Adam Jones y Garddwr wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Garddwriaeth newydd i Sioe Frenhinol Cymru - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Adam Jones (Adam yn yr Ardd) yn Gyfarwyddwr Anrhydeddus Cynorthwyol newydd Garddwriaeth yn Sioe Frenhinol Cymru. 

Mae hyrwyddo garddwriaeth yn un o amcanion elusennol allweddol y Gymdeithas ac mae cynlluniau ar fynd i sefydlu Pentref Garddwriaethol newydd yn Sioe Frenhinol Cymru 2024, yn dathlu pob agwedd ar arddwriaeth yng Nghymru.

I’n helpu i gyflawni’r weledigaeth yma, mae CAFC wedi penodi Adam Jones fel y Cyfarwyddwr Garddwriaeth gwirfoddol newydd i gymryd rhan arweiniol yn yr adran. Bydd y swydd yn golygu goruchwylio datblygiad y pentref garddwriaethol newydd, cysylltu â rhanddeiliaid allweddol, a dod ag arddangoswyr a chyfleoedd noddi i Sioe Frenhinol Cymru.

Bydd y garddwr adnabyddus o Sir Gaerfyrddin, sy’n cael ei adnabod fel Adam yn yr Ardd, yn wyneb a llais cyfarwydd i lawer. Mae Adam wedi datblygu llawer o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol gyda dros 26,000 o ddilynwyr ar Instagram (@adamynyrardd). Mae Adam yn awdur llyfr garddio i blant hefyd, ac yn westai rheolaidd ar BBC Radio Cymru a rhaglenni S4C Prynhawn Da a Heno.

Dechreuodd Adam arddio pan oedd ond yn dair blwydd oed gan ddilyn mwyniant garddio ei dad-cu.  Yn awr, gyda dros ugain mlynedd o brofiad garddio, mae Adam yn pleidio garddio organig ac ystyriol o natur ac yn ymdrechu i annog a gwella bioamrywiaeth, gan weithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol.

“Pan wnaeth Prif Weithredwr CAFC a minnau gyfarfod Adam, gwnaeth ei egni a’i weledigaeth argraff enfawr ar y ddau ohonom,” meddai Richard Price, Cyfarwyddwr y Sioe.

“Mae gydag Adam gymaint o syniadau gwych i wneud yr adran arddwriaethol yn lle diddorol a bywiog. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag Adam, a’n tîm o wirfoddolwyr a rhanddeiliaid o bob cwr o’r diwydiant i ddod â’r pentref garddwriaethol newydd yn fyw mewn pryd ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru y flwyddyn nesaf.”

Mae Adam Jones yn gyffrous i ddechrau ei swydd. “Rwyf wrth fy modd o gael cynnig y cyfle gwych yma i weithio gyda’r Gymdeithas ac unigolion rhagorol o bob cwr o Gymru i wireddu potensial y pentref garddwriaethol newydd,” meddai Adam.

“Rwyf yn cefnogi â’m holl galon y weledigaeth i ysbrydoli, addysgu a chydweithredu a bydd hyn yn hollbwysig wrth aildanio bri’r adran arddwriaethol fel rhan annatod o’r sioe.

Rwyf yn wirioneddol edrych ymlaen at annog cenhedlaeth newydd o arddangoswyr a thyfwyr i gystadlu a dathlu eu gwaith, gyda ffocws mawr ar addysg. Mae’r cyfleoedd i gydweithio gyda grwpiau ar draws Cymru a hyrwyddo garddwriaeth yn ddiddiwedd.

Mae i’r adran arddwriaethol hanes hir a chyfoethog o ddangos Cymru ar ei gorau un ar lwyfan ryngwladol ac yn awr mae gennym gyfle euraidd i ddatblygu a dathlu garddwriaeth Cymru ymhellach.”

Bydd Adam yn ymuno â ni yn y Ffair Aeaf sy’n dod yn ddiweddarach y mis hwn fel siaradwr gwadd yn ystod ein rhaglen addysgol newydd ‘Our Land / Ein Tir’.

Edrychwn ymlaen at groesawu Adam i dîm Sioe Frenhinol Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y Ffair Aeaf neu i brynu tocynnau, ewch i’n gwefan.