Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Dim ond wythnos i fynd hyd nes y bydd Maes Sioe Frenhinol Cymru yn llawn bwrlwm, wrth i ni groesawu ymwelwyr yn ôl i’n hoff ddigwyddiad i’r teulu, Yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad.

Cynhelir yr Ŵyl y penwythnos nesaf (18 a 19 Mai) ac mae’n dathlu bywyd yng nghefn gwlad a byw yn y wlad, ac mae gorchwylion y tyddynwr wrth ei chalon. Cynhelir y digwyddiad dros benwythnos ac mae’n arddangos gwir amrywiaeth cefn gwlad Cymru. Mae gan yr Ŵyl lond lle o atyniadau yn y cylchoedd arddangos, ynghyd â chystadlaethau, gweithgareddau i blant, stondinau siopa, cerddoriaeth fyw, a bwydydd a diodydd hynod o flasus, ac mae’n addo bod yn ddiwrnod anhygoel i bawb!

Cystadlaethau da byw a cheffylau

Mae’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad yn ffordd wych o ddechrau arni yn y byd arddangos, ac mae yna gyfle i ymwelwyr wylio amrywiaeth o gystadlaethau ar waith, gan gynnwys llawer o fridiau prin a brodorol!

Canolfan y Tyddynwyr

Canolfan y Tyddynwyr fydd y prif fan o hyd i’r rheiny sydd eisiau rhagor o wybodaeth am ffordd o fyw’r tyddynwr. Dyma’r man delfrydol i gael yr holl hanfodion o’r stondinau masnach ar gyfer amaethwyr a thyddynwyr – waeth a oes angen bwced newydd arnoch neu beiriant penodol, fe fyddwch chi’n siŵr o gael hyd i bopeth sydd ei angen arnoch yng Nghanolfan y Tyddynwyr.

Ardal Bywyd Gwledig

Cynhelir amrywiaeth o weithgareddau yn yr Ardal Bywyd Gwledig, gan gynnwys y Brif Sioe Gŵn Agored (Rownd Gymhwyso Crufts 2025), Grŵp Ail-greu Canoloesol Woodville, Arddangosiadau Cŵn Gynnau BASC, Iechyd a Ffitrwydd Byddin Prydain, cystadlaethau coedwigaeth, chwaraeon a gweithgareddau cefn gwlad

I’r rheiny sy’n chwilio am hwyl i’r teulu, mae yna gyfle i gymryd rhan yng ngweithgareddau beicio Builth Bulls a’r ras rwystrau. Gall y plant roi tro ar feicio, a darperir helmedau a beiciau.

Hefyd yn yr Ardal Bywyd Gwledig, mae Panic Family Circus yn dychwelyd i ddifyrru gyda’u sgiliau syrcas, gweithdai a sioeau pypedau traddodiadol. Os am ryngweithio ag anifeiliaid, fe fydd Will’s Petting Farm yn dod â dewis o anifeiliaid bach y fferm, gan gynnwys merlod, geifr, cwningod, moch cwta ac alpacas. Dewch draw i gwrdd â’r anifeiliaid cyfeillgar a chael hwyl!

Adloniant Diddiwedd

Eleni, fe fydd yr Ŵyl yn llawn-dop â phethau i’w gwneud a’u gweld, gan gynnwys amserlen brysur yn y Cylch Arddangos gyda sioe styntiau beic modur Dangerous Steve, tîm arddangos cŵn Paws for Thought, arddangosfa Ceffylau a Merlod Hackney, Sgrialu-Yrru a Meirion Owen a’i gŵn defaid! Mae’r cystadlaethau neidio ceffylau’n dechrau ar ôl 4pm ac fe fyddan nhw’n rhedeg yn hwyr i mewn i nos Sadwrn.

Dewch â’ch ci!

I’r rheiny ohonoch sydd wrth eich bodd â chŵn, cynhelir Prif Sioe Gŵn Agored Cymru dros y penwythnos a bydd cyfle i weld cannoedd o gŵn yn cystadlu am gyfle i gymhwyso ar gyfer Crufts 2025.

Yn wahanol i’n digwyddiadau eraill, mae croeso i ymwelwyr ddod â’u cŵn eu hunain i’r Ŵyl. Fe fydd Sir Nawdd CAFC ar gyfer 2024, sef Ceredigion, yn cynnal Gŵyl Hwyl i Gŵn yn yr Ardal Bywyd Gwledig. Felly, os mai cynffon eich ci chi sy’n ysgwyd fwyaf, dyma’r gystadleuaeth i chi!

Marchnad y Tyfwyr

Galwad i bob un sydd wrth eu bodd â garddio a phlanhigion! Unwaith eto eleni, fe fydd Garddwriaeth Cyswllt Ffermio yn cymryd yr awenau yng Nghanolfan yr Aelodau er mwyn cynnal Marchnad y Tyfwyr. Fe fydd tyfwyr profiadol sy’n cynrychioli croestoriad o’r diwydiant garddwriaeth yn rhannu eu gwybodaeth a’u profiad ac yn arddangos eu cynnyrch yn ystod y digwyddiad sy’n para deuddydd.

Y Parth Gwlân

Rydyn ni’n falch iawn o hyrwyddo natur amrywiol gwlân a’r creadigaethau y mae’n bosib eu gwneud o’r defnydd hwn, yn ystod yr Ŵyl. Unwaith eto, fe fydd Canolfan Gneifio Meirionnydd yn arddangos ein Cystadlaethau Trin Gwlân a Chneifio â Gwellau, ar gyfer y rheiny sydd newydd ddechrau arni a’r dosbarthiadau canolradd, ynghyd ag Arddangosiadau Cneifio gyda Hen Offer.

Drws nesaf, yn y Neuadd Celf, Crefft ac Addysg, fe fydd cyfle i ymwelwyr fwynhau arddangosiadau gan Urdd Nyddwyr a Throellwyr Gwent a nifer o stondinau masnach â chysylltiad at wlân.

Codi archwaeth …?

Fyddai hwn ddim yn ddigwyddiad Sioe Frenhinol heb i ni arddangos y bwyd a’r diodydd gorau o Gymru! Blaswch y bwydydd blasus yn ein Neuadd Fwyd enwog. Neu, mynnwch damaid i dynnu dŵr o’ch dannedd wrth fwynhau’r naws a’r gerddoriaeth fyw ac eistedd ar seddau yn y Pentref Bwyd Cymreig, Gwledd | Feast.

Cyrraedd yr Ŵyl

I’r rheiny ohonoch sydd ar draws y ffin o Gymru, dydyn ni ddim nepell i ffwrdd! Mae’n ddigon hawdd cyrraedd Maes y Sioe Frenhinol o bob cyfeiriad ac mae wedi’i lleoli ble mae’r A470 a’r A483 yn croesi yn Llanfair-ym-muallt.

Cewch barcio’n RHAD AC AM DDIM ar ben gwaelod Maes y Sioe, ac yna cerdded y daith fer at brif fynedfa’r digwyddiad. Mae yna fan parcio yn y blaen i ymwelwyr sy’n dangos Bathodyn Glas.

Ein gorsaf drenau agosaf yw Builth Road, ychydig dros filltir o Faes y Sioe, ac mae llwybr bws rheolaidd y T4 rhwng Y Drenewydd a Chaerdydd yn stopio yn Llanfair-ym-muallt ac yn Llanelwedd.

Achubwch y blaen a mynnwch eich tocynnau nawr!

Mae tocynnau ar gyfer yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar gael ar wefan CAFC. Pris y tocynnau Cyw Cynnar ar-lein yw £18 i oedolion, £5 i blant, neu beth am arbed arian a phrynu tocyn teulu?

Ewch i www.rwas.wales / www.cafc.cymru am ragor o wybodaeth am yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad neu i brynu tocynnau.