Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn prysur agosáu, ac ni fydd yn hir nes bydd maes y sioe yn Llanelwedd yn ferw unwaith eto o arddangoswyr, stoc gwobrwyedig a siopwyr Nadolig. Mae’r paratoadau wedi hen gychwyn ar gyfer y Ffair flynyddol, sy’n digwydd ar ddydd Llun 28ain a dydd Mawrth 29ain o Dachwedd.

Mae’r atodlen ar gyfer yr adran fwtsieraeth yn Ffair Aeaf 2022 ar gael ar wefan CAFC yn awr. Mae cynigion yn cau ar ddydd Llun 31ain Hydref a bydd angen i bob cynnig gael ei gyflwyno ar-lein. Mae’r adran fwtsieraeth yn cynnwys cystadlaethau dofednod wedi’u trin, hamperi cig, ac amrywiol gynhyrchion cig.

Yn newydd i’r adran fwtsieraeth eleni mae’r gystadleuaeth Bacwn, Byrgyrs a Selsig a fydd yn cael ei beirniadu gan Neil Morrissey, seren Men Behaving Badly, Line of Duty a Bob the Builder, ynghyd â Steve Morgan o Morgan Family Butchers a Phillip John yr awdur a’r cyfarwyddwr o Gaerdydd sydd wedi ennill llawer o wobrau.  Mae gan yr actor Neil Morrissey ddiddordeb brwd mewn bwyd, ac yntau’n gyd-berchen tafarn The Plume of Feathers yn Stoke-on-Trent, sydd wedi’i henwebu ar gyfer gwobrau, ac mae’n mynychu marchnadoedd ffermwyr Gogledd Llundain yn aml.

Mae’r dosbarthiadau yn yr adran yn cynnwys bacwn canol, byr, a brith, byrgyrs cig eidion, cig oen a phorc, ac amrywiol fathau o selsig.  Bydd pob cynnig yn cael ei goginio a’i flas yn cael ei brofi gan y panel beirniadu.

Rhaid i’r holl gynigion ar gyfer y gystadleuaeth Bacwn, Byrgyrs a Selsig fod wedi’u labelu’n glir a’u danfon i’r Neuadd Garcas erbyn dim hwyrach na 8.30 bore dydd Mawrth 29ain Tachwedd. Cyfyngir cynigion i ddau y dosbarth. Bydd y beirniadu’n dechrau am 10.00 y bore. Bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ar ôl y beirniadu a bydd cardiau a rhosedau gwobrwyo’n cael eu dyfarnu i enillwyr y gwobrau sy’n dod yn 1af–3ydd. Yna rhaid casglu’r holl gynigion o’r Neuadd Garcas erbyn dim hwyrach na 4.00 y pnawn ar yr un diwrnod.

Rydym yn chwilio am noddwyr i’r gystadleuaeth Bacwn, Byrgyrs, a Selsig ar hyn o bryd. Os byddai gennych chi neu’ch busnes ddiddordeb mewn noddi’r adran hon ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth neu cysylltwch â sponsorship@rwas.co.uk Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn cydnabod yn ddiolchgar y nawdd i’r wobr risial gan Steve Morgan Catering.