Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Bob blwyddyn mae gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru Sir Nawdd wahanol, a thro Morgannwg yw hi eleni. Digwyddiad Sir Nawdd Morgannwg ar gyfer 2023 yw Regen ’23, sy’n sefyll dros “Regenerative, Energy, Grassland, Environmental a Natural”.

Bydd y digwyddiad Regen cyffrous yn digwydd ym Mro Morgannwg, ar Sealands Farm, Saint y Brid CF32 0RR ar ddydd Iau 8 Mehefin 2023 am 10 y bore. Mae’n cael ei groesawu’n garedig trwy ganiatâd Richard a Lynwen Anthony a’r teulu. Mae Richard Anthony yn rhedeg menter âr amrywiol, flaengar sy’n cyfuno da byw ac ynni adnewyddadwy, gyda ffocws ar iechyd pridd, tir glas a dal carbon.

Bydd y digwyddiad yn ymestyn dros 600 erw gan arddangos goreuon amaethyddiaeth Cymru a sut y gall systemau ffermio atgynhyrchiol a blaengar helpu i oresgyn yr heriau fydd yn wynebu amaethyddiaeth Cymru yn y dyfodol.

Bydd yn croesawu nifer o arweinwyr y diwydiant, sefydliadau a chwmnïau o bob sector, gan ei wneud yn ddigwyddiad rhaid ymweld ag e’ i unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol ffermio.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys:

  • Teithiau Fferm – Bydd teithiau’n digwydd yn rheolaidd trwy gydol y dydd gan stopio wrth amrywiol safleoedd treialon a mannau o ddiddordeb i ddangos y dulliau sy’n cael eu profi ar y fferm ar hyn o bryd. Bydd y treialon yn cynnwys ydau, rêp had olew, glaswellt, cnydau protein amgen, indrawn, cnydau gorchudd, yr amgylchedd, a chadwraeth.
  • Stondinau Masnach – Sefydliadau a busnesau ar gyfer y sectorau âr a da byw.
  • Seminarau – Seminar a sesiynau holi ac ateb trwy gydol y dydd gan ffermwyr sy’n arwain y diwydiant ac Aelodau Seneddol.
  • Arddangosiadau Gweithiol – Llu o arddangosiadau gweithiol gan amryw o gynhyrchwyr peiriannau.
  • Lletygarwch – Bar wedi’i stocio’n llawn a man arlwyo.

Mae elusennau dewisedig Morgannwg yn cynnwys Y Sefydliad Amaethyddol Llesiannol Brenhinol (RABI), ac Ambiwlans Awyr Cymru, ymhlith eraill.

Mae digonedd o ffyrdd i gymryd rhan yn y digwyddiad, megis pecynnau noddi a hysbysebu, stondinau masnach, lleiniau treialu ac arddangosiadau offer. I gael mwy o wybodaeth neu i wneud cais am unrhyw un o’r cyfleoedd sydd ar gael, ewch i wefan CAFC. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 28ain Ebrill 2023.

Mae Regen ’23 yn gyfle gwych i gyflenwi ffermwyr ag ymgyfuniad o dechnoleg ble gallant ddysgu, edrych, archwilio, a mabwysiadu arferion amaethyddol newydd.

Mae tocynnau bore-godwyr ar werth yn awr. Ewch i https://www.ticketsource.co.uk/glamorgan-rwas i’w prynu. Cysylltwch ag Ysgrifennydd Morgannwg, Charlotte Thomas ar glamregen23@gmail.com am ragor o wybodaeth.

I gael gwybod mwy am system siroedd nawdd y Gymdeithas, ewch i wefan CAFC.