Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch o barhau i gefnogi Ymddiriedolaeth Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield, sefydliad sy’n gwobrwyo unigolion â chyfleoedd sy’n newid bywyd, gyda’r bwriad o ddatblygu arweinwyr ac arloeswyr y dyfodol yn y sector amaethyddol.

Mae Ysgolorion Nuffield i gyd yn gweithio yn y sector ffermio, sector bwyd, sector garddwriaeth neu’r sector gwledig ac yn ystod eu hastudiaethau 18 mis o hyd byddant yn ymgymryd â’u prosiect ymchwil yn eu maes diddordeb. Byddant yn derbyn bwrsari i’w hannog i deithio am o leiaf wyth wythnos, gan ganiatáu iddynt y cyfle i astudio arferion a ddefnyddir dramor a gartref.

Mae’n hyfrydwch gan y Gymdeithas noddi dau Ysgolor CAFC 2024, sef Lucinda Owen-George o Gaerdydd, a’i phwnc dewisol hi yw ‘Tyfu te o fewn agroecoleg – datblygu cyfle gwerth uchel i ffermydd y DU’, a Gwion Parry o Bwllheli, a’i faes astudiaeth ef yw, ‘Y datgysylltiad rhwng ansawdd bwyta yn niwydiant bîff y DU – o’r fferm i’r fforc’.

Dychwelodd Lucy i’w gwreiddiau ffermio yn Ne Cymru i redeg y fferm deuluol rhyw flwyddyn yn ôl ar ôl cwblhau BSc Rheoli Busnes (Amaeth-Bwyd) yn y RAU.  O’r blaen roedd y fferm wedi canolbwyntio ar gynhyrchu ffrwythau meddal a hufen iâ, ond dechreuodd Lucy arallgyfeirio i gynhyrchu te organig yn 2015. Bellach, mae’r gwahanol fathau o de Cymreig gwobrwyol yn cael eu gwerthu o amgylch y byd.

Magwyd Gwion ar y fferm ym Mhen Llŷn, Gogledd Cymru ble mae ef a’i deulu yn ffermio buches Stabiliser bedigri, y cofnodir ei pherfformiad, a diadell o ddefaid sy’n ŵyna’n gynnar. Astudiodd Gwion Amaethyddiaeth a Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn gynnar yn 2023 dechreuodd fusnes sganio uwchsain, yn mesur llygad yr asen, dyfnder y braster a’r ganran frithder mewn gwartheg dros y DU i gyd.

Mae Ysgoloriaeth Nuffield yn cynnig cyfle gwych i bobl flaengar eu meddwl yn y diwydiant bwyd a ffermio, sydd yn ddelfrydol yn ail chwarter eu hoes weithio, gael y cyfle i gymryd saib dros gyfnod o ddeunaw mis, ac astudio maes allweddol i’w newid neu’i ddatblygu yn y dyfodol o fewn y gadwyn fwyd. Y nod terfynol i bob ysgoloriaeth yw cyflwyno adroddiad sy’n gallu helpu ffermwyr Prydain i edrych ar eu busnesau eu hunain ac ystyried syniadau gwahanol.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi ymrwymo i annog a chefnogi addysg ac ymchwil o fewn y diwydiant amaeth a diwydiannau’r tir yng Nghymru. Mae’r buddsoddiad parhaus mewn pobl ifanc yn un o amcanion elusennol allweddol y gymdeithas ac yn rhan hanfodol o ddyfodol y gymdeithas.

Bydd y ddau ymgeisydd llwyddiannus, Lucy a Gwion yn derbyn tystysgrifau yn ystod seremoni agoriadol swyddogol Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ar ddydd Llun 27ain Tachwedd.

I gael mwy o wybodaeth am y Ffair Aeaf neu i brynu tocynnau ewch i wefan CAFC.