Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Bob blwyddyn mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn cyflwyno cyfres o wobrau er anrhydedd i bobl sydd wedi rhoi gwasanaeth eithriadol i’r Gymdeithas, mewn cymhwyster gwirfoddol yn bennaf, ac mewn llawer achos am ymhell dros 30 mlynedd.
Cyflwynwyd cymysgedd o is-lywyddiaeth oes er anrhydedd, swyddi llywodraethwr oes er anrhydedd a gwobrau’r gymdeithas mewn seremoni ar ddiwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru (dydd Llun 25 Gorffennaf) gan Lywydd 2023, John Homfray a’i wraig Jo.
Gwobrau’r Gymdeithas Er Anrhydedd
Cyflwynir y gwobrau hyn i unigolion a enwebir gan Gyfarwyddwyr a Chyfarwyddwyr Anrhydeddus Cynorthwyol, sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’r Gymdeithas dros flynyddoedd lawer.
Is-Lywyddiaeth Oes Er Anrhydedd
Mr William Hanks, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Anrhydeddus y Gwartheg, Cyfarwyddwr Anrhydeddus Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ac aelod o Bwyllgor Sir Nawdd Morgannwg. Derbyniodd Will Is-Lywyddiaeth Oes Er Anrhydedd y Gymdeithas am ei wasanaeth nodedig.
Swydd Llywodraethwr Oes Er Anrhydedd
Mrs Helena Davies – Stiward lletygarwch yn Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf ers mwy na 34 mlynedd, yn stiward ymroddedig a chefnogwr ardderchog yn Sir Morgannwg, mae Helena wedi gweithio’n galed iawn i’r Gymdeithas, fel y gwnaeth ei diweddar ŵr Tudor.
Mr Roger Howells – Bu a wnelo Roger â’r Gymdeithas am flynyddoedd lawer, trwy stiwardio yn y Pafiliwn Nawdd ac mae’n gyn-Drysorydd i Bwyllgor Ymgynghorol Sir Benfro.
Mrs Janet Lewis – Bu a wnelo Janet â’r Pwyllgor Gwaith Llaw ers mwy na 35 mlynedd, yn cynnwys Pwyllgor Ymgynghorol y Sir a thair Sir Nawdd.
Mr John Thomas – Bu John yn aelod ers tro byd ar Fwrdd y Cyfarwyddwyr a Phwyllgor Ymgynghorol y Sir, mae wedi dal nifer o swyddi dros y blynyddoedd ac mae’n weithgar iawn gyda CARAS Cymru. Rhaid llongyfarch John ar ei gadeiryddiaeth o’r digwyddiad Regen23 diweddar a gynhaliwyd ym Morgannwg ym mis Mehefin.
Mrs Lillian Gray – Mae Lillian wedi rhoi gwasanaeth sylweddol i’r Gymdeithas ers bron 40 mlynedd, fel Uwch Stiward yn Adran y Ceffylau ac mae hi wedi cyflawni ei dyletswyddau i safon uchel iawn yn arbennig wrth redeg dosbarthiadau mawr.
Mr Christopher Jones – Mae Christopher wedi rhoi dros 30 mlynedd o wasanaeth i’r Gymdeithas. Yn gyflwynydd a sylwebydd ym Mhrif Gylch Adran y Ceffylau er 1994 ac ymddeolodd o’i swydd yn ddiweddar cyn Ffair Aeaf 2022.
Aelodaeth Oes Er Anrhydedd
Mr Estyn Bufton – Mae Estyn wedi bod ar y Pwyllgor Cneifio er 1994 ac wedi stiwardio er 1981. Mae gan Estyn ymarweddiad hamddenol ac agwedd gyfeillgar gynnes sy’n sicrhau bod y pethau bach yn cael eu gwneud yn yr Adran Gneifio. Mae’n arwain byddin fechan o stiwardiaid, y mae’u dyletswyddau’n cynnwys pacio’r gwlân a mynd ag ef ymaith a thrin a chyflwyno ŵyn i’r beirniaid i’w sgorio yn syth ar ôl eu cneifio.
Mr Bryan Pugh – Mae Bryan wedi bod ar y Pwyllgor Cneifio er 1994 ac wedi stiwardio er 1993. Mae’n ddweud llawer rhy ychydig dweud bod Bryan yn rhan annatod o Adran Gneifio’r Sioe Frenhinol. Heb rôl Bryan yn cael gafael ar ddefaid o lawer o ffermydd bob blwyddyn ni fyddai’r adran yn syml iawn yn gweithio. Er ei fod wedi trosglwyddo rhai o’r dyletswyddau i’w nai Stephen, ef yw’r ‘pen y tu ôl i bethau’ o hyd. Ei allu i gael gafael ar ddefaid o’r ansawdd uchaf o rai o’r ffermydd gorau yng Nghymru yw’r rheswm fod Sioe Frenhinol Cymru yn cael ei hystyried yn Gystadleuaeth Gneifio orau’r Deyrnas Unedig ac Ewrop.
Mrs Karen Groombridge, dyfarnwyd Aelodaeth Oes Er Anrhydedd i gyn-Swyddog Aelodaeth y Gymdeithas am ei blynyddoedd o wasanaeth i’r Gymdeithas.
Mr Eurwyn Edwards, o Gaernarfon sydd wedi derbyn Aelodaeth Oes Er Anrhydedd y Gymdeithas.
Swydd Llywodraethwr Oes Er Anrhydedd ar y Cyd
Mr Dave Wharmby a Mrs Gill Wharmby – Dechreuodd Dave stiwardio yn Adran y Geifr gyda Gill yn 1978 dan y Prif Stiward Madge Hughes. Yn dilyn ymddeoliad Madge, ehangodd Dave ei rôl ac ymgymerodd â rôl Prif Stiward Adran y Geifr am y 44 mlynedd ddiwethaf ac mae wedi rhedeg yr adran i safon uchel iawn.
Gwobr y Gymdeithas
Mrs Helena Lewis
Bu Helena’n groesawydd gwartheg er 1992 yn nigwyddiadau’r Gymdeithas, a hi yw gwraig David Lewis, cyn-Gadeirydd Cyngor CAFC. Bu Helena’n gefnogwr ffyddlon wrth ochr David mewn llawer o ddigwyddiadau’r Gymdeithas. Cyflwynwyd fâs wydr engrafedig i Helena fel arwydd o werthfawrogiad.
Dr Fred Slater
Dechreuodd cysylltiad Fred â’r Gymdeithas flynyddoedd yn ôl, pan ofynnwyd iddo drefnu arddangosfa ar gyfer blwyddyn Sir Nawdd Sir Faesyfed, ac o ganlyniad i’r cyflwyniad hwnnw i Sioe Frenhinol Cymru a blynyddoedd lawer yn ddiweddarach, daeth Fred yn Gyfarwyddwr Anrhydeddus Cynorthwyol Garddwriaeth ac yna’n Gyfarwyddwr yr Ŵyl, yn Gadeirydd Garddwriaeth, yn aelod o’r Bwrdd a’r Cyngor ac yn eiriolwr brwd dros bopeth sydd a wnelo â Sioe Frenhinol Cymru.
Dyfarnwyd Medal Arian y Gymdeithas ac Is-Lywyddiaeth Oes Er Anrhydedd i Fred yn 2006. Yng Nghyflwyniad y Gwobrau derbyniodd Fred fâs wydr engrafedig fel arwydd o ddiolchgarwch wrth iddo roi’r gorau i rai swyddi gyda’r Gymdeithas yn awr.