Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Roedd hi’n sicr yn teimlo bod y Gwanwyn wedi cyrraedd Canolbarth Cymru dros y penwythnos, wrth i filoedd o bobl ddod at ei gilydd i fwynhau deuddydd heulog yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad Sioe Frenhinol Cymru.

Mae’r digwyddiad yn dathlu sawl agwedd ar fywyd gwledig ac yn dangos gwir amrywiaeth cefn gwlad Cymru. Roedd e’n ddiwrnod gwych i deuluoedd ifanc, y rheiny sydd wrth eu bodd â chŵn, tyddynwyr a garddwyr.

Yn un o gonglfeini’r digwyddiad, Canolfan y Tyddynwyr, roedd yna gyfle i ymwelwyr elwa ar amrywiaeth eang o wybodaeth. Roedd ffermwyr tyddynnod yn gallu dysgu am bob math o weithgareddau difyr, gan gynnwys cyflwyniadau am ddechrau ar eu siwrnai ffermio, gweithdai gwneud caws a sebon o laeth gafr, cadw gwenyn ac arddangosiadau garddio heb balu.

Roedd yna ddigon i ddifyrru garddwyr a garddwriaethwyr wrth i Garddwriaeth Cyswllt Ffermio gymryd yr awenau unwaith eto yng Nghanolfan yr Aelodau ar gyfer Marchnad y Tyfwyr, gan gynnig cyfle i dyfwyr i arddangos eu cynnyrch a’u gwerthu dros y deuddydd.

Bob blwyddyn, mae gan yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad arlwy ardderchog o adloniant ac nid oedd eleni’n eithriad. O gystadlaethau torri pren a choedwigaeth, i’r Gwersyll Ail-greu Canoloesol, roedd yna gyfoeth o grefftau cefn gwlad gwahanol i’w gweld.

Roedd yr Ardal Bywyd Gwledig yn fwrlwm o weithgareddau i roi tro arnynt, er enghraifft y cwrs beicio i blant, fferm fwytho bridiau bach, sgiliau syrcas gan Panic Family Circus, reidio asynnod gydag Emma’s Donkeys Llanidloes, Swansea Beekeepers Experience, a ffair. Dyma ddigwyddiad gwych i’r rheiny sydd wrth eu bodd â chŵn hefyd, gyda channoedd o gŵn yn cystadlu i ennill eu lle yn Crufts 2025 yn y Brif Sioe Gŵn Agored, a’r ŵyl hwyl i gŵn a gynhaliwyd gan ein sir nawdd, Ceredigion.

Roedd yn wych cael croesawu elusen leol, Chwarae Maesyfed, eleni. Nod yr elusen yw cyfoethogi datblygiad plant, a’u llesiant, trwy gynnig darpariaeth chwarae o ansawdd uchel a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd chwarae. Fe fu llu o blant yn mwynhau’r gweithgareddau a’r cyfleusterau dros y penwythnos.

Yn ôl yr arfer, llwyddodd y cystadlaethau da byw a cheffylau i ddenu cystadleuwyr a thyddynwyr o agos ac ymhell ac roedd amrywiaeth ragorol o anifeiliaid ymhob adran. I lawer, mae’r Ŵyl yn gyflwyniad i’r byd arddangos, ac yn gam cyntaf ar yr ysgol tuag at arddangos mewn digwyddiadau mwy o faint. Mae’n gyfle gwych i daflu golau ar y bridiau mwy traddodiadol, prin a brodorol ac i’r cyhoedd werthfawrogi’r holl fridiau amrywiol o bob cwr o’r Deyrnas Unedig.

Roedd Geraint James, Cyfarwyddwr Anrhydeddus yr Ŵyl, wrth ei fodd â llwyddiant y digwyddiad. “Cawson ni’n bendithio â thywydd rhagorol trwy gydol y penwythnos, ac roedd pawb wrth eu bodd i fod nôl yn Llanelwedd i danio tymor y sioeau.

“Mae’r Ŵyl yn mynd law yn llaw â dau ddigwyddiad arall, mwy o faint, y Gymdeithas (Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf) ac mae’n ddigwyddiad hamddenol i’n hymwelwyr gyda ffocws ar y teulu, a naws hyfryd a chyfeillgar. Gan fod croeso i gŵn hefyd, mae wir yn ddiwrnod allan perffaith i’r teulu.”

Mae CAFC yn teimlo’n angerddol ynghylch hyrwyddo natur amrywiol gwlân a’r creadigaethau y mae’n bosibl eu gwneud gyda’r defnydd hwn. Fe fu Canolan Gneifio Meirionnydd yn arddangos Cystadlaethau Trin Gwlân a Chneifio â Gwellau, ar gyfer y rheiny a oedd yn newydd i’r maes a dosbarthiadau canolradd, ynghyd ag Arddangosiad Cneifio â Hen Offer. Drws nesaf, yn y Neuadd Celf, Crefft ac Addysg, roedd cyfle i ymwelwyr fwynhau arddangosiadau gan Urdd Nyddwyr a Throellwyr Gwent a llond lle o stondinau masnach yn ymwneud â gwlân.

Roedd Cylch Arddangos yr Ŵyl yn fwrlwm o adloniant trwy gydol y deuddydd. Daeth tyrfaoedd ynghyd i wylio neidio ceffylau a chystadlaethau helwyr gweithio, perfformiad Dangerous Steve ar y cwad a’r motor-beic , triciau ystwythder Tîm Arddangos Cŵn Paws for Thought, cystadlaethau Sgrialu-Yrru, Meirion Owen a’i gŵn defaid, ynghyd ag arddangosiadau trawiadol Gyrru Merlod a Cheffylau Harnais.

Fyddai hwn ddim yn ddigwyddiad Sioe Frenhinol heb arlwy o fwydydd a diodydd da ac, yn sicr, ni siomwyd unrhyw un yn ystod yr Ŵyl eleni eto! Yn ogystal â’r Neuadd Fwyd enwog sy’n gartref i gynhyrchwyr sy’n arddangos y cynnyrch gorau o Gymru, roedd y Pentref Bwyd Cymreig, Gwledd | Feast yn byrlymu trwy gydol y penwythnos, gyda phobl yn cymryd saib i ymlacio a mwynhau hufen iâ yn yr haul tra’n gwrando ar gerddoriaeth fyw gan berfformwyr lleol.

“Rydyn ni’n falch iawn fod y Pentref Bwyd Cymreig newydd, Gwledd | Feast wedi bod mor boblogaidd ymhlith ein hymwelwyr, yn enwedig y llwyfan cerddoriaeth fyw. Roedd yr ardal yn brysur trwy gydol y penwythnos gyda’r cynhyrchwyr arbenigol o Gymru yn sôn am gwsmeriaid hapus yn barod i brynu.” meddai Geraint James.

“Mae’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad wedi bod yn ddechrau perffaith i dymor y sioeau,” meddai Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr CAFC. “Mae’r tywydd wedi bod yn fendigedig a’r awyrgylch yn wefreiddiol. Mae cymaint o deuluoedd wedi dweud wrthyf gymaint y maen nhw wedi mwynhau dod â’u plant i’r digwyddiad a chymryd rhan yn yr holl weithgareddau.

Rydyn ni mor ffodus i gael cefnogaeth wych gan ein noddwyr, masnachwyr, cystadleuwyr ac ymwelwyr ymhob un o’n digwyddiadau, ac edrychwn ymlaen at groesawu pawb yn ôl ym mis Gorffennaf ar gyfer Sioe’r Haf.”

Diolch i lwyddiant y penwythnos, mae’n argoeli’n dda ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru, a fydd yn cael ei chynnal rhwng 22 a 25 Gorffennaf, ymhen naw wythnos! Mynnwch eich tocynnau nawr i fanteisio ar brisiau gostyngol.

Mae prif ganlyniadau’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad wedi eu rhestru isod, ac fe fydd rhestr lawn o ganlyniadau’r cystadlaethau ar gael ar y wefan yn fuan: www.cafc.cymru

Prif ganlyniadau’r penwythnos:

Defaid

Pencampwr Goruchaf – Jac Issac (Rhif Cat 1778) – Tecsel Glas.

Pencampwr Goruchaf Ail Orau – Andrew Davies (Rhif Cat 1762) – Beltecs.

Defaid – Grŵp o Dri

Pencampwr Goruchaf – Jac Issac (Rhif Cat 1797) – Tecsel Glas.

Pencampwr Goruchaf Ail Orau – Mr a Mrs Bryn a Glenda Hughes (Rhif Cat 1106) – Mynydd Duon Cymreig.

Moch

Pencampwr Goruchaf – Amanda Phillips (Rhif Cat 2025), Hwch Gyfrwyog Brydeinig; hwch a aned cyn Gorffennaf 2023.

Pencampwr Goruchaf Ail Orau – Isabel Soar (Rhif Cat 2016), Unrhyw Frîd Modern Arall; Hwch a aned cyn Gorffennaf 2023.

Gafr Angora

Pencampwr Goruchaf – Debbie Francis (Rhif Cat 3013) – Cwmstwrdy Kristoff, Bwch o Waed Cyfan, ganed yn 2023.

Pencampwr Goruchaf Ail Orau – Jeannie Camm (Rhif Cat 3047) – Paradise Nesta, Ewig o Waed Cyfan, ganed yn 2023.

Cnu Gafr Angora

Pencampwr Goruchaf – David Norman (Rhif Cat 3119), Bwch, pedwerydd, pumed neu chweched cneifiad.

Pencampwr Goruchaf Ail Orau – Debbie Francis (Rhif Cat 3142), Trydydd cneifiad.

Sioeau Geifr Llaeth ‘Cefn Wrth Gefn’ Diwrnod 1 a Diwrnod 2

Pencampwr – Rachel Sparkes (Rhif Cat 3311) – Wilowriver Yuzu, Gafr Fenywaidd sydd wedi bwrw myn fwy nag unwaith, unrhyw oed, wedi’u cofrestru yn Llyfr Geifre BRITISH ALPINE.

Pencampwr Ail Orau – Rachel Sparkes (Rhif Cat 3319) – Wilowriver Aurora, Gafr Fenywaidd sydd wedi geni myn gafr, unrhyw oed, yn ei llaeth UNRHYW FATH ARALL.

Pencampwr Gwrywaidd Geifr Llaeth Diwrnod 1:

Pencampwr – Snowdonia Goat Company (Rhif Cat 3352) – Darwil Adonis, Gafr Gwrywaidd dros flwydd oed sydd wedi’i gofrestru yn Adran SAANEN neu BRITISH SAANEN y Llyfr Geifre.

Pencampwr Brid Gafr Pigmi

Pencampwr– Jill Osborne (Rhif Cat 3246), Penrhiw Cleo – Benywaidd Feteran – 7 mlwydd neu’n hŷn.

Pencampwr Ail Orau – Jill Osborne (Rhif Cat 3239), Penrhiw Gabrielle – Oedolyn Benywaidd, 2 flwydd ond heb fod yn hŷn na 6 blwydd.

Pencampwr Gafr Pigmi Anwes

Pencampwr– P M Keates (Rhif Cat 3211) – Gemstone Callista, Anifeiliaid Anwes Benywaidd a Myllt, 4 blwydd oed neu’n hŷn.

Pencampwr Ail Orau – Tracey Cater (Rhif Cat 3213), Dreamers Nancy, Anifeiliaid Anwes Benywaidd a Myllt, 4 blwydd oed neu’n hŷn.

Gwartheg

Pencampwr Goruchaf – Mr David Powell (Rhif Cat 4000) – SHELSLEYS KWAGGA, Belted Galloway, Tarw 12 mis oed neu’n hŷn

Pencampwr Goruchaf Ail Orau – I a H Macleod (Rhif Cat 4018) – CARPENTERS CURLY 20th, Buwch neu Heffer Cyflo.

Goruchaf Bencampwriaeth y Ceffylau

Pencampwr – Mrs A Crawford, Handled/Ridden by Zara Owen – Bassymoor distant Land – RIHS Large Riding Horse Mare or gelding, 4 years old and over, exceeding 158cms.

Ail Orau – Rowena Cooper, Handled/Ridden by Poppy Anderson – COOPER – BSPS – LIHS Qualifier – Junior Performance Pony not exceeding 148cms.