Anrhydeddus y Ffair Aeaf:

‘Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at groesawu ymwelwyr i faes y sioe ar gyfer un o’r digwyddiadau mwyaf yn y calendr amaethyddol. Mae’r Ffair Aeaf yn dathlu cynnyrch Cymreig ac yn arddangos rhywfaint o’r stoc ddethol orau yn y DU. Mae’n cael pawb i ysbryd y Gwyliau hefyd, gyda’r casgliad enfawr o stondinau masnach, bwyd a diod ac adloniant sydd ar gynnig.’

Bydd y Ffair Aeaf yn agor ei drysau i’r cyhoedd am 8 ar y ddau fore ac ar ddydd Llun 28ain bydd stondinau masnach ar agor trwy gydol yr hwyr ar gyfer siopa Nadolig hwyr y nos a’r arddangosfa dân gwyllt wych. Pa well ffordd o gychwyn tymor y Nadolig na gydag ymweliad â’r Ffair Aeaf?

Mae tocynnau’n £20 i oedolion, ac yn £5 i blant gyda thocynnau pris gostyngol i aelodau CAFC. Rhaid prynu tocynnau aelodau cyn y 14eg Tachwedd er mwyn cael y gostyngiad. Fel trît Nadoligaidd, rydym yn cynnig pris mynediad gostyngol o £5 i oedolion a mynediad am ddim i blant ar ôl 5 y pnawn ar ddydd Llun, i’w prynu wrth y giât yn unig.

Prynwch eich tocynnau i’r Ffair Aeaf ar-lein yn awr ar ein gwefan. I gael mwy o wybodaeth am y Ffair ewch i www.rwas.wales/winter-fair/.