Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Mae Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig agoriadol CAFC wedi’i chwblhau bellach ar ôl rhaglen llawn mynd o hyfforddiant, mentora, cefnogaeth ac arweiniad dros dair sesiwn breswyl ddwys.
Lansiodd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, gyda chefnogaeth Sir Nawdd Morgannwg 2023, y rhaglen newydd ym mis Mai 2022, ble dechreuodd y cyfle gyda diwrnod dethol/blasu ar fferm i’r darpar ymgeiswyr. Wedi’i hanelu at ysbrydoli arweinwyr y dyfodol mewn amaethyddiaeth, roedd y rhaglen yn rhoi’r cyfle i ddatblygu sgiliau arwain ar adeg mor bwysig i’r sector amaethyddol. Cyhoeddwyd y pedwar ar ddeg ymgeisydd llwyddiannus yn ystod y seremoni wobrwyo yn Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf 2022.
Cynhaliwyd y gyntaf o’r tair sesiwn breswyl ar Faes Sioe Frenhinol Cymru ym mis Medi 2022, ble, dros y tri diwrnod, y clywodd aelodau’r rhaglen gan ffigyrau allweddol yn y diwydiant, yn cynnwys NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru a Sefydliad DPJ. Darparodd y Cyflwynydd a’r Newyddiadurwr Darlledu, Mariclare Carey-Jones hyfforddiant yn y cyfryngau i’r grŵp, gan drafod cyfarwyddyd ar gyfweliadau’r cyfryngau, y cyfryngau cymdeithasol a phroffiliau uchel yn y cyfryngau cyn i’r aelodau gael y cyfle i ymarfer eu cyfweliadau eu hunain ar gyfer adborth.
Ym mis Tachwedd 2022, cafodd aelodau’r rhaglen y cyfle i fynychu Cynhadledd Ffermio Rhydychen, a gynhelir bob blwyddyn, yng Nghaerdydd. Roedd y gynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau gan ddetholiad o Ysgolorion Ffermio Nuffield yn 2020 ac yn 2021. Yn rhychwantu amryw o sectorau, fe wnaeth yr Ysgolorion oedd yn cyflwyno rannu eu mewnwelediadau a’u hargymhellion i ddiwydiant yn dilyn eu hastudiaethau ar draws y byd.
Digwyddodd y sesiwn olaf ym mis Ionawr eleni, gan ddechrau yn Ne Cymru gydag ymweliad â Siop Fferm Forage ac Ystâd Penllyn, yna ymlaen i Sussex ar gyfer taith fferm o amgylch Weston’s Farm, cartref Is-Lywydd yr NFU, David Exwood. Y stop nesaf oedd Ystâd Knepp Castle yn Horsham i gael gwybod am eu prosiect ddad-ddofi tir cyn cael cinio gyda Daniel Burdett, Ysgolor Nuffield, i drafod amaethyddiaeth atgynhyrchiol.
Roedd y diwrnod canlynol yn cynnwys galw heibio i Siop Fferm Gloucester Services ble cafwyd cyflwyniad rhagorol ar werthiant a marchnata gan David Morland, Pennaeth Bwtsieraeth Westmorland Family; busnes teuluol sy’n rhedeg mannau gwasanaethau traffyrdd unigryw wedi’u lleoli yn Cumbria. Wedi hynny, roedd hi’n ôl i Gymru ble gwnaeth y grŵp ymweld â Butetown i gyfarfod gweithwyr cymorth a dod i wybod am brosiectau cymunedol o fewn yr ardal drefol. Terfynodd y sesiwn olaf gyda thaith o gwmpas Y Senedd a sgyrsiau gydag aelodau allweddol o Lywodraeth Cymru, megis Llŷr Gruffydd AS, gwleidydd Plaid Cymru, ac aelodau’r blaid Geidwadol, Samuel Kurtz AS a James Evans AS.
Fel newydd-ddyfodiad i ffermio, cafodd Natalie Hepburn o Garlic Meadow, un o aelodau’r rhaglen, y profiad yn amhrisiadwy wrth roi mynediad iddi at adnoddau a hyfforddiant na fyddai hi wedi gwybod amdanynt o’r blaen.
“Rwyf wedi ymweld ag amryw o ffermydd a mentrau gwledig sydd wedi ehangu fy ngorwelion a gwneud imi feddwl yn wahanol am fy musnes fy hun. Teimlaf fy mod wedi elwa ar y sesiynau datblygu personol o ran hyder. Rwyf wedi cyfarfod criw anhygoel o unigolion, yr wyf yn edrych ymlaen at barhau i weithio â nhw yn y dyfodol”, meddai Natalie.
Gwnaeth Rhys Jones o Crosshands, Sir Gaerfyrddin, aelod arall o’r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig, y sylw fod y rhaglen wedi rhoi’r egni iddo i gyflawni mwy ac i ddatblygu ymhellach.
“Mae’r rhaglen wedi caniatáu inni’r cyfle i siarad ag arweinwyr diwydiant sydd wedi ein wir ysbrydoli fel grŵp. Rydym i gyd yn ddiolchgar iawn ac mae pob un ohonom yn barod ac wedi ein galluogi yn awr gyda’r arfau cywir i gyfrannu’n gadarnhaol ac i arwain y diwydiant gwledig yn ei flaen”, meddai Rhys.
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru’n llongyfarch y fintai gyntaf ar raglen lwyddiannus ac mae’n falch dros ben y bu’n brofiad mor werthfawr. Byddai’r Gymdeithas yn hoffi datgan diolch calon hefyd i Sir Nawdd Morgannwg ac Ystâd y Diweddar Norman Griffiths am eu haelioni wrth ariannu’r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig.
Bydd y ffenestr ymgeisio ar gyfer Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig eleni yn agor gyda hyn. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, efallai yr hoffech fynegi’ch diddordeb trwy e-bostio pachiefexec@rwas.co.uk am fwy o wybodaeth. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gefnogi’r prosiect hwn ac at annog y genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwledig.