Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Mae tocynnau ar werth yn awr ar gyfer Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, sy’n digwydd ar ddydd Llun 27ain a dydd Mawrth 28ain Tachwedd 2023.
Mae’r digwyddiad blynyddol yn prysur agosáu, ac ni fydd yn hir nes bydd maes y sioe yn Llanelwedd yn ferw o dda byw gwobrwyol a siopwyr Nadolig unwaith eto.
Fel un o sioeau stoc ddethol gorau Ewrop, mae’r Ffair Aeaf yn tynnu tyrfaoedd o bell ac agos i fwynhau dau ddiwrnod sy’n orlawn o gystadlaethau, dathliadau, bwyd a diod, a siopa.
Yn ogystal â chystadlaethau da byw, mae’r Ffair Aeaf yn cynnal amrywiaeth enfawr o ddosbarthiadau ac arddangosiadau, yn cynnwys ceffylau, y sioe gŵn hela, dofednod wedi’u trin, bwtsieraeth, hamperi cig, coginio, cynnyrch a gwaith llaw, garddwriaeth a gosod blodau… mae yna rywbeth i bawb gymryd rhan ynddo.
Mae’r Ffair Aeaf yn cynnig y cyfle perffaith i siopwyr ddod o hyd i anrhegion Nadolig unigryw ar yr amrywiaeth o stondinau masnach sydd ar gael, yn cynnwys nwyddau cartref, dillad, celfyddydau a chrefftau, gemwaith, teganau, cyflenwadau anifeiliaid anwes, a llawer mwy.
Gall ymwelwyr fynd i ysbryd y gwyliau o ddifrif wrth iddyn nhw gynhesu gyda gwin twym a gwrando ar garolwyr yn perfformio trwy faes y sioe i gyd. Bydd Siôn Corn yn ei Groto hyd yn oed i’r plant ymweld ag ef!
Mae hoff le pawb, yr enwog Neuadd Fwyd yn arddangos cynhyrchwyr o bob rhan o Gymru ac mae’n orlawn o ddanteithion wedi’u coginio, arddangosiadau, anrhegion perffaith, a phethau dengar i’w blasu. Dewch heibio, bwytewch, yfwch a byddwn lawen!
Bydd y Ffair Aeaf yn agor ei giatiau i’r cyhoedd am 8 y bore ar y ddau fore ac ar ddydd Llun y 27ain, mae stondinau masnach yn aros ar agor trwy gydol yr hwyr ar gyfer siopa Nadolig hwyr y nos.
Mae tocynnau ar gael i’w prynu ar-lein yn awr, ac maent yn £20 i oedolion, yn £5 i blant, ac mae rhai dan 5 yn cael mynd AM DDIM!
Mae tocynnau pris gostyngol ar gael i aelodau CAFC a rhaid eu prynu cyn Tachwedd 13eg er mwyn cael y pris gostyngol.
Mae mynediad rhatach ar ôl 4 y pnawn ar ddydd Llun 27ain yn £5 i oedolion a gellir ond ei brynu wrth y giât.
Diddordeb mewn arddangos? Mae cynigion da byw a cheffylau ar gyfer y Ffair Aeaf ar agor tan ddydd Mercher 11eg Hydref 2023. Cymerwch olwg ar atodlenni’r cystadlaethau yma.
Am fwy o wybodaeth, neu i brynu tocynnau ewch i www.cafc.cymru / www.rwas.wales