Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Ymwelodd dros fil o blant ysgol a myfyrwyr o golegau amaethyddol ar draws Cymru a dros y ffin â Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, a gynhaliwyd ar faes y sioe yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt yr wythnos ddiwethaf.
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn hyrwyddo gwyddor, ymchwil, ac addysg amaethyddol, yn arbennig ym meysydd bwyd, ffermio, a chefn gwlad, fel un o’i phrif amcanion elusennol. Felly, mae’r Gymdeithas wrth ei bodd o fod wedi croesawu nifer mor fawr o blant a myfyrwyr o bob oed i ddysgu mwy am amaethyddiaeth yn ystod y digwyddiad deuddydd.
Mae’r Ffair Aeaf yn unigryw o gymharu â digwyddiadau eraill y Gymdeithas am ei bod yn digwydd yn ystod y tymor. Bob blwyddyn mae mwy o ysgolion a cholegau yn gweld gwerth addysgol mynychu’r digwyddiad hwn i ddysgu am gynhyrchu bwyd, y gadwyn gyflenwi a sefydliadau amaethyddol.
Yn cyffwrdd â llawer agwedd ar y cwricwlwm, mae ymweliad â’r Ffair Aeaf yn gyfle gwych i fyfyrwyr ddysgu am amaethyddiaeth mewn perthynas ag astudiaethau busnes, coginio a maeth, lles anifeiliaid, daearyddiaeth, mathemateg a llawer mwy. Mae myfyrwyr yn gallu gweld yn uniongyrchol y cynnyrch crai gorau ar ddangos o fewn y da byw, y cynnyrch terfynol yn y cystadlaethau bwtsiera, a’r cynnyrch o ansawdd uchel yn y neuadd fwyd.
Cynhaliwyd nifer o weithgareddau addysgol yn ystod y digwyddiad ddeuddydd. Ar fore Llun y Ffair Aeaf, fe wnaeth Cows on Tour gynnal digwyddiad seminar yng Nghanolfan yr Aelodau mewn cydweithrediad â NFU Cymru (Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr). Gyda’i gilydd bu iddynt groesawu 120 o blant o flwyddyn 10 yn Ysgol Uwchradd Gwernyfed ac Ysgol Calon Cymru (Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt) i ddysgu am ffermio yng Nghymru ac am yrfaoedd mewn amaethyddiaeth.
Cadeiriwyd sesiwn panel gan Abi Reader, Dirprwy Lywydd NFU Cymru, ac yn ymuno â hi oedd y siaradwyr Stella Owen (Cynghorydd Sirol NFU Cymru), Ernie Richards (ffermwr defaid), Gareth Wall (Adran Broffesiynol Wledig McCartneys), Kate Adams (Uwch-gynghorydd Polisi yn Swyddfa Amaethyddiaeth Prydain, Brwsel) a Robert Davies (Cyfarwyddwr Anrhydeddus Cynorthwyol Carcasau Defaid ac Ŵyn, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru). Soniodd bob un o’r panelwyr am sut y bu iddynt ddechrau yn eu darpar swyddi a chychwyn eu taith ym myd gwaith amaethyddiaeth a ffermio.
Yn dilyn y sesiwn panel, trefnodd Cows on Tour ac NFU Cymru helfa chwilotwyr o amgylch maes y sioe i’r plant ymweld â stondinau masnach megis Hybu Cig Cymru, Sefydliad DPJ a CFfI Cymru.
Lansiodd Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru ymgyrch cyhoeddusrwydd dwyieithog newydd yn targedu plant ysgol oedran cynradd yng Nghymru. Mae fideo byr ynghyd â dau lyfr gwaith lliwgar wedi’u hanelu at blant o bedair i un mlwydd ar ddeg oed wedi’u cynhyrchu mewn cydweithrediad gan Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WFSP) a sefydliadau rhanddeiliaid gwledig allweddol yng Nghymru i annog plant i ddysgu am bwysigrwydd diogelwch fferm a diogelu eu hunain rhag rhai o’r peryglon mwyaf cyffredin ar ffermydd.
O’r fferm i’r fforc, mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn ffordd ragorol o rannu’r stori ffermio gadarnhaol am sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, ac i ddysgu mwy am yrfaoedd a chyfleoedd ym myd amaethyddiaeth. Os ydych yn rhan o ysgol neu goleg ac y byddech yn hoffi trefnu trip i’r Ffair Aeaf nesaf yn 2023, dewch i gysylltiad ar requests@rwas.co.uk.