Fferm âr yn Y Barri yn ennill Cystadleuaeth Adeiladau Fferm Sioe Frenhinol Cymru 2023 - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Mr a Mrs John Thomas a’r Mab o Gilstone Farm yn Y Barri wedi ennill Cystadleuaeth Gweithiau ac Adeiladau Fferm 2023 Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Roedd y gystadleuaeth, a noddwyd yn garedig gan Harrison Clark Rickerbys Solicitors ond yn agored i ffermydd yn sir nawdd y Gymdeithas am eleni, Morgannwg. Roedd y wobr yn chwilio am adeilad fferm traddodiadol neu gyfoes sydd wedi’i addastu i gefnogi nodau cynaliadwyedd y busnes, ac fe’i beirniadwyd gan Mr Colin VJ Pugh FRAgS, Mr John Brookshaw (enillydd 2022) a Mr Christopher Lloyd ARAgS.

Eleni aeth y gystadleuaeth â’r beirniaid o lefel y môr ger Y Barri i fyny i bennau uchaf y cymoedd yn Ynys-y-bŵl, golygfeydd cyferbyniol iawn.

Y fferm fuddudol oedd Gilstone Farm, fferm âr yn Y Barri, cartref Mr a Mrs John Thomas a’r Mab. Mae’r fferm yn tyfu tua 500 erw o ydau a bysedd y blaidd (ar gyfer protein) a dros y blynyddoedd mae’r teulu wedi ychwanegu gwerth at eu cnydau trwy felino a chymysgu ar y fferm a gwerthu bwydydd anifeiliaid naill ai’n uniongyrchol i ffermwyr eraill neu i allfeydd manwerthu lleol.

Mae llawer o’u prosesu’n digwydd yn hen adeiladau ac adeiladau gwreiddiol y fferm sydd wedi’u haddasu’n ofalus i gadw eu cyfarpar melino a chymysgu, y maent yn eu cael yn ddigonol ar gyfer eu hanghenion. Ond i wella a symleiddio eu man sychu a storio maent wedi adeiladu cyfleuster trin a storio grawn newydd, sydd hefyd yn cynnwys cowlas storio chwistrellydd a chwistrell.

Mae’r adeilad yn 36 metr o hyd a 18 metr o led ac yn cynnwys 6 chowlas, i gyd gyda drysau cloriau rholer i ddiogelu’r cynnwys rhag gwyntoedd y môr. Mae un gowlas yn cynnwys pwll a sychwr y grawn gwlyb, a defnyddir y lleill ar gyfer storio grawn sych. Roedd yr adeilad cyfan wedi’i osod i mewn yn y llechwedd trwy gloddio miloedd o dunelli o graig, gan alluogi felly i’r holl weithgareddau o amgylch y clos gael eu cyflawni ar yr un lefel. Galfaneiddiwyd y gwaith dur i’w ddiogelu  rhag rhydu yng ngwynt y môr, a chafodd y waliau i gyd eu gwneud o naill ai goncrid crynswth ar gyfer y waliau mewnol i roi gorffeniad gweithio llyfn neu o goncrid paneli rhag-gastiedig ar y waliau allanol ôl.

Mae’r gowlas ben wedi’i hadeiladu’n storfa ddiogel bwrpasol i gadw eu chwistrellydd hunanyredig ac yn fan storio hefyd ar gyfer yr agrogemegau. Roedd yn ymgorffori llawr draenio yn bwydo i mewn i drap silt i ddal unrhyw ollyngiadau neu wastraff golchi a bydd hwn yn ei dro’n cael ei bwmpio i uned hidlo Bio-Box a oedd yn cael ei osod y tu allan. Roedd holl ddŵr y to’n cael ei gasglu, ei hidlo a’i storio mewn dau danc 20,000 litr a’i ddefnyddio i lenwi’r chwistrellydd.

Mae cystadleuaeth Gweithiau ac Adeiladau Fferm CAFC yn dod â’r syniadau a’r dyluniadau gorau mewn sir neilltuol ymlaen a ’doedd eleni ddim yn eithriad. Ar ôl llawer o drafodaeth dyfarnodd y beirniaid y safle cyntaf i Mr a Mrs John Thomas a’r Mab, Gilstone Farm, Y Barri, am eu cyfleuster trin grawn gyda’i storfa chwistrell bwrpasol a fydd yn eu gweld ymhell i’r dyfodol ac yn dal i ganiatáu iddynt ychwanegu gwerth at eu gweithgareddau âr.

Bydd Mr a Mrs Thomas yn derbyn Trywel Arian Ystâd Peniarth, sydd wedi’i roi gan y diweddar Gyrnol J F Williams-Wynne CBE DSO MA FRAgS a chofrodd gan y Gymdeithas ar ddydd Mawrth 25 Gorffennaf yn Sioe Frenhinol Cymru.