Cyhoeddi enillydd Gwobr Goffa Syr Bryner Jones - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Fel gwobr bwysicaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, caiff Gwobr Goffa Syr Bryner Jones ei chwennych yn fawr bob blwyddyn.

 

Cafodd enillydd gwobr 2023 ei gadw ynghudd tan ddiwrnod agoriadol Sioe Frenhinol Cymru (dydd Llun 24 Gorffennaf), gan greu ymdeimlad o gyffro a disgwyliad sy’n briodol i wobr mor glodfawr.

 

Fe wnaeth Syr Bryner Jones helpu i lunio cyfeiriad Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru am hanner can mlynedd. Roedd yn bennaeth yr Adran Amaethyddiaeth a Choleg Aberystwyth yn 1907 ac aeth yn ei flaen i fod yn un o brif gymeriadau addysg amaethyddol yng Nghymru. Roedd yn rhywun dylanwadol yn Amaethyddiaeth Cymru, gan ddod yn Gomisiynydd ac yn Gadeirydd Cyngor Amaethyddol Cymru ac wedi hynny daeth yn Ysgrifennydd Cymru’r Weinyddiaeth Amaeth.

 

Roedd Syr Bryner Jones, a urddwyd yn Farchog yn 1947, yn Gyfarwyddwr Anrhydeddus Sioe Frenhinol Cymru o 1908 tan 1910 ac roedd yn Gadeirydd Cyngor y Gymdeithas o 1944 tan 1953. Daeth yn Llywydd y Gymdeithas yn 1954, yn 50fed flwyddyn y gymdeithas.

 

Er 1957 mae’r wobr wedi’i rhoi bob blwyddyn i rywun o wahanol ran o’r diwydiant ffermio sydd wedi cyrraedd y lefel cyflawniad uchaf yn y sector a ddewiswyd. Eleni roedd y beirniaid yn chwilio am unigolyn sydd wedi gweithredu newyddbethau a thechnegau yn llwyddiannus tuag at gyflawni Sero Net o fewn eu busnes ffermio.

 

Gyda phob un o’r tri oedd ar y rhestr fer, a’u teuluoedd yn aros yn awyddus i glywed pwy oedd wedi ennill, cyhoeddodd John Homfray, Llywydd y Gymdeithas mai enillydd Gwobr Goffa Syr Bryner Jones 2023 yw Edward Vaughan o Sychtyn, Llanerfyl, Y Trallwng.

 

Mae Edward wedi creu menter ffermio hynod o lwyddiannus gydag ynni adnewyddadwy. Cododd dyrbin gwynt yn 2014 ac yna gyfleuster treulio anaerobig yn 2015. Mae’i waith yn cynnwys plannu gwrychoedd newydd a choed yn rheolaidd ac allforio trydan sydd dros ben i weithio tuag at gynaliadwyedd ac effeithlonrwydd.

 

I gefnogi eu dewis o Edward Vaughan yn enillydd Gwobr Goffa Syr Bryner Jones 2023, cyflwynodd y beirniaid Tom Allison (Aelod o Fwrdd CAFC) ac Alex Lockton (RenewEV) eu hadroddiad am y gwaith sydd wedi’i gyflawni:

 

“Y ffynonellau ynni adnewyddadwy a ddefnyddir yw tyrbin gwynt 225kW a chyfleuster treulio anaerobig 250kW sy’n cael ei fwydo â 90% o wastraff a dim ond 10% o laswellt o’i gaeau. Mae’r gyfran uchel yma o wastraff yn dangos meddwl cylchol cryf, ac yn arwain at y defnydd lleiaf posibl o’i dir glas ar gyfer y cyfleuster treulio anaerobig.

 

Mae Edward yn cydweithio â’r ffermydd cyfagos ac yn cymryd gwastraff o ffermydd cynhyrchu ieir lleol i fwydo’i gyfleuster treulio anaerobig ac yn troi hwnnw’n drydan ac yn weddillion treuliad anaerobig. Defnyddir gweddillion treuliad anaerobig fel gwrtaith ar ei fferm sy’n golygu ei fod yn hunangynhaliol o ran mewnbynnau gwrtaith i’w dir pori ar gyfer ei dda byw. Mae hon yn broses gylchol sy’n darparu synergedd lleol gyda’i gymuned ffermio leol i’w helpu i ailgylchu eu gwastraff.

 

Mae’r trydan a gynhyrchir gan ei ffynonellau ynni adnewyddadwy yn cael ei werthu i’r gymuned leol trwy gynllun Ynni Lleol drwy ba un y mae cyflenwr trydan yn prynu pŵer Mr Vaughan ac yna’n ei werthu i tua 100 o bobl leol ac mae’n rhoi disgownt iddynt ar eu bil trydan a briodolir i’r maint o bŵer y maent yn ei ddefnyddio pan fo’n cynhyrchu.

 

Mae Ynni Lleol yn hwyluso’r trefniant trwy gefnogi’r gymuned i brynu’r pŵer ar y cyd gyda’r canlyniad eu bod yn cael trydan gwyrdd rhatach o ffynhonnell leol. Un o fanteision ychwanegol y cynllun ynni cymunedol yw ei fod yn cysylltu cynhyrchydd ynni lleol a defnyddwyr lleol, sy’n fwy effeithlon i’r grid trydan.

 

Mae’r beirniaid yn deall bod Edward yn edrych ar opsiynau i barhau’r trefniant hwn gyda naill ai’r cyflenwr presennol neu gyda chyflenwr newydd fel rhan o’r cynllun ynni lleol a allai gynnwys gwerthu pŵer hefyd i fusnesau lleol yn ogystal â pherchnogion tai.

 

Yn ogystal mae Edward yn cymryd malurion coed gan goedwigaeth leol a fyddai’n wastraff fel arall ac yn ei sychu gan ddefnyddio’r gwres o’r cyfleuster treulio anaerobig ac yna’n ei wahanu a’i storio i’w ddefnyddio mewn amrywiol ffurfiau, naill ai i’w werthu fel tanwydd i foeleri biomas neu i’w gynnwys yn ei gyfleuster treulio anaerobig, gan greu gwerth o ffrwd gwastraff arall mewn dull cylchol arall.

 

Mae gan Edward ddealltwriaeth glir o bwysigrwydd lleihau carbon ac mae ganddo ffocws fel laser ar fwyhau ffrydiau gwastraff i greu busnes ffermio hunangynhaliol cylchol. Mae ôl troed carbon ei dda byw ar y blaen i’w grwpiau meincnodi lleol ac mae’n edrych yn barhaus ar ffyrdd o wella hyn. Yn ogystal ag optimeiddio’i fuddsoddiadau ynni, mae wedi plannu 2000m o wrychoedd newydd ac wedi ffensio 10 erw o fawnog i’w wahanu oddi wrth ddefnydd gan dda byw i wella potensial atafaelu carbon y fferm.

 

Mae Edward yn creu buddion tymor hir o ran effeithlonrwydd adnoddau, gan ddileu gwrtaith a brynir, ac eto’n bwydo’i bridd gyda sgil gynnyrch o ansawdd o’i gyfleuster treulio anaerobig a fydd o les i’r pridd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol trwy’r cynnydd rheolaidd mewn sylwedd organig o ansawdd uchel. Ei weledigaeth tymor hir yw gwneud ei bridd mor ffrwythlon ac iach â phosibl ar gyfer ei blant ei hun pan fyddant yn barod i gymryd y fferm.

 

Yn gryno, mae Edward wedi gwneud buddsoddiadau cadarn mewn ynni adnewyddadwy, y mae wedi’u dethol yn seiliedig ar ddealltwriaeth glir o botensial ei fferm ac sy’n elwa oherwydd synergedd clir gyda’i gymuned leol. Mae’r cydweithrediad yma gyda ffermydd lleol a choedwigaeth yn cymryd cynnyrch gwastraff ac yn creu cynnyrch o werth y mae’n ei ailgylchu trwy’i dechnoleg ynni i fod o les i’w fferm A’R gymuned leol.

 

Mae’n dangos meddwl cylchol clir o ran ffrydiau gwastraff ac mae wedi clustnodi’n glir ac wedi manwl gyweirio cyfleoedd dros amser gan rannu’r buddion hynny trwy gydweithrediad gyda chymdogion. Mae’i dechnoleg ar y safle yn arloesol ac yn feiddgar o ystyried y raddfa yn gymharol  â maint ei fferm ond mae nid yn unig wedi gwneud i hyn weithio trwy gydweithrediad gyda’r gymuned o ran gwastraff, ond mae hefyd yn rhannu’r allgynnyrch trydan trwy gynllun ynni cymunedol arloesol sy’n fodel y gellir ac y dylid ei ailadrodd ym mhobman.

 

Yn ei hanfod strategaeth Edward yw meddwl tymor hir yn y bôn, gan feddwl nid yn unig am anghenion uniongyrchol ei fusnes ffermio, ond hefyd am anghenion cenedlaethau’i deulu yn y dyfodol a’r cyfan trwy feddwl sy’n canolbwyntio ar y gymuned sydd wedi’i sefydlu. Does dim amheuaeth y gallai llawer o ffermydd eraill elwa ar glywed mwy am y dulliau gweithredu hyn ac yn arbennig y cysyniad o gydweithio â ffermydd eraill i ddod o hyd i synergedd ar gyfer buddiannau’r fferm ac ar gyfer dod o hyd i atebion i broblemau gwastraff ond hefyd trwy’r model ynni cymunedol sy’n gallu dod mewn amrywiol ffurfiau, yn cynnwys un megis yr un hwn ond hefyd rai ble gall y gymuned helpu i ariannu a bod yn berchen ar yr ased ynni yn ogystal.”