Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Cynhaliodd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) Lansiad Swyddogol y Sioe am y tro cyntaf yn Y Senedd ym Mae Caerdydd ar ddydd Mercher 28ain Mehefin 2023.

Gyda dim ond 26 diwrnod i fynd cyn Sioe Frenhinol Cymru, daeth aelodau CAFC, Aelodau’r Senedd, noddwyr allweddol, partneriaid yn y cyfryngau, a chynrychiolwyr y diwydiant at ei gilydd i glywed am yr hyn sydd ar eu cyfer yn Sioe Frenhinol Cymru eleni a’r rhan gymdeithasol ac economaidd bwysig y mae’r Sioe yn ei chwarae wrth hyrwyddo amaethyddiaeth a’r economi wledig ehangach.

Yn ei 102il flwyddyn bellach, mae Sioe Frenhinol Cymru yn digwydd o ddydd Llun 24ain Gorffennaf tan ddydd Iau 27ain Gorffennaf ar y maes sioe eiconig yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt. Yn cael ei chydnabod gan lawer fel un o’r sioeau amaethyddol gorau yn y byd, mae’r Sioe’n denu mwy na 200,000 o ymwelwyr dros bedwar diwrnod i ddathlu nid yn unig fwyd a ffermio, ond diwylliant, amrywiaeth, yr iaith Gymraeg, angerdd a chariad at y tir hefyd.

I ddechrau gweithgareddau’r prynhawn, croesawodd Nicola Davies, Cadeirydd Cyngor CAFC, y mynychwyr gan ddiolch iddynt am ddod draw i’r Senedd.

“Dyma’r tro cyntaf rydym wedi cynnal lansiad swyddogol i’r Sioe a byddem yn hoffi diolch i Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, am noddi’r digwyddiad hwn yn garedig. Mae ein diolch yn mynd i Gymdeithas Adeiladu’r Principality hefyd am eu cefnogaeth a’u nawdd tuag at lansiad heddiw.

Gyda Morgannwg yn sir nawdd inni eleni, ’does dim gwell lle i gynnal y lansiad nag yn ein prifddinas ac yma yn Y Senedd. Cyn i’r Sioe ymgartrefu ar ein safle parhaol yn Llanelwedd, bu’n teithio drwy Gymru benbaladr, a 70 mlynedd yn ôl, cynhaliwyd y Sioe yma yng Nghaerdydd, ar gaeau Pontcanna yn ôl yn 1953. Felly, rydym yn falch o fod yn ôl ac o allu rhannu’r cynlluniau cyffrous sydd gennym ar gyfer Sioe eleni gyda chi.”

Croesawodd Cadeirydd y Cyngor y Llywydd, Elin Jones i ddweud ychydig eiriau, yn cael ei dilyn gan Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd. Yn ymwelydd rheolaidd â’r Sioe, roeddem wrth ein bodd fod y Gweinidog Materion Gwledig yn gallu ymuno â ni yn Lansiad swyddogol cyntaf y Sioe.

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig: “Sioe Frenhinol Cymru yw uchafbwynt y calendr amaethyddol yma yng Nghymru ac rwyf yn edrych ymlaen at weld pawb yn Llanelwedd eto eleni.

“Mae llawer i edrych ymlaen ato, o’r anifeiliaid ardderchog ar ddangos, i’r nifer fawr o gystadlaethau, a’r maint anhygoel o fwyd a diod Cymreig gwobrwyedig sy’n cael ei arddangos yn y Neuadd Fwyd.

“Mae’r Sioe’n dal i fynd o nerth i nerth a byddwn yn hoffi dymuno’r gorau oll i Aled Rhys Jones wrth ddarparu ei Sioe haf gyntaf ers cael ei benodi’n Brif Weithredwr, ac rwyf yn siŵr y bydd yn llwyddiant mawr arall.”

Bob blwyddyn, mae un o 12 sir draddodiadol Cymru yn cymryd eu tro i noddi’r Sioe ac mae eleni’n gweld Morgannwg yn llenwi canol y llwyfan gyda John Homfray o Penllyn Estate fel y Llywydd. John Homfray oedd y nesaf i gymryd y llwyfan, a soniodd am y fath anrhydedd bersonol enfawr yw hi i fod yn Llywydd.

Mae’r arian a godwyd gan sir nawdd Morgannwg yn mynd tuag at ddau brosiect tirnod. Yn gyntaf, y Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig a lansiwyd yn ddiweddar, ac yn ail, adnewyddu Neuadd De Morgannwg. Ychydig wythnosau’n ôl, cynhaliwyd y digwyddiad Regen cyntaf un ar Sealands Farm, a oedd yn llwyddiant ysgubol, ran rannu egwyddorion ffermio gyda natur.

“Mae Sioe Frenhinol Cymru yn un o’n begynau rhagoriaeth cenedlaethol, rydym i gyd yn teimlo ymdeimlad enfawr o gariad ati a balchder ynddi. Rydym wedi cael llawer iawn o hwyl yma ym Morgannwg yn paratoi at Sioe 2023 ac wedi codi llawer o arian.

Rydym yn diolch ichi i gyd am y cyfraniad yr ydych wedi’i wneud at lwyddiant y Sioe dros y blynyddoedd ac edrychwn ymlaen at eich gweld chi i gyd y mis nesaf yn Llanelwedd.”

Yn olaf, rhannodd Cadeirydd y Bwrdd, Yr Athro Wynne Jones ei ddiolch calon i bawb am ddod draw i ddathlu cyfri’r dyddiau cyn Sioe Frenhinol Cymru ac amlygodd rai o’r atyniadau newydd sydd i edrych ymlaen atynt eleni.

“Rydym yn Gymdeithas sydd wedi’i hadeiladu ar werthoedd traddodiadol, ond gydag agwedd bendant o fodern, a bydd hynny i’w sylwi wrth ichi gerdded o amgylch y Sioe eleni. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio’n galed i gyflwyno elfennau newydd i’r Sioe.

Rydym yn lansio Gwledd/Feast, y Pentref Bwyd Cymreig newydd sbon, gyda digonedd o seddi a llwyfan adloniant byw. O fewn y pentref bwyd newydd, byddwn yn croesawu prosiect peilot Big Bocs Bwyd. Mae Big Bocs Bwyd yn rhedeg banciau bwyd ‘talwch fel y teimlwch’, yn hybu dietau iach, yn tyfu llysiau ac yn cyflwyno gwersi coginio mewn rhyw 50 o ysgolion cynradd ar draws Cymru.

Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddod yn wyrddach yn Sioe eleni – ar ôl newid ein tariff cyflenwi ynni, mae’r holl drydan ar faes y sioe o ffynonellau 100% adnewyddadwy, rydym wedi cyflwyno polisi gwyrdd newydd yn gwahardd defnydd plastig untro ac rydym wedi comisiynu Prifysgol Caerdydd i ymgymryd ag adolygiad o gynaliadwyedd amgylcheddol y digwyddiad.

Ar ddydd Mawrth y Sioe, byddwn yn lansio ein gweledigaeth newydd ar gyfer Garddwriaeth wrth inni baratoi at ailwampio’r adran yn sylweddol yn 2024.”

Terfynodd Yr Athro Wynne Jones trwy gyflwyno Rîl y Sioe yn llawn uchafbwyntiau i roi blas i’r gynulleidfa o’r hyn sydd i ddod.

Byddai Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn hoffi diolch i Gymdeithas Adeiladu’r Principality, noddwr y lansiad, sy’n ymrwymedig i gynnal eu presenoldeb ar y stryd fawr trwy gadw pob un o’i 53 o ganghennau ar agor tan o leiaf ddiwedd 2025, sy’n gymorth mawr i gymunedau gwledig.

Gydag ychydig dros dair wythnos tan Sioe Frenhinol Cymru prynwch eich tocynnau ar-lein yn awr!  I gael mwy o wybodaeth am yr hyn sydd ar ein cyfer, ac i brynu tocynnau ewch i wefan CAFC.