Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Ymgasglodd aelodau, rhanddeiliaid ac ymwelwyr â Sioe Frenhinol Cymru heddiw, dydd Mawrth 25ain Gorffennaf, wrth stondin Cyswllt Ffermio i glywed am gynlluniau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i ddatgelu Adran Garddwriaeth gwedd newydd yn 2024. Roeddem yn falch o groesawu’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths Aelod o’r Senedd i’r lansiad hefyd.
Mae hyrwyddo garddwriaeth yn un o amcanion elusennol allweddol y Gymdeithas ac mae cynlluniau ar fynd i sefydlu Pentref Garddwriaeth newydd yn Sioe Frenhinol Cymru 2024. Bydd y pentref yn dathlu pob agwedd ar arddwriaeth yng Nghymru – o dyfu cymunedol i dyfu masnachol, dangos yn gystadleuol ac arddangosfeydd, ochr yn ochr â hyrwyddo buddion iechyd a buddion cymdeithasol garddio, addysg ac adeiladu cadwyn gyflenwi gref o gynnyrch Cymreig cynaliadwy.
Dechreuodd yr Athro Wynne Jones, Cadeirydd Bwrdd CAFC, drwy groesawu pawb oedd yn bresennol a diolchodd i Cyswllt Ffermio a Lantra am eu caredigrwydd wrth lywyddu’r digwyddiad lansio. Pwysleisiodd yr Athro Jones bwysigrwydd garddwriaeth yng Nghymru, a sut y gall rôl y Gymdeithas fel elusen helpu wrth ddarparu llwyfan i hyrwyddo’r diwydiant yn Sioe Frenhinol Cymru, ac o bosibl yn ein digwyddiadau eraill.
Diolchodd Richard Price, Cyfarwyddwr Sioe Anrhydeddus CAFC, i’r rheini a gymerodd ran yn y gweithdy cynllunio strategol a gynhaliwyd yng Ngerddi Aberglasne yn gynharach eleni. Daeth y gweithdy â rhanddeiliaid allweddol gyda diddordeb mewn garddwriaeth at ei gilydd gydag aelodau o Bwyllgor Garddwriaeth CAFC a Staff CAFC i drafod cynlluniau ar gyfer y pentref garddwriaethol newydd.
Ethos y pentref garddwriaethol newydd yw ‘ysbrydoli, addysgu a chydweithredu.’ Bydd y pentref yn lle i ysbrydoli trwy arddangos rhagoriaeth gydag arddangosion ac arddangosfeydd cystadleuol. Bydd yn lle ar gyfer addysg a dysgu trwy weithio mewn partneriaeth ag ysgolion a cholegau. A bydd yn creu cyfle i gydweithredu trwy leoedd cymdeithasol cynhwysol, mannau cyfarfod a llwyfannau arddangos.
Yn ystod y lansiad amlinellodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr CAFC, y weledigaeth newydd ar gyfer y Pentref Garddwriaethol a rhannodd syniadau dylunio posibl o sut y gall y pentref edrych.
Mae’r dyluniad wedi’i seilio ar syniadau allweddol ynglŷn â chynhwysedd a bioamrywiaeth, gyda llwyfan ar gyfer sgyrsiau, seminarau ac arddangosfeydd rhyngweithiol a lleoedd stondinau ar gyfer arddangoswyr. Yn ganolog i’r pentref fydd mannau ar gyfer dangos cystadleuol, yn arbennig y gosod blodau a’r cynnyrch llysiau y mae Sioe Frenhinol Cymru yn enwog amdanynt.
Rydym i gyd yn dod yn fwyfwy ymwybodol o’r buddion ehangach sydd gan arddwriaeth, garddio, a’r awyr agored ar gyfer ein hiechyd meddwl a’n lles. Mae’r Gymdeithas yn awyddus i weithredu ardaloedd yn y pentref a fydd yn atgyfnerthu’r neges yma, megis seddi cymunol a gardd synhwyrol i ymwelwyr fwynhau ennyd tawel oddi wrth firi a phrysurdeb y sioe.
“Rydym yn gyffrous iawn ynglŷn â’r cynlluniau hyn ac rydym am i’r lle fod yn gynhwysol ac i apelio at bawb, o deuluoedd i dyfwyr masnachol.” meddai Aled Rhys Jones.
“Rydym yn dal yng nghyfnodau cynnar datblygu’r cysyniad hwn ac rydym yn gweld hyn fel prosiect cydweithredol ble gall gwahanol bartneriaid cyflenwi, noddwyr a rhanddeiliaid ein helpu i gyflawni’r weledigaeth uchelgeisiol hon. Mae arnom eisiau i’r pentref garddwriaethol newydd hwn fod yn un o destunau trafod mwyaf Sioe Frenhinol Cymru 2024.”
Ymunodd Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig, â’r lansiad i ddweud ychydig eiriau.
“Mae sector garddwriaeth bywiog yn uchel ar agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu diwydiant amaethyddol cynaliadwy wrth iddo ddarparu amryw o fuddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.
Mae Sioe Frenhinol Cymru yn hollbwysig wrth hyrwyddo amaethyddiaeth a garddwriaeth Cymru i’r byd, cynyddu cyfleoedd masnachu a chaniatáu i ddulliau a thechnolegau newydd gael eu rhannu. Mae’n bwysig fod ein garddwriaethwyr yn rhan annatod o hyn, a dyna pam fy mod yn falch iawn o glywed y cynlluniau amlinellol ar gyfer y Pentref Garddwriaethol newydd yn Sioe’r flwyddyn nesaf”.
Mae CAFC yn bwriadu agor y Pentref Garddwriaethol newydd yn Sioe Frenhinol Cymru 2024 ac mae’n gwahodd rhanddeiliaid, partneriaid a chefnogwyr i gymryd rhan a rhannu syniadau ac adborth yn y misoedd i ddod.