Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Arhosodd y glaw i ffwrdd, a daeth yr haul allan ar gyfer diwrnod agoriadol Sioe Frenhinol Cymru
2024 wrth i dyrfaoedd enfawr ymgynnull ar faes y sioe yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt eleni eto.
Yn ei gair o groeso i’r ymwelwyr yn y seremoni agoriadol fore heddiw (dydd Llun 22 Gorffennaf),
dywedodd Cadeirydd y Cyngor, Mrs Nicola Davies BA (Anrh) FRAgS, sut y gallai deimlo’r “cynnwrf
a’r cyffro” yn y sioe eleni. Croesawodd Weinidogion ac Uwch Swyddogion y Llywodraeth, a oedd
yn cynnwys y Prif Weinidog, Vaughan Gething AS, Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd yr
Amgylchedd a Materion Gwledig, a Jo Stevens AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ynghyd â’r Gwir
Anrhydeddus Elin Jones, Llywydd y Senedd, a oedd yn agor y sioe. Dywedodd Mrs Davies wrth y
gynulleidfa mai dyma’r 5ed tro i Geredigion, ei sir enedigol, fod yn Sir dan Sylw, ac mai’r tro cyntaf
oedd 1967. Dywedodd fod Ceredigion yn teimlo perchnogaeth ar y sioe, gan y bu i’r Sioe Frenhinol
Cymru gyntaf gael ei chynnal yn Aberystwyth yn 1904, ac roedd yn briodol mai Ceredigion oedd y
Sir dan Sylw eleni. Mynegodd ei chydymdeimlad hefyd â theulu Mr Charles Arch, a oedd wedi bod
yn llais i’r sioe ers blynyddoedd lawer ac a oedd wedi cael gwahoddiad i agor y sioe eleni, ond yn
anffodus, bu farw cyn y gallai gyflawni’r rôl hon.
Dywedodd llywydd eleni, Mr Denley Jenkins, fod Mr Arch wedi bod yn edrych ymlaen yn fawr at yr
anrhydedd o agor y sioe, ac estynnodd ei gydymdeimlad â’r teulu hefyd. Aeth yn ei flaen i ddweud
bod y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS yn fwy na theilwng a chymwys i gyflawni’r rôl. Dywedodd
Mr Jenkins fod gan Ms Jones gymwysterau amaethyddol fel merch i ffermwr yng Ngheredigion, o
Lannen, a aeth ymlaen i astudio am radd meistr mewn Economeg Amaethyddol ym Mhrifysgol
Aberystwyth, cyn dod yn Aelod o’r Senedd dros Geredigion yn etholiadau cyntaf y Senedd yn
1999, ac wedi dal y sedd ers hynny. Daeth yn Llywydd y Senedd yn 2016 ac mae’n dal yn ddeiliad
y rôl honno.
cafc.cymru
rwas.wales 2
Agorodd Ms Jones ei haraith drwy ailadrodd y negeseuon o gydymdeimlad i deulu Mr Arch a
myfyrio ar sut yr oedd yr anrhydedd o agor y sioe yn chwerw-felys iddi dan yr amgylchiadau.
Dywedodd fod cymeriadau Ceredigion fel Mr Arch, cyn lywydd y sioe, y diweddar Dai Jones,
Llanilar a’r diweddar Elystan Morgan wedi gadael gwaddol enfawr i’r genhedlaeth nesaf, ond roedd
llywydd eleni a’i wraig, Mr a Mrs Denley a Brenda Jenkins, wedi dilyn eu harweiniad gydag afiaith,
hiwmor ac urddas. “Mae’n bleser gennym sefyll yma y bore yma, ar ysgwyddau cewri’r Gymru
wledig, rydym yn hawlio traddodiadau’r gymuned wledig. Roedd Dai a Charles Arch yn
bencampwyr cefn gwlad Ceredigion, ffordd o fyw heb ei thebyg”. Aeth ymlaen i sôn mai eu gwir
angerdd oedd sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yno “i ffermio, i arwain ac i adrodd ein stori”.
Diolchodd Ms Jones i’r pwyllgorau a’r trefnwyr codi arian, a pha mor hapus ydoedd o weld yr
“ifanc, y rhai ddim mor ifanc, a’r rhai sy’n dyheu i fod yn ifanc, o 8 i 88 oed, i gyd yn gweithio gyda’i
gilydd”. Ailadroddodd eiriau Nicola Davies am sut mae gan bobl Ceredigion berthynas arbennig â
Sioe Frenhinol Cymru: “mae yn ein gwreiddiau ac yn ein calonnau”. Wrth iddi ddatgan bod y sioe
ar agor, dywedodd ei bod yn anrhydedd agor y sioe, “ond mae’n anrhydedd bob dydd i fod yn
‘Gardi’!”.
Ychydig yn ddiweddarach yn y bore, lansiwyd y Pentref Garddwriaethol Newydd. Ar ôl bwlch o
flwyddyn, a roddodd gyfle i’r Gymdeithas ailfeddwl ac adnewyddu’r Adran Arddwriaethol yn y sioe,
croesawodd Cyfarwyddwr Anrhydeddus Cynorthwyol Garddwriaeth, Adam Jones, y garddwr
enwog, Sue Kent, i agor yr ardal newydd. Cyn y sioe, dywedodd Sue Kent “Mae’r Pentref
Garddwriaeth eleni yn llawn pethau diddorol, rhywbeth i ysbrydoli pob garddwr, ni allaf aros i weld
y cyfan’. Wrth agor y Pentref, dywedodd “Rwy’n falch iawn o fod yma. Yn treulio diwrnod yn
dathlu’r gorau sydd gan Gymru i’w gynnig ym maes garddwriaeth. Mae’n wych dod â’r holl dalent
a’r brwdfrydedd hwn at ei gilydd. Rwy’n edrych ymlaen at weld yr holl arddangosfeydd ac ymweld
â’r Babell celf flodau a’r gystadleuaeth arddwriaethol, i weld beth mae’r beirniaid wedi’i
benderfynu.”