Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Yn ei 102il flwyddyn bellach, mae Sioe Frenhinol Cymru yn denu cannoedd o filoedd o ymwelwyr i galon Canolbarth Cymru i ddod at ei gilydd i ddathlu goreuon oll amaethyddiaeth Cymru a Phrydain. Mae’r Sioe yn ddigwyddiad pedwar diwrnod llawn mynd o gystadlaethau cyffrous, da byw, coedwigaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, siopa, bwyd a diod, rhaglen 12 awr o adloniant di-dor, atyniadau, arddangosfeydd a llawer mwy.
Fel arfer, mae atodlen lawn dop o ddosbarthiadau da byw a gwobrau arbennig ar gyfer amrywiaeth eang o gystadlaethau amaethyddol a gwledig, sy’n denu ceisiadau o bell ac agos. Ychwanegiad newydd at yr adran geffylau fydd dosbarthiadau Rhan-Frîd dan Farchog, sy’n cynnig cyfle i arddangoswyr i ddangos ceffylau heb fod yn rhai pedigri. Bydd Sioe Frenhinol Cymru eleni yn cynnal sioeau cenedlaethol y Gymdeithas Gwartheg Blonde Prydeinig a Chymdeithas y Defaid Kerry Hill hefyd. Mae Adran Wyau newydd wedi’i chyflwyno eleni hefyd, yn cynnwys cystadlaethau coginio a chrefftau i blant ac i oedolion. Bydd byrddau arddangos addysgol o wahanol fridiau Dofednod ac ardal weithgaredd i blant â lle amlwg fel rhan o’r adran newydd yma.
Ynghyd â’r da byw ardderchog, mae Sioe Frenhinol Cymru yn darparu rhywbeth i ddiddori pawb diolch i’w hamrywiaeth eang o weithgareddau ac atyniadau. Yn newydd ar gyfer 2023, bydd yr artist ceffylau arbennig, Santí Serra yn un o atyniadau mawr y Prif Gylch. Yn cael ei glodfori fel y ‘Sibrydwr Ceffylau Sbaenaidd’, bydd Santí’n perfformio’i act coreograffi mesmereiddiol gyda’i geffylau Arabaidd bob diwrnod o’r sioe. Dressage naturiol yw’r arddangosfa, yn dal prydferthwch symudiad y ceffyl, a’r cytgord rhwng anifail a dyn.
Peidied neb â methu Tîm FMX Bolddog. Fel prif dîm arddangos beiciau modur y Deyrnas Unedig, mae Bolddog Lings yn seilio eu sioe o gwmpas system lanio symudol fwyaf a mwyaf soffistigedig y byd. Yn cymryd y brif ran yn yr arddangosfa mae reidwyr motocros dull rhydd o’r radd uchaf, yn cynnwys y triciau gwefreiddiol diweddaraf sydd ond i’w gweld ar y teledu fel arfer.
Bydd mwy o’r uchafbwyntiau yn y Prif Gylch yn cynnwys Band Catrodol y Cymry Brenhinol, un o’r ychydig iawn o fandiau pres i gyd o fewn Cerddoriaeth y Fyddin Brydeinig, a’r RAF Falcons, prif dîm arddangos parasiwtio milwrol y Deyrnas Unedig, gyda’u harddangosfa cwymp rhydd cyffrous ar gyflymder o hyd at 120 milltir yr awr.
Yn dychwelyd i ddiddanu’r tyrfaoedd fydd y trawiadol Tristar Carriage Driving, Meirion Owen a’i Gŵn Defaid, Ras Gyfnewid Rhwng Helfeydd a llawer mwy.
Gyda dros 400 o fanwerthwyr a stondinau masnach, bydd siopwyr yn dod o hyd i ddigonedd o anrhegion unigryw, nwyddau cartref, ategolion, a dillad i ddewis ohonynt. Bydd Siop Sioe Frenhinol Cymru ar agor hefyd trwy gydol y Sioe, ble gall ymwelwyr brynu holl bethau da Sioe Frenhinol Cymru, yn cynnwys yr argraffiad cyfyngedig o’r Poster Sioe swyddogol ar gyfer 2023.
Bydd y Neuadd Fwyd yn ferw o weithgaredd coginio unwaith eto, yn arddangos y cynnyrch gorau un sydd gan Gymru i’w gynnig. Bydd amrywiaeth eang o gwmnïau’n cymryd rhan yn arddangosfa fwyd y Sioe Frenhinol, gan greu microcosm gwirioneddol o ddiwydiant bwyd a diod Cymru o ddanteithion sawrus i drîts melys.
Eleni byddwn yn lansuio ein Pentref Bwyd Cymreig newydd sbon sy’n rhoi lle amlwg i nifer fawr o ddewisiadau bwyd a diod cyffrous, ynghyd â llwyfan gerddoriaeth fyw a seddi i ymlacio ac i fwynhau’r awyrgylch.
I godi hyd yn oed mwy o flys bwyd arnoch, bydd y bwyty ‘Pori / Graze’ dros dro newydd sbon ar agor yn ystod y Sioe, wedi’i leoli wrth ymyl y prif gylch ochr yn ochr â Chanolfan yr Aelodau.
I gael gwybod mwy am beth sydd ar eich cyfer yn Sioe Frenhinol Cymru eleni anelwch am ein gwefan. Mae tocynnau ar gael i’w prynu ar-lein yn awr, ac rydym yn annog ichi sicrhau eich tocyn ymlaen llaw i osgoi’r ciwiau ac osgoi oediadau! Ewch i https://rwas.ticketsrv.co.uk/events/ i archebu eich rhai chi yn awr.