Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Galwch heibio Groto Siôn Corn, cyfarfod â’r ceirw a gwylio’r tân gwyllt penigamp yn y Ffair Aeaf!
Mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn prysur agosáu, ac mae digonedd yn digwydd i deuluoedd edrych ymlaen ato. Mae’r digwyddiad blynyddol yn cael ei gynnal yn ddiweddarach y mis hwn, ar 28ain a’r 29ain Tachwedd.
Mae Siôn Corn wedi cytuno’n garedig i neilltuo amser yn ei raglen aeaf brysur i gyfarfod â’r plant sy’n mynychu’r Ffair, ac eleni mae e’n dod â rhywfaint o’i geirw fel gwesteion arbennig iawn! Bydd Groto Siôn Corn wedi’i leoli yn Nhŵr y Cloc, Tŷ Ynys Môn, gerllaw’r bandstand, ar ddau ddiwrnod y Ffair. Bydd Siôn Corn ar gael i gyfarfod y plant ar yr adegau canlynol:
Eleni, rydym yn ffodus iawn o groesawu dau o geirw godidog Siôn Corn i’r Ffair Aeaf hefyd! Mae’r ceirw’n hedfan i mewn o Begwn y Gogledd ar ddydd Llun 28ain Tachwedd a bydd mynychwyr y Ffair yn gallu eu cyfarfod a’u cyfarch o 2.00pm – 6.00pm yng Nghylch Gweithrediadau Bach Coedwigaeth (nesaf at y bandstand). Sylwch os gwelwch yn dda mai ar y prynhawn Llun yn unig y mae’r ceirw’n ymweld.
Un arall o’r prif atyniadau eleni yw ein harddangosfa dân gwyllt penigamp. Mae’r tân gwyllt trawiadol yn ffefryn mawr gyda gwesteion y Ffair Aeaf, yn oedolion a phlant fel ei gilydd. Gellwch weld yr arddangosfa am 7:00pm ar nos Lun 28ain Tachwedd.
Fel arfer, bydd y Neuadd Fwyd yn llawn dop o ddanteithion blasus iawn gan fasnachwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i chi a’ch rhai bach eu blasu a’u mwynhau. A hyd yn oed rhyw ddiferyn bach Nadoligaidd i’r oedolion efallai!
Mae tripiau ysgolion a cholegau’n cael eu croesawu a’u hannog i ymweld â’r Ffair Aeaf. Mae rhannu gwybodaeth am y diwydiant amaethyddol a sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu yn hanfodol bwysig ac yn fenter y mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn dal i’w chefnogi. Os oes gan eich ysgol neu goleg ddiddordeb mewn dod i’r Ffair Aeaf, yna cysylltwch â ni i drefnu’ch trip. Ebostiwch requests@rwas.co.uk neu ffoniwch y swyddfa ar 01982 553683.
Felly, pam na ychwanegwch chi dipyn o hud a lledrith at eich profiad o Ffair Aeaf Frenhinol Cymru a dod heibio i gyfarfod Siôn Corn a’i geirw, i wylio’r arddangosfa dân gwyllt benigamp a mwynhau rhywfaint o ddanteithion blasus!?
I gael mwy o wybodaeth am y Ffair Aeaf neu i brynu tocynnau ewch i wefan CAFC