Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn prysur agosáu, ac ni fydd yn hir nes bydd maes y sioe yn Llanelwedd yn ferw unwaith eto o arddangoswyr, stoc gwobrwyedig a siopwyr Nadolig. Mae’r paratoadau wedi hen gychwyn ar gyfer y Ffair flynyddol, sy’n digwydd ar ddydd Llun 28ain a dydd Mawrth 29ain o Dachwedd.
Mae’r atodlen ar gyfer yr adran fwtsieraeth yn Ffair Aeaf 2022 ar gael ar wefan CAFC yn awr. Mae cynigion yn cau ar ddydd Llun 31ain Hydref a bydd angen i bob cynnig gael ei gyflwyno ar-lein. Mae’r adran fwtsieraeth yn cynnwys cystadlaethau dofednod wedi’u trin, hamperi cig, ac amrywiol gynhyrchion cig.
Yn newydd i’r adran fwtsieraeth eleni mae’r gystadleuaeth Bacwn, Byrgyrs a Selsig a fydd yn cael ei beirniadu gan Neil Morrissey, seren Men Behaving Badly, Line of Duty a Bob the Builder, ynghyd â Steve Morgan o Morgan Family Butchers a Phillip John yr awdur a’r cyfarwyddwr o Gaerdydd sydd wedi ennill llawer o wobrau. Mae gan yr actor Neil Morrissey ddiddordeb brwd mewn bwyd, ac yntau’n gyd-berchen tafarn The Plume of Feathers yn Stoke-on-Trent, sydd wedi’i henwebu ar gyfer gwobrau, ac mae’n mynychu marchnadoedd ffermwyr Gogledd Llundain yn aml.
Mae’r dosbarthiadau yn yr adran yn cynnwys bacwn canol, byr, a brith, byrgyrs cig eidion, cig oen a phorc, ac amrywiol fathau o selsig. Bydd pob cynnig yn cael ei goginio a’i flas yn cael ei brofi gan y panel beirniadu.
Rhaid i’r holl gynigion ar gyfer y gystadleuaeth Bacwn, Byrgyrs a Selsig fod wedi’u labelu’n glir a’u danfon i’r Neuadd Garcas erbyn dim hwyrach na 8.30 bore dydd Mawrth 29ain Tachwedd. Cyfyngir cynigion i ddau y dosbarth. Bydd y beirniadu’n dechrau am 10.00 y bore. Bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ar ôl y beirniadu a bydd cardiau a rhosedau gwobrwyo’n cael eu dyfarnu i enillwyr y gwobrau sy’n dod yn 1af–3ydd. Yna rhaid casglu’r holl gynigion o’r Neuadd Garcas erbyn dim hwyrach na 4.00 y pnawn ar yr un diwrnod.
Rydym yn chwilio am noddwyr i’r gystadleuaeth Bacwn, Byrgyrs, a Selsig ar hyn o bryd. Os byddai gennych chi neu’ch busnes ddiddordeb mewn noddi’r adran hon ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth neu cysylltwch â sponsorship@rwas.co.uk. Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn cydnabod yn ddiolchgar y nawdd i’r wobr risial gan Steve Morgan Catering.