Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr

Mae’n bleser gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, gyda chefnogaeth Sir Nawdd Morgannwg 2023, lansio Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig CAFC ar gyfer 2023-2024.

Mae’r Rhaglen Arweinyddiaeth yn anelu at ddarparu rhaglen lawn mynd o hyfforddiant, mentora, cefnogaeth ac arweiniad dros 3 sesiwn breswyl ddwys. Mae’r cyfle i rwydweithio gydag unigolion uchel eu proffil o fewn y diwydiant yn dechrau gyda diwrnod dethol/blasu i ymgeiswyr ym mis Mai 2023.

Wedi’i hanelu at ysbrydoli arweinwyr y dyfodol ym myd amaeth, bydd y rhaglen ar gael i unrhyw un wneud cais am y lleoedd cyfyngedig.  Cymerwch y cyfle hwn i ddatblygu’ch sgiliau arwain ar adeg mor bwysig i’n sector.

Ffurflen Gais

Dylid e-bostio ceisiadau wedi’u cwblhau at Alison Harvey. Ebost: leadership@ruraladvisor.co.uk

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Iau 4 Mai 2023.