Dechrau Cyfri’r Diwrnodau hyd nes Sioe Frenhinol Cymru yn Nigwyddiad Lansio Llyfrgell Genedlaethol Cymru - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Cynhaliodd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) ei digwyddiad Lansio Swyddogol ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru 2024 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, ddydd Mercher 12 Mehefin.

Dim ond 40 diwrnod oedd i fynd hyd nes Sioe Frenhinol Cymru, a daeth aelodau o fwrdd CAFC, aelodau o bwyllgor ymgynghorol Ceredigion, noddwyr allweddol, partneriaid yn y cyfryngau, cynrychiolwyr o’r diwydiant a chefnogwyr, at ei gilydd, i glywed am yr hyn sydd ar y gweill ar gyfer y digwyddiad eleni.

Cynhelir Sioe Frenhinol Cymru o ddydd Llun 22 Gorffennaf hyd ddydd Iau 25 Gorffennaf ar safle eiconig Maes y Sioe yn Llanelwedd, Llanfair-ym-muallt. Cydnabyddir y Sioe fel un o’r sioeau amaethyddol gorau yn y byd, ac mae’n denu dros 200,000 o ymwelwyr dros gyfnod o bedwar diwrnod i ddathlu bwyd a ffermio yn ogystal â diwylliant, amrywiaeth, y Gymraeg ac angerdd a chariad at y tir.

I ddechrau trefniadau’r noson, croesawodd Cadeirydd Cyngor CAFC, Nicola Davies, y rheiny a oedd yn bresennol a diolchodd iddynt am ddod i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

“Dyma’r ail dro i ni gynnal digwyddiad lansio swyddogol ar gyfer y Sioe. Y llynedd roedden ni yn y Senedd yng Nghaerdydd, ond rydyn ni wedi gadael y ddinas am y wlad a harddwch Canolbarth Cymru, ac wedi dod i dir y Cardis” meddai Nicola.

“Mae’r Gymdeithas wedi bod yn falch o’i threftadaeth ers y cychwyn cyntaf a gan fod eleni yn garreg filltir bwysig yn ein hanes – 120 mlynedd ers ei ffurfio – roedd ond yn iawn ein bod ni’n dod â’r digwyddiad lansio i Aberystwyth, safle’r sioe gyntaf un a gynhaliwyd yn 1904.

“Lle gwell i Gardi ddathlu carreg filltir mor bwysig na’r man lle dechreuodd ein stori?” meddai Nicola. “Ac rydyn ni mor ddiolchgar i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am ein helpu ni wrth i ni adrodd ein stori.”

Yn wreiddiol, amcan Sioe Frenhinol Cymru oedd crwydro hyd a lled Cymru, gan deithio o’r gogledd i’r de yn eu tro. Wrth i’r angen am leoliad parhaol godi, penderfynwyd ar Lanelwedd yng Nghanolbarth Cymru, a chynhaliwyd y Sioe ar Faes Sioe Frenhinol Cymru am y tro cyntaf yn 1963. Diolch i strwythur unigryw’r system siroedd nawdd, mae pob sir yn cadw perchnogaeth dros y Gymdeithas, ac eleni Ceredigion sydd wedi cydio yn yr awenau.

Yn ystod y lansio, roedd yna gyfle i glywed gan Archifydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Rhys Davies, mab i ffarmwr o Geredigion, a ddywedodd ambell i air am yr arteffactau a oedd i’w gweld a hanes cymdeithasau amaethyddol lleol yng Ngheredigion.

Yn ogystal â lansio’r sioe, roedd y diwrnod hefyd yn nodi agoriad arddangosfa newydd yn y Llyfrgell – “Tipyn o Sioe”, sef casgliad o ffotograffau sy’n portreadu sut y mae’r Sioe ac amaethyddiaeth wedi esblygu dros y degawdau. Bydd yr arddangosfa ar agor trwy gydol yr haf ac mae’n cynnwys gwaith y ffotograffwyr dogfen, Geoff Charles ac Arvid-Parry-Jones.

“Rydyn ni’n hynod o ffodus fod gennym sefydliadau fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n geidwaid i’n hanes,” meddai Nicola.

Meddai Dr Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae Sioe Frenhinol Cymru yn un o ddigwyddiadau pwysicaf Cymru, ac yn llwyfan rhyngwladol i’n rhagoriaeth ym maes amaethyddiaeth. Diolch i’r Gymdeithas am ddewis cyhoeddi’r Sioe eleni gyda ni ac mae’n bleser gennym guradu’r arddangosfa hon o ffotograffau o’n casgliad sy’n dogfennu hanes y Sioe dros y blynyddoedd. Edrychwn ymlaen at groesawu pobl o agos ac ymhell i’w gweld.”

Bob blwyddyn, mae un o 12 sir draddodiadol Cymru yn cymryd ei thro i noddi’r Sioe ac eleni tro Ceredigion yw hi gyda Denley Jenkins o Fferm Pantyrodyn yn Llywydd. Denley oedd y nesaf i gamu i’r llwyfan a dywedodd gymaint o anrhydedd oedd cael bod yn Llywydd.

Mae Denley’n byw ac yn gweithio ar y fferm fîff a defaid 240-erw ger Castellnewydd Emlyn ac mae wedi bod yr arddangos gwartheg ers dechrau’r 1980au mewn nifer o sioeau lleol a chenedlaethol. Ymunodd Denley â Chymdeithas Frenhinol Amaethyddol Cymru am y tro cyntaf yn 1981 ac mae wedi chwarae rhan weithgar byth ers hynny.

Nesaf, aeth Cyfarwyddwr y Sioe, Richard Price ati i amlygu rhai o’r atyniadau newydd a oedd ar  y gweill ar gyfer eleni, gan gynnwys dychweliad adran garddwriaeth.

“Byddwn yn lansio ein Pentref Garddwriaeth newydd a fydd yn dathlu tyfu cymunedol a masnachol,” meddai Richard.

“Bydd dwy babell gystadlu, un ar gyfer ffrwythau a llysiau ac un ar gyfer trefnu blodau, hwb sgiliau a dysgu newydd o’r enw Dysgubor, gardd synhwyraidd, gerddi arddangos micro, stondinau masnachol a phabell bwyd a diod.”

Bydd y Pentref Garddwriaeth newydd yn cael ei agor gan Sue Kent – arbenigwraig uchel ei pharch ar arddio, sy’n enwog am fod yn gyflwynydd teledu arobryn ar raglen Gardener’s World y BBC.

Ochr yn ochr â garddwriaeth, rydym wrth ein boddau hefyd i weld adran y dofednod yn dychwelyd eleni.

“Mae’r sefyllfa gyda’r Ffliw Adar wedi gwella ac mae’r cyfyngiadau wedi cael eu codi ac felly rydyn ni’n gallu llwyfannu’r sioe ddofednod unwaith eto. Dydyn ni ddim wedi cael sioe ddofednod yn y Sioe Frenhinol er 2019 ac mae pawb yn gyffrous iawn i’w gweld yn dychwelyd i’r Pafiliwn Ffwr a Phlu.

Rydyn ni’n falch o weld niferoedd cryf yn cystadlu ar draws yr holl adrannau da byw, gyda bron i 7,000 o anifeiliaid yn cael eu harddangos dros y 4 diwrnod. Mae’r nifer sy’n cystadlu yn yr adrannau ceffylau yn uwch na’r llynedd gyda nifer o ddosbarthiadau ceffylau newydd yn cael eu cyflwyno.

I nodi pen-blwydd y Gymdeithas yn 120 ac i ddathlu sir nawdd Ceredigion, comisiynwyd arddangosfa newydd ar gyfer y prif gylch. Bydd yr arddangosfa’n cynnwys pyped anferth o ffermwr o Geredigion gydag anifeiliaid, perfformwyr a chantorion. Arddangosfa unigryw na ddylid ei cholli!”

Hefyd yn perfformio yn y prif gylch fe fydd arddangosfa o’r enw Heavy Horse Display, sef perfformiad hynod o gyffrous gyda cheffylau yn dawnsio o amgylch y cylch i gerddoriaeth, a’r JCB Dancing Diggers hynod o boblogaidd sy’n dychwelyd am y tro cyntaf er 2010.

Gorffennodd Richard Price trwy gyflwyno fideo hyrwyddo Sioe Frenhinol Cymru ar gyfer 2024 i roi blas i’r gynulleidfa ar yr hyn sydd ar droed. Ac yn olaf, fe fu Cadeirydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr, yr Athro Wynne Jones, yn rhannu ei werthfawrogiad a’i ddiolch i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am gynnal y lansio, ac i bawb am ddod i ddathlu ac i ddechrau cyfri’r diwrnodau hyd nes Sioe Frenhinol Cymru.

Roedd y lansio hefyd yn gyfle i ddadorchuddio Poster Sioe Frenhinol Cymru 2024, a ddyluniwyd yn gywrain gan Ken Rees, artist sy’n lleol i Lanelwedd, a ddaw o deulu ffermio. Bydd nifer cyfyngedig o’r posteri ar gael i’w prynu o Siop y Sioe yn ystod Sioe Frenhinol Cymru fis nesaf.

Hoffai Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ddiolch i brif noddwr y digwyddiad, Mr Alun Griffiths o Mainunit Ltd. Mae’r Gymdeithas hefyd yn ddiolchgar i Wasanaethau Cyfieithu Cymen a fu’n ddigon caredig i ddarparu’r offer cyfieithu ar y pryd ar gyfer y noson.

Dim ond ychydig dros bum wythnos sydd i fynd hyd nes Sioe Frenhinol Cymru, felly prynwch eich tocynnau ymlaen llaw ar-lein nawr! Am ragor o wybodaeth am yr hyn sydd ar droed, ewch i wefan CAFC.