Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae un o’r gwobrau mwyaf ei bri yn amaethyddiaeth Cymru, Gwobr Goffa John Gittins am gyfraniad nodedig at ddiwydiant defaid Cymru, wedi’i hennill eleni gan Mr Lionel Organ, o Landysul, Sir Gaerfyrddin.

Mae Mr Organ wedi ffermio yn Tymaen Farm, sydd wedi’i lleoli’n union i’r gogledd o Gaerfyrddin, am y 25 mlynedd ddiwethaf.  Bu’n rhedeg diadell Charollais fawr o 450 o famogiaid am 30 mlynedd, ac mae’n parhau’n awr gyda’i ddiadell Llŷn o 200 o famogiaid er 1985.  Ei gynllun cychwynnol oedd hyrwyddo’r ddau frîd o ddefaid yng Nghymru trwy ddangos yn Sioe Frenhinol Cymru a llawer o sioeau undydd llai.  Gyda’r brîd Charollais yn cael ei gofnodi gan Signet, roedd yn bwriadu cynnal arwerthiannau cynhyrchu rheolaidd ar gyfer y Charollais ar y fferm mewn sied ddefaid wedi’i hadeiladu i’r pwrpas.  Mae wedi ymdrechu bob amser i gynhyrchu dafad brîd Charollais sy’n addas ar gyfer y bridiwr masnachol yn ogystal â’r bridiwr pedigri, a brîd sy’n fwy na galluog i ffynnu yn hinsawdd Cymru.

Yn 2000, fe wnaeth Mr Organ gynnal ei arwerthiant benywod cynhyrchiol cyntaf ar y fferm, wedi’i anelu at y bridiwr pedigri, a pharhaodd gydag arwerthiannau bob dwy flynedd tan yr arwerthiannau gwasgaru yn 2009 a 2010, gyda phrynwyr o bob cwr o Ynysoedd Prydain.  Mae Mr Organ wedi pwysleisio bob amser ba mor bwysig yw dangos fel ffenestr siop i fridwyr a sut y mae wedi helpu gydag arddangos ei gynnyrch gorau, yn arbennig yn Sioe Frenhinol Cymru.  Mae Mr Organ wedi ennill llawer o gystadlaethau, yn cynnwys sawl Pencampwr yn Sioe Frenhinol Cymru ac mae’i fridio wedi mynd ymlaen i ennill yn y Royal Highland Show ac yn y Great Yorkshire Show.

Ers gwasgaru’r ddiadell Charollais, mae wedi canolbwyntio ei sgiliau bridio ar berffeithio dafad Llŷn teip cyfoes, gan ddethol ar gyfer croen tynn, hyd a gwell cydffurfiad, yn gallu magu dau oen gyda’u pwysau cyfunol yr un faint â/neu’n drymach na’u mam yn 12 wythnos oed yn gyfan gwbl oddi ar laswellt (75/80kg).  Mae Mr Organ yn dal i hyrwyddo’r bridiau trwy rannu ei gyfoeth o gyngor a phrofiad gyda myfyrwyr coleg a bridwyr newydd.

Mae Mr Organ wedi cyflawni llawer o bethau cofiadwy, i enwi ychydig – ar ôl beirniadu defaid Charollais ym mhob Sioe Frenhinol yn y Deyrnas Unedig (dwywaith yn Sioe Frenhinol Cymru), beirniadodd y brîd Llŷn yn Sioe Frenhinol Cymru 2003 ac yn 2011, a chafodd yr anrhydedd o feirniadu’r Parau Rhyngfrid, eto yn Sioe Frenhinol Cymru.

Mr Alwyn Rees, yn cynrychioli Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Mr Richard Thomas, o Gymdeithas y Bridwyr Defaid Miwl Cymreig a Ms Kate Hovers, o’r Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol oedd panel y beirniaid ar gyfer y Wobr.

Dywedodd y beirniaid fod ansawdd yr ymgeiswyr eleni yn eithriadol unwaith eto.  Ar ôl cyfweld rhestr fer o dri ymgeisydd trawiadol, cytunodd y beirniaid y dylai Gwobr Goffa John Gittins gael ei dyfarnu i Mr Lionel Organ i gydnabod ei gyfraniad oes i Ddiwydiant Defaid Cymru.

Bydd Mr Organ yn derbyn y wobr yn y seremoni agoriadol yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ar ddydd Llun 28ain Tachwedd.

I gael mwy o wybodaeth am y Ffair Aeaf, neu i brynu tocynnau ewch i wefan CAFC.