Defnyddio Data i Herio Naratif Ffermio Negyddol - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Dylai ffermio gymryd rheolaeth ar y naratif o ran ei ‘stori dda iawn’, y mae cynhadledd o ffermwyr blaenllaw Cymru wedi clywed. A gan fod amaethyddiaeth gyfoes yn ddiwydiant a yrrir gan ddata, mae’r dystiolaeth yno i’w choladu a’i defnyddio. Mae angen i ffermwyr weithredu fel gwneuthurwyr newid.

Cynhaliwyd cynhadledd flynyddol Cyngor Cymru Dyfarniadau’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol, CARAS Cymru, yn IBERS, Aberystwyth, ac roedd yn mynd i’r afael â’r thema, Diwydiant Ffermio Addas at y Dyfodol. Daeth y cyfleoedd a’r heriau a gyflwynir gan ddata a thechnoleg yn amlwg fel y pwnc canolog.

Galwodd Teleri Fielden, ffermwr bîff a defaid cenhedlaeth gyntaf a Swyddog Polisi Undeb Amaethwyr Cymru, ar ffermwyr i drafod eu data fferm yn feirniadol. Roedd ei dadansoddiad ei hun ar y fferm ar denantiaeth, y mae hi’n ei rhedeg gyda’i gŵr Ned ym Meddgelert yng Ngwynedd, wedi dangos eu bod yn gallu herio’r naratif negyddol ynglŷn â newid hinsawdd, amaethyddiaeth a ffermio da byw. Roedd arnynt wedi bod ag eisiau system ffermio a fyddai’n mynd i’r afael â’r materion hynny, y gallent sefyll y tu ôl iddi a bod yn falch ohoni.

Meddai hi: “Pa gynnyrch arall y mae pobl yn ei brynu ble gellwch ddweud os prynwch chi’r cynnyrch hwn a’i fwyta, neu’i gefnogi, rydych yn creu’r math yma o dirwedd. ’Does dim llawer sy’n gallu gwneud hynny.

“Rwyf yn meddwl fod hyn yn rhywbeth y gallwn sefyll y tu ôl iddo yn falch mewn gwirionedd fel ffermwyr yng Nghymru ac mae’n fuddugoliaeth eithaf hawdd. Mae’r planhigion yn plannu hadau ac maen nhw’n blodeuo ac mae ond yn rhan o’n system. Mae pawb ar ei ennill ar unwaith. Rydych yn dod â phobl i mewn, maen nhw’n cerdded trwy’r fferm ac yna’n mynd, O dwi’n ei gael yn awr.

“Mae’r ystadegau yno, ond rwyf yn meddwl mai’r hyn y mae angen inni fod yn llawer gwell ynddo fel diwydiant yw bod yn gallu eu trafod yn feirniadol, trafod ein hunain yn feirniadol ac yna sefyll y tu ôl i’r data y gallwn ei gynhyrchu, y canlyniadau y gallwn eu cynhyrchu ac yna allu dweud, mewn gwirionedd dyma beth allwn ei wneud a dyma’r data.”

Mae technoleg a data yn gallu chwarae rhan bwysig hefyd wrth gyrraedd at blant ysgol a rhoi dyfnder i’r neges ffermio, yn ôl Edward Morgan o Fwydydd Castell Howell. Fel Rheolwr Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol y Grŵp, pwysleisiodd bwysigrwydd cydweithrediad rhwng busnesau, undebau, ysgolion, academia a rhanddeiliaid.

Soniodd wrth y gynhadledd am bwysigrwydd bod yn wneuthurwyr newid a dywedodd mai’r cwestiwn mawr yw sut i ddylanwadu’n gadarnhaol ar yr hyn y mae pobl yn ei roi ar eu platiau. Ei genhadaeth yw cyflwyno negeseuon cadarnhaol, wedi’u seilio ar dystiolaeth, i fesur paham mai eitem arbennig o fwyd yw’r gorau. Cyfrifoldeb Castell Howell oedd cyflwyno negeseuon, ynghyd â’r mil o baledau o fwyd y maen nhw’n eu danfon bob dydd, sydd heb fod yn dasg mor hawdd yn y sector gwasanaeth bwyd.

Meddai Edward: “Rwyf yn meddwl ei bod yn hen bryd inni wthio’n ôl gyda rhywfaint o negeseuon cadarnhaol sydd yn mynd y tu hwnt i darddiad yn unig. Mae’n rhaid bod mwy o ddyfnder iddo.”

Eglurodd sut, gan weithio gyda’r rheolwr arlwyo yn Neuadd Dinas Caerdydd, y gwnaethant roi cod QR ar y fwydlen ar gyfer Cinio Mawreddog Cynhadledd Ffermio Nuffield.  Arweiniodd at y ffermwyr yn trafod y gwahanol gynhwysion: “Cafwyd y cig o un ffynhonnell gan un o’n cyflenwyr ym Mhendeulwyn.  Roeddem wedi cael archwiliad carbon ar y fferm ac felly yr hyn y gallem ei ddweud yn hyderus wrth y cynrychiolwyr y noson honno oedd bod y cig eidion ar y fwydlen, yr allyriadau carbon o’r fferm honno 26% yn llai na chyfartaledd y DU ac felly mae hynny’n bositif dymunol. A chafodd 50% o’u carbon ei secwestru’n ôl i mewn ac mae hynny’n destun siarad mawr ar allyriadau carbon, effaith amgylcheddol. Fe wnaethom ganfod ffermwr da a theulu da, felly un neges gadarnhaol fan yna.”

Ac ychwanegodd nad oedd dim gwell lle nag mewn ysgolion i ddylanwadu ar y genhedlaeth nesaf, i gael negeseuon cadarnhaol trwodd. Rhannodd fideos o waith gyda phlant ysgol Gŵyr, yn mynd â nhw allan ar ffermydd a mesur eu hymateb.

(Chwith i’r dde) Edward Morgan, Rheolwr Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol Grŵp i Fwydydd Castell Howell, Thomas Allison, peiriannydd llaeth ac arbenigwr technegol, Teleri Fielden, ffermwr bîff a defaid a Swyddog Polisi Undeb Amaethwyr Cymru ac Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

Galwodd Thomas Allison, peiriannydd llaeth ac arbenigwr technegol, am well dealltwriaeth o rôl  technoleg ar y fferm, yn arbennig mewn perthynas â’r darnau sbâr sydd eu hangen ar gyfer cyfarpar ffermio yfory. Eglurodd sut oedd cleient o ffermwr o’r Unol Daleithiau wedi methu blaen brynu’r darnau sbâr yr oedd angen iddo eu storio ar y safle ar gyfer y gweithgaredd godro â robot.  Prynodd argraffydd 3D a, thros ychydig ddyddiau, argraffodd ei fab eu darnau sbâr eu hunain yn costio pum doler y darn sbâr, o gymharu â 100 doler am y darn dilys ac er eu bod ond yn para am hanner mor hir gellid eu newid yn rhagweithiol gan osgoi pethau’n torri i lawr.

Meddai Thomas: “Rwyf yn meddwl bod hynny’n ateb gwirioneddol gain ac ymarferol gan ffermwr, dim ond gyda set ychydig bach yn wahanol o sgiliau a chelfi. Mae arnom angen gwell dealltwriaeth o’r rheini sy’n cynhyrchu technolegau heddiw a’u galluoedd i ddatblygu ac addasu.

“Ar adegau, bydd disgwyl inni ddatblygu ein hatebion ein hunain ac, yn allweddol i hyn, mae angen inni sefydlu diwylliant o chwilfrydedd a dychymyg, nodweddion y byddwn yn dadlau eu bod wedi’u anghefnogi’n weithredol ar y rhan fwyaf o ffermydd a busnesau gwledig. O’u defnyddio’n dda, mae i gelfi a systemau sy’n dod i’r fei y pŵer i newid sut ydym yn byw a gweithio yng nghefn gwlad a sut mae ein cymunedau yn datblygu.

“Trwy’n gweithredoedd a’n buddsoddiadau yn awr, ni yw penseiri yfory. Mewn byd ar ôl Brexit, ac ar ôl Covid rhaid inni geisio technolegau a datblygu strategaethau craidd sydd o fudd inni i gyd.”

Meddai Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru sy’n darparu’r ysgrifenyddiaeth ar gyfer CARAS Cymru: “Fel diwydiant rydym yn dweud yn aml ein bod yn cynhyrchu’r bwyd o’r ansawdd gorau yn y byd ac er y dylem yn gyfiawn fod yn falch o’r hyn a wnawn, rhaid inni gofio’r angen i gyfiawnhau’r honiadau hynny.

“I mi, dyna oedd un o’r negeseuon canolog o’r gynhadledd, ynghyd â’r angen i ddefnyddio data i gefnogi ein stori ffermio gadarnhaol a chymryd ymagwedd fwy rhagweithiol at ein naratif ein hunain. Roedd yn fy atgoffa o gyflwyniad a welais gan athro marchnata o Ffrainc tra oeddwn ar fy Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield a ddywedodd ‘ystyrir bob amser mai’r stori gyntaf yw’r gwirionedd, ac ystyrir mai ymateb i’r gwirionedd yw unrhyw beth sy’n dilyn’. Gadewch inni wneud yn siŵr ein bod yn cyrraedd yno gyntaf.”