Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Torrwyd sawl record yn yr ychydig ddyddiau gwych y bu i filoedd eu mwynhau yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, a gafodd ei chynnal ar faes y sioe yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt.

Wedi’i chynnal gyntaf yn 1990 ac ond yn ddigwyddiad undydd cymharol fach yn wreiddiol, mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru wedi dod yn un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd yng nghalendr amaethyddol Prydain.  Mae’r Ffair flynyddol yn dal i gadw ei safle fel un o’r sioeau stoc ddethol orau yn y DU, gan ddenu dros 700 o arddangoswyr eleni o Gymru, Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a’r Iseldiroedd.

Agorwyd y Ffair Aeaf yn swyddogol gan Mr Dafydd Wynne Finch fore dydd Llun ar ran sir nawdd Clwyd. Ffermwr a thirfeddiannwr o Ogledd Cymru yw Dafydd, y mae’i arferion yn cadw ffocws ar ffermio cynaliadwy ac atgynhyrchiol. Yn ystod ei anerchiad agoriadol, cyfleodd Dafydd bwysigrwydd gwaith cydweithredol o fewn y diwydiant amaethyddol.

Ffair Aeaf 2022 oedd digwyddiad cyntaf Aled Rhys Jones fel Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar ôl cychwyn ar y swydd ym mis Medi eleni.

“Roedd ymdeimlad gwirioneddol o gymuned yn Ffair Aeaf eleni. Roedd pawb y siaradais â nhw yn tynnu sylw at yr awyrgylch bywiog, yr egni a’r cyffro – y cyfan wedi’i wneud yn bosib gan y gefnogaeth gan ein cystadleuwyr, masnachwyr, noddwyr, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr.” meddai Aled.

Fel fy nigwyddiad cyntaf fel Prif Weithredwr, byddwn yn hoffi diolch i’r tîm cyfan sy’n chwarae rhan wrth ddod â’r Ffair Aeaf yn fyw. Nid yn unig y mae’n arddangosfa wych o fwyd a ffermio Cymru, ond mae hefyd yn arddangos ein hysbryd Cymreig unigryw. Diolch yn fawr iawn i bawb”

Yn ddigwyddiad masnachu yn bennaf, mae’r Ffair Aeaf yn rhoi cyfle perffaith i rwydweithio gyda chyd-ffermwyr, cynhyrchwyr, cyflenwyr, a phrynwyr, ac mae wedi dod yn hwb delfrydol i drafod a gwneud busnes.

Mae’r digwyddiad deuddydd yn llwyfan pwysig i drafod polisi a chael trafodaeth â Gweinidogion o Lywodraeth Cymru ac o Lywodraeth y DU sy’n bresennol, ynghyd â chynrychiolydd o Lysgenhadaeth yr Almaen, gan roi’r digwyddiad ar y map rhyngwladol. Mae’r Gymdeithas yn falch fod y Ffair Aeaf wedi gallu chwarae rhan unwaith eto wrth hwyluso trafodaethau rhwng unigolion a sefydliadau tra dylanwadol, sy’n effeithio ar ddyfodol amaethyddiaeth Cymru a’r economi wledig.

Bu’r gefnogaeth i’r digwyddiad gan y diwydiant, yn arbennig yr arddangoswyr da byw, yn syfrdanol. Gyda niferoedd cryf yn cystadlu o bob cwr o’r DU ym mhob adran, a mwy nag erioed yn cystadlu yn adran y defaid, y da byw, fel bob amser, oedd yn cymryd canol llwyfan y digwyddiad deuddydd prysur.

Dyfarnwyd un o’r teitlau mwyaf ei bri sydd i’w hennill yn y digwyddiad bob blwyddyn, Prif Bencampwr y Gwartheg, i ‘Baby Guinness’, Heffer o darw Limousin, yn pwyso 596kg, yn cael ei harddangos gan y Brodyr Edwards o Glwyd, Gogledd Cymru.  Fe’i gwerthwyd yn ddiweddarach gan ein harwerthwyr swyddogol, McCartneys, am y swm trawiadol o £8,600.  Prynwyd ‘Baby Guinness’ gan Kathryn Jones, o Fwydydd Castell Howell.

Dywedodd Gwyn Edwards, un o’r Brodyr Edwards, fod ennill Prif Bencampwr y Gwartheg yn golygu “popeth” iddyn nhw fel teulu. Bu Gwyn yn rhan o Bwyllgor y Ffair Aeaf am dros ddeng mlynedd ar hugain, a chafodd ei gydnabod am ei gyfraniad a’i ymroddiad i’r Gymdeithas yn ystod y Ffair. Mae’r teitl yn fuddugoliaeth wych, yn arbennig am ei bod wedi digwydd ym mlwyddyn sir nawdd Clwyd.

“Ar ôl yr holl ymdrech ac ymroddiad gan Glwyd, mae’n ardderchog i ni fel teulu orffen ar uchafbwynt.” meddai Gwyn.

Gwelwyd mwy o werthu gorau erioed yn adran y moch, ble gwnaeth pâr o foch Cymreig, yn cael eu harddangos gan HD ac EM Roberts, werthu am y swm trawiadol o £800/pen.

Yn hywle arall ar faes y sioe, aeth enillydd y Wobr Stondin Fasnach Gyffredinol Orau i Frank Sutton LTD. Cafodd y stondin, a leolwyd yn Neuadd De Morgannwg, ychydig ddyddiau prysur yn arddangos cynhyrchion gan John Deere, Cat ac Yamaha ac yn cynnig eu harbenigedd mewn peirianneg amaethyddol.

Eleni gwelwyd mwy na 300 o stondinau masnach, a thros 60 yn fwy o stondinau yn y Neuadd Fwyd ble oedd gwesteion yn gallu blasu’r cynnyrch ardderchog o bob rhan o Gymru a siroedd y gororau. Gwelodd noson y siopa gyda’r hwyr filoedd o ymwelwyr yn ymroi eto i rywfaint o siopa Nadolig ac yn mwynhau’r awyrgylch Nadoligaidd a’r arddangosfa dân gwyllt drawiadol.

Yn dychwelyd am y tro cyntaf er y pandemig Coronafeirws, bu Siôn Corn mor garedig â gwneud amser yn ei raglen brysur i gyfarfod y plant yn y Ffair Aeaf yn ei Groto. Eleni roedd dau o westeion arbennig iawn, sef Thor a Simba y ceirw, yn ymuno â ni!

Yn ôl unwaith eto, croesawodd Tafarn Ye Old Winter Fair lawer o westeion, a oedd yn gallu prynu cwpanau amldro ac iddynt frand y Ffair Aeaf i helpu i leihau’r gwastraff plastig defnydd untro yn ystod y Ffair.

Fel rhan o Daith Pêl-droed Cymru, daeth BBC Radio Cymru â’u het fwced enfawr wedi’i llenwi ag aer i’r Ffair Aeaf ddydd Llun gan gynnig cyfle gwych am lun i ymwelwyr y tu allan i adeilad y CFfI.

Gellir priodoli llwyddiant y Ffair nid yn unig i’r pwyllgor gweithgar a phenderfynol, ond hefyd i ffyddlondeb yr arddangoswyr, masnachwyr, gwirfoddolwyr, a stiwardiaid. Ni fyddai ein digwyddiadau’n digwydd heb gefnogaeth ein noddwyr, a diolchwn i’n prif noddwyr, Llywodraeth Cymru, HSBC a Dunbia, yn ogystal â’r holl noddwyr eraill, sydd wedi cefnogi’r digwyddiad hwn.

“Wrth i Ffair Aeaf 2022 dynnu at ei therfyn, gallwn fod yn falch unwaith eto o’r hyn sydd wedi’i gyflawni. Bu digwyddiad eleni’n anhygoel.” meddai William Hanks, Cyfarwyddwr y Ffair Aeaf.

“Rydym yn ddiolchgar am y maint aruthrol o waith caled ac ymroddiad gan y llu o wirfoddolwyr, stiwardiaid, masnachwyr, noddwyr ac, wrth gwrs, yr ymwelwyr sy’n gwneud yr achlysur hwn yn bosib. Rydym yn gobeithio bod ein holl westeion wedi mwynhau’r Ffair Aeaf ac edrychwn ymlaen at eu croesawu nhw’n ôl i’n digwyddiadau y flwyddyn nesaf.”

Crynodeb o’r canlyniadau:

Prif Bencampwr y Gwartheg

Baby Guinness, Heffer o darw Limousin, yn pwyso 596kg, wedi’i magu ac a arddangoswyd gan y Brodyr Edwards o Sir Ddinbych. Fe’i gwerthwyd am £8,600 i Gastell Howell.

Prif Bencampwr y Bîff Ifanc

Queen of Hearts, Heffer yn pwyso 397kg, wedi’i magu ac a arddangoswyd gan James May, o Swydd Gaerwrangon. Fe’i gwerthwyd am £5,500 i M Wynne o Matlock.

Prif Bencampwr Sengl y Moch

Mochyn Cymreig, a arddangoswyd gan H D ac EM Roberts. Fe’i gwerthwyd am £800 i Mr Tom Hughes o Ynys Môn.

Prif Bencampwr y Pâr o Foch

Pâr o foch Cymreig, a arddangoswyd gan H D ac EM Roberts. Fe’u gwerthwyd am £800/pen i Mr Tom Hughes o Ynys Môn.

Prif Bencampwr y Carcas Sengl

Oen Beltex X Beltex x, a arddangoswyd gan B Blandford a’i Feibion. Fe’i gwerthwyd am £400 i P.Tucker o Abertawe.

Prif Bencampwr y Pâr o Garcasau

Pâr o ŵyn Beltex, a arddangoswyd gan N & L Standring. Fe’u gwerthwyd am £400 i The Gower Butchers o Abertawe.

Pencampwr Hamper Cig Cyffredinol

Arddangosfa Hamper Cig Cymreig Ffres, a arddangoswyd gan Jones a’i Fab. Fe’i gwerthwyd am £410 i SVB Thomas o Gastellnewydd Emlyn.

Prif Bencampwr y Defaid

Pâr o ŵyn Beltex, a arddangoswyd gan R Hall & Son, o Gaerliwelydd. Fe’u gwerthwyd am £300/pen i Farmers Fresh.

Dofednod wedi’u Trin

Twrci, a arddangoswyd gan Mr Stephen Goulbourne. Fe’i gwerthwyd am £440 i Mr Tom Hughes, o Ynys Môn.

Pencampwr y Ceffylau Cymreig
Eyarth Vienna, eboles flwydd o Ferlen Gymreig, a arddangoswyd gan Joe Parry o Sir Ddinbych.

Prif Bencampwr y Ceffylau

Eyarth Vienna, eboles flwydd o Ferlen Gymreig, a arddangoswyd gan Joe Parry o Sir Ddinbych.

Pencampwr yr Helgwn Yn Y Sioe
Becca, o Helwyr Tywi a Chothi. Yr Ast Orau wedi’i Chynnig yn Nosbarth yr Helgwn Cymreig.

Bydd rhestr lawn o’r canlyniadau a’r enillwyr ar gael ar Ap CAFC a’r wefan yn y man.