Cynhadledd CARAS Cymru 2024 - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Cyflwynodd cynhadledd flynyddol CARAS Cymru erfyniad tanbaid ar i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn diogelu’r genhedlaeth nesaf. Roedd Gweld y Coed gan Brennau yn cynnig dadansoddiad o gynigion Llywodraeth Cymru, yn cynnwys y gofyniad i blannu 10% o goed.

Fe wnaeth y gynhadledd, a gynhaliwyd ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, fynd ar ôl cais Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, am adborth ar y cynllun. Fe wnaeth Mansel Raymond FRAgS, Cadeirydd CARAS Cymru, grynhoi’r teimladau trwy bwysleisio bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn dyngedfennol i ddyfodol amaethyddiaeth Cymru. Dywedodd fod angen i bobl ifanc gael eu hannog i dyfu bwyd sydd â galw amdano ledled y byd.

Roedd hi’n bwysig peidio â chyfyngu ar yr hyn y mae ffermwyr Cymru wedi’i wneud dros y blynyddoedd. Nid oedd incwm a ildiwyd yn opsiwn pan fo’r cynllun yn mynnu bod ffermwyr yn gwneud mwy.

Meddai Mr Raymond: “Mae’n ymddangos yn fwyaf sydyn fod datgysylltiad enfawr rhwng y frawdoliaeth ffermio a’n meistri. Mae hynny’n rhywbeth y mae’n rhaid inni ei newid. Ni all y diwydiant hwn fforddio i fethu.

“Os gollwn ni gynhyrchu, os gollwn ni’r crynswth hwnnw bydd holl wead y diwydiant yn cael ei golli a bydd yn rhaid inni ddechrau o’r gwaelod. Mae dyfodol cynhyrchu bwyd yng Nghymru yn bwysig.”

Cadeiriwyd y gynhadledd gan gyn-Lywydd CAFC a chyn-Lywydd NFU Cymru, John R Davies FRAgS. Rhoddodd y gynhadledd a’r newidiadau sy’n cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru mewn cyd-destun byd-eang, gan rybuddio nad yw’r genhedlaeth hon wedi gweld rhyfel eto.

Meddai John Davies: “Y pethau allweddol y mae’n rhaid inni eu gwneud fel gwlad yw diogelu ein hunain a bwydo ein hunain hefyd.

“Fel ffermwyr mae cynhyrchu bwyd yn rhedeg drwy bob un ohonom. Mae’n adeg hollol dyngedfennol ar gyfer dyfodol amaethyddiaeth Cymru ac rwyf yn anhygoel o falch o fod â’r panel sydd gennym yma heddiw.

“Rydym bob amser wedi bod yn eithriadol awyddus o fod â pholisi wedi’i wneud yng Nghymru, i Gymru gan Gymru.”

Awgrymodd Dr Nick Fenwick, pennaeth polisi Undeb Amaethwyr Cymru gynt, fod yna amryw o atebion i newid hinsawdd, yn hytrach na tharged hollgynhwysfawr o orchudd coed o 10%. Dywedodd fod tua 30% o’r allyriadau yng Nghymru yn dod trwy gynhyrchu ynni, tua dwbl ôl troed amaethyddiaeth. Amcangyfrifir y bydd cynnydd pumplyg yn y maint o ynni sydd ei angen yng Nghymru dros y 25 mlynedd nesaf.

Pwysleisiodd fod ffermio yn rhan o’r ateb, fel y cyfrannwr mwyaf at gynhyrchu ynni gwyrdd ac wrth wneud hynny mae’n lleihau ôl troed carbon amaethyddiaeth hefyd. Dangosodd ei bwynt trwy egluro y byddai arwynebedd 330 metr sgwâr o baneli solar yn gostwng allyriadau carbon o’r un maint â hectar o goed, fel y byddai tyrbin dŵr 10 kw neu dyrbin gwynt 15 kw.

Tanlinellodd Dr Fenwick: “Yn y bôn, fesul arwynebedd uned, mae paneli solar rhwng 30 a 50 gwaith yn fwy effeithiol yr arwynebedd uned na phlannu coed o ran lleihau allyriadau carbon.

“Felly mae gennym rywbeth a allai gyfannu plannu coed, negyddu’r angen i blannu coed ar dir fferm gwerthfawr a ffurfio rhan o hafaliad llawer mwy yn ôl ba un yr ydym yn lleihau ôl troed carbon Cymru, ond nid ydym yn ei wneud trwy darged gorchudd coed mympwyol o 10%, gan arwain at ardaloedd enfawr o dir amaethyddol.

“Ni ddylem ddechrau plastro Cymru â phaneli solar ychwaith. Yn y bôn rydych yn sôn am efallai do cwpl o siediau fferm yn cael yr un effaith â dau neu dri hectar o goed.”

Rhybuddiodd Abi Reader FRAgS, Dirprwy Lywydd NFU Cymru, rhag y newidiadau trychinebus y gallai’r cynllun ei achosi i fusnesau ffermio. Gan gyfeirio at Adroddiad Effaith ADAS, fe ychwanegodd hi: “Mae gennych 5,000 o swyddi a fydd yn cael eu colli. Mae gennym 122,000 o dda byw yn pori y byddir yn mynd â nhw o Gymru os cawn ni 100% o dderbyniad o dan y cynllun.

“Felly dros 5,000 o swyddi ac wedi’i gyplysu â hynny colli bron £200 miliwn oddi ar incwm ffermydd ledled Cymru. Beth mae hynny am ei wneud i amaethyddiaeth Cymru, beth fydd hynny’n ei wneud i’n cymunedau?”

Yn ogystal roedd y panel yn cynnwys Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, a Dr Prysor Williams uwch-ddarlithydd mewn Rheoli Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor. Bu i’r ddau ohonynt gyflwyno eu safbwynt ar ffermio cynaliadwy ac ar gynigion y cynllun newydd.

Dywedodd Gian Marco Currado fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r ymagwedd fferm gyfan a bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ymgynghoriad go iawn ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru’n chwilio am ymagwedd gydweithredol. Anogodd ffermwyr i gyfrannu eu barn a chynnig atebion eraill.