Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae’n bleser adrodd yn ôl ar ôl blwyddyn lwyddiannus, gyda rhywfaint o ddychwelyd i normalrwydd o’r diwedd, a gallu cynllunio ymlaen llaw gyda rhywfaint o sicrwydd” meddai’r Athro E Wynne Jones OBE FRAg, Cadeirydd y Cyngor yn ei araith i aelodau yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar 28 Mehefin 2024. Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2024 yn Sir Nawdd eleni, sef Ceredigion, yng Nghlwb Rygbi Castellnewydd Emlyn yn Dôl Wiber, Adpar ar lannau gogleddol yr afon Teifi, ym mro mebyd Llywydd eleni, Mr Denley Jenkins FRAg. Roedd y CCB yn gyfle i edrych yn ôl ar gyflawniadau’r llynedd ac i edrych ymlaen at y Sioe eleni, sydd ond ychydig wythnosau i ffwrdd. Croesawodd Cadeirydd y Cyngor, Mrs Nicola Davies FRAg aelodau i’r CCB. Nododd lwyddiannau aelodau a diolchodd i’r Sir Nawdd, Ceredigion, am ei hymdrechion dros y flwyddyn “Heb os, Geredigion, 2024 yw eich blwyddyn chi!”.

 

Etholwyd Bwrdd Cyfarwyddwyr newydd ddechrau’r flwyddyn a diolchodd yr Athro Wynne Jones i’r bwrdd blaenorol am eu gwaith a’u hymroddiad i’r Gymdeithas. Mynegodd y dylai’r bwrdd blaenorol edrych yn ôl gyda balchder ar eu cyfraniad at sefydliad llwyddiannus wrth iddo symud ymlaen. Aeth ati i gydnabod cyfraniad Mrs Nicola Davies FRAg, Cadeirydd y Cyngor, am ei gwaith yn ailwampio’r cyfansoddiad ac yn hwyluso’r newidiadau diweddar heb golli momentwm. Datganodd yr Athro Wynne Jones, ‘Yn ariannol, rydyn ni wedi gweld trobwynt sylweddol’. Nododd mai’r penderfyniad cywir oedd torri’r “neis i’w gwneud” a chanolbwyntio ar yr “angen eu gwneud”. Diolchodd i’r Prif Weithredwr am ei weledigaeth i adnewyddu holl weithgareddau’r Gymdeithas ac edrych arnynt o’r newydd. Mynegodd ei ddiolchgarwch i Noddwyr y Gymdeithas a’i Haelodau a fydd yn cael mwy o gynrychiolaeth wrth symud ymlaen gan y Pwyllgor Aelodaeth newydd. Soniodd yr Athro Wynne Jones am y gwaith rhagorol a wnaed wrth gyfleu safbwynt y Gymdeithas i’r cyfryngau ynghylch cynnig Llywodraeth Cymru i newid amserau’r tymor ysgol. Aeth ati hefyd i ddatgan cefnogaeth y Gymdeithas i’r gymuned wledig wrth iddi ddelio â heriau gwleidyddol gan atgoffa pawb bod y Gymdeithas yn cefnogi’r diwydiant: “Ni ydy chi – mae’r aelodaeth yn adlewyrchu’r gymuned wledig”.

Nododd yr Athro Wynne Jones lwyddiannau digwyddiadau’r llynedd o dan Sir Nawdd Morgannwg, gan longyfarchodd y Prif Weithredwr ar lwyddiant y pentref bwyd newydd ‘Gwledd’. Soniodd sut yr oedd wedi cynnig man hamddenol, diogel i deuluoedd ei fwynhau. Estynnodd ei longyfarchiadau cafc.cymru rwas.wales 2 hefyd ar y syniad o gynnal Lansiad Blynyddol ar gyfer y Sioe yn y Sir Nawdd a sut y bu’n llwyddiant y llynedd yn y Senedd ac unwaith eto eleni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Teimlai ei fod yn syniad gwych mynd â’r Gymdeithas at ei haelodau yn y Sir Nawdd. Nododd fod Sioe y llynedd wedi cael ei hagor gan 3 o’r bobl ifanc a oedd yn rhan o Raglen Arweinyddiaeth Wledig CAFC, a pha mor drawiadol oedd yr areithiau a draddodwyd ganddynt. Nododd fod un o’r siaradwyr, Esyllt Griffiths, wedi mynd ymlaen i fod yn Llysgennad ar gyfer Sir Nawdd eleni, sef Ceredigion a’i bod wedi cael ei hethol i gynrychioli Ceredigion ar Fwrdd y Gymdeithas. Wrth nodi llwyddiant y Ffair Aeaf, llongyfarchodd yr Athro Wynne Jones yr ymgyrch i ddod â 3000 o blant ysgol i’r Ffair yn rhad ac am ddim. Pwysleisiodd bwysigrwydd ymgyrchoedd fel hyn wrth feithrin cyswllt â phobl ifanc o ardaloedd nad ydynt yn rhai wledig, a bod gan y Gymdeithas “waith aruthrol i’w wneud wrth addysgu pobl am gynhyrchu bwyd”.

 

Mynegodd Llywydd eleni, Mr Denley Jenkins FRAg, ei bleser o gael ei ethol yn Llywydd. Dywedodd, “Nid oes llawer o freintiau mwy mewn bywyd na chael eich ethol yn Llywydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru gan Bwyllgor y Sir Nawdd, Ceredigion”. Diolchodd i’r holl dîm a’r Pwyllgorau ar draws y Sir sydd wedi bod yn trefnu digwyddiadau i godi arian. Nododd lwyddiant y digwyddiad Tir Glas yn Nhrawscoed a diolchodd i bawb a fu ynghlwm â threfnu’r digwyddiad a’i redeg. Diolchodd yn arbennig hefyd i’r Llysgennad, Esyllt Griffiths a’i theulu, am eu cefnogaeth.

 

Cyflwynodd y Trysorydd, Mr David Powell, yr Adroddiad Ariannol Blynyddol ac ategodd at y datganiad cadarnhaol a gafwyd gan yr Athro Wynne Jones ar ddechrau ei adroddiad. Daeth y cyfarfod i ben gyda’r Prif Weithredwr, Mr Aled Rhys Jones yn amlinellu’r rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau ar gyfer y Sioe eleni; gyda Garddwriaeth yn ôl, cyflwyno dwy babell gystadlu, canolfan sgiliau a dysgu newydd o’r enw Dysgubor, gardd synhwyraidd, gerddi arddangos micro, stondinau masnachol a phabell bwyd a diod. Mae dofednod hefyd yn dychwelyd yn dilyn codi’r cyfyngiadau Ffliw Adar. Mae CAFC yn gyffrous i groesawu’r Dancing Diggers i’r prif gylch ac arddangosfa unigryw i nodi 120 mlynedd ers sefydlu’r Gymdeithas. Bydd yr ardal Goedwigaeth hefyd yn fwrlwm o weithgarwch wrth i ni gyrraedd yr uchelfannau gyda’r gystadleuaeth dringo polyn hynod o boblogaidd yn dychwelyd. Cynhelir y Sioe Frenhinol ar Faes y Sioe yn Llanelwedd rhwng 22 a 25 Gorffennaf. Am ragor o wybodaeth am y Gymdeithas neu’r Sioe ewch i www.rwas.wales