Cneifwyr a Thrinwyr Gwlân Cymru ar ben y byd! - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru y tu hwnt o falch o Dîm Cneifio a Thrin Gwlân Cymru am gymryd tair o’r chwe theitl byd ym Mhencampwriaethau Byd y Gwellau Aur 2023 a gynhaliwyd yn Sioe Frenhinol yr Ucheldir yn Yr Alban y penwythnos diwethaf.

Mae Pencampwriaethau Cneifio Defaid a Thrin Gwlân y Gwellau Aur yn arddangos y grefft, y medr a’r technegau y mae’n ei gymryd i fod yn bencampwr byd. Sioe Frenhinol yr Ucheldir oedd yn croesawu’r gystadleuaeth eleni. Heidiodd timau cneifio o 30 o wledydd i Gaeredin i gystadlu yn yr ornest, sy’n cael ei chynnal mewn gwahanol leoliad o amgylch y byd bob tair blynedd.

Yn yr hyn a fu’n fuddugoliaeth ardderchog i Gymru, hawliodd Gwion Lloyd Evans deitl Pencampwr y Byd Unigol Cneifio â Pheiriant, gyda’i gyd-gneifiwr o Gymru a’r cyn-Bencampwr Byd, Richard Jones yn gorffen yn ail.

Yn adran y timau, cyfunodd Evans a Jones yn wych i gipio’r gystadleuaeth Cneifio â Pheiriant Tîm. Enillwyd gornest Pencampwr y Byd Trin Gwlân Tîm gan y pâr o Gymru, Ffion Jones a Sarah-Jane Rees.

Daeth Elfed Jackson a Gareth Owen yn drydydd ym Mhencampwriaeth Tîm Cneifio â Gwellau y Byd. Cipiodd Elfed y chweched safle hefyd yn Rownd Derfynol Pencampwr y Byd Unigol â Gwellau.

Yn arwain y Tîm Cymreig yn fedrus i’w llwyddiant oedd Rheolwr y Tîm, Alwyn Manzini.

Llongyfarchodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr CAFC Dîm Cymru ar eu buddugoliaeth ragorol.

“Mae’r Gymdeithas, ynghyd â Chymru gyfan, yn ymfalchïo’n fawr iawn yn yr hyn y mae’r tîm wedi’i gyflawni yn y Gwellau Aur. Dyma’r canlyniad gorau y mae Cymru wedi’i gael erioed yn y pencampwriaethau byd, ac ni allwn aros i groesawu’r tîm yn ôl adref i godi’r to yn Sioe Frenhinol Cymru ymhen dim ond pedair wythnos.”

Mae CAFC yn mynegi eu diolch calon i brif noddwyr Tîm Cymru, Nettex Agri a Caleb Roberts Insurance Services Ltd.

Am gyfle i wylio’r pencampwyr byd yn cystadlu yn ein cystadlaethau Cneifio a Thrin Gwlân gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich tocynnau yn awr. Mae am fod yn drydanol!

Gweler isod restr o’r holl enillwyr o Gymru yn Sioe Frenhinol yr Ucheldir a Phencampwriaethau Cneifio Byd y Gwellau Aur.

Canlyniadau Cneifio Sioe Frenhinol yr Ucheldir 2023 –

Rownd Derfynol Agored â Pheiriant

Cyntaf – Mr Richard Jones
Ail – Mr Gwion Lloyd Evans
Pumed – Mr Gareth Daniel

Rownd Derfynol Ganolradd â Pheiriant

Cyntaf – Mr Dewi Jones
Ail – Mr Deio Williams
Trydydd – Mr Jack Samuel

Rownd Derfynol Iau â Pheiriant

Pedwerydd – Mr Harvey Samuel
Chweched – Mr Iwan Robert Ellis

Rownd Derfynol Trin Gwlân Agored

Pedwerydd – Mrs Ffion Jones

Rownd Derfynol â Gwellau Agored

Pumed – Mr Gareth Owen

 

Canlyniadau Gwellau Aur –

Pencampwr y Byd Unigol Cneifio â Pheiriant – Mr Gwion Lloyd Evans

Pencampwr y Byd Tîm Cneifio â Pheiriant – Mr Gwion Lloyd Evans a Mr Richard Jones

Pencampwr y Byd Tîm Trin Gwlân – Miss Sarah Rees a Mrs Ffion Jones

Trydydd – Pencampwr y Byd Tîm Gwellau – Mr Elfed Jackson a Mr Gareth Owen

Ail – Cneifio Unigol â Pheiriant – Mr Richard Jones

Chweched – Cneifio Unigol â Gwellau – Mr Elfed Jackson

 

I gael mwy o wybodaeth am Sioe Frenhinol Cymru 2023 neu i brynu tocynnau ewch i wefan CAFC.