Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Sioe Frenhinol Cymru 2024 wedi dod i ben mewn modd trawiadol, gan ddathlu pedwar
diwrnod o ragoriaeth amaethyddol, arloesedd ac ysbryd cymunedol. Roedd y digwyddiad eleni, a
gynhaliwyd rhwng dydd Llun 22ain a dydd Iau 25ain Gorffennaf, wedi denu toreth o ymwelwyr,
arddangoswyr a chyfranogwyr, gan atgyfnerthu ei safle fel un o brif sioeau amaethyddol Ewrop.
Croesawodd Sioe Frenhinol Cymru 2024 dros 200,000 o ymwelwyr gan dynnu sylw at
bwysigrwydd a phoblogrwydd cynyddol y digwyddiad yn y calendr amaethyddol.
Eleni, dychwelodd yr adran Arddwriaethol i’r sioe gyda’i hardal bwrpasol ei hun, y Pentref
Garddwriaeth, sydd wedi bod yn eithriadol o boblogaidd gydag ymwelwyr. Roedd Adam Jones,
Cyfarwyddwr Anrhydeddus Cynorthwyol yr adran, sy’n gyfarwydd i lawer fel Adam yn yr Ardd, wrth
ei fodd bod yr ymwelwyr wedi mwynhau’r ardal gan ddweud mai ‘Elfen bwysicaf y sioe yw’r bobl.’
Mae lansio’r ardal newydd yn y Sioe wedi rhoi llwyfan rhyngwladol i Arddwriaeth Cymru hyrwyddo’r
cynnyrch a’r llwyddiannau.
Yn 2024 hefyd mae’r adran Dofednod a Cholomennod wedi dychwelyd, sydd i’w groesawu, ar ôl
absenoldeb gorfodol oherwydd achosion o Ffliw Adar. Roedd yr arddangoswyr, y stiwardiaid a’r
gwirfoddolwyr wrth eu bodd yn gweld yr adran yn brysur unwaith eto, gydag ymwelwyr yn gwylio’r
Dofednod a’r Colomennod yn cael eu harddangos.
Dychwelodd y Dringo Polion yn yr Adran Goedwigaeth eleni hefyd, a gafodd groeso gan ymwelwyr
cyffrous a oedd yn ysu i weld y rasio. Dywedodd y Prif Weithredwr, Aled Rhys Jones, “dyma fu
blwyddyn y dofednod, y planhigion a’r polion!”. Dywedodd ein bod wedi cael Sioe ardderchog ac yn
ddiolchgar i’r holl ymwelwyr, arddangoswyr, gwirfoddolwyr, stondinau masnach a noddwyr sy’n
gwneud y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol.
Y Sir dan Sylw eleni oedd Ceredigion, dan arweiniad eu Llywydd Mr Denley Jenkins ynghyd â’i
wraig Mrs Brenda Jenkins a Llysgennad 2024, Esyllt Ellis Griffiths, sydd wedi cael wythnos
eithriadol o brysur, gydag amrywiol lansiadau, seremonïau gwobrwyo a derbyniadau i’w mynychu.
Dywedodd y Llywydd Mr Denley Jenkins “nid oes llawer o freintiau mwy mewn bywyd na chael
eich ethol yn Llywydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.” Galwyd y Sioe eleni yn ‘Sioe’r
Cardis’.
Roedd atyniadau’r prif gylch yr un mor boblogaidd ag erioed gyda dychweliad JCB Dancing
Diggers, Arddangosfa Ceffylau Trwm, y Tristar Carriage poblogaidd, Heboga Mynydd Du, Tîm
Arddangos Parasiwt Falcons y Llu Awyr Brenhinol Falcons a dychweliad y Quack Pack. Roedd y
Parêd Mawreddog o Dda Byw buddugol ar ddydd Mercher a dydd Iau, fel bob amser, yn wledd i’r
llygaid, ac fel y dywedodd Cadeirydd y Cyngor, Nicola Davies yn ystod y Parêd Mawreddog ddydd
Iau, “mae safon y stoc eleni yn anhygoel!”.

Roedd y Sioe eleni hefyd yn ddathliad o 120 mlynedd ers sefydlu Cymdeithas Amaethyddol
Frenhinol Cymru, a dathlwyd hynny gydag arddangosfa yn y Prif Gylch a gomisiynwyd yn arbennig
gan y Sir dan Sylw eleni, Ceredigion. Yn cloi’r sioe eleni roedd y Band Catrodol, a ddaeth i’r prif
gylch am y tro olaf dan Osgordd er Anrhydedd a ffurfiwyd gan y Dancing Diggers.

Prif Enillwyr Da Byw:
Prif Bencampwr y Gwartheg Godro
Beirniadwyd gan Mr Michael Gould
Dulais Lustre Silver – yn eiddo i Feistri Davies, Haines, Jones, Sercombe ac Yates
Prif Bencampwr Bîff
Beirinadwyd gan Mr Steve Edwards
Maraiscote Tangerine – yn eiddo i G a S Harvey
Prif Bencampwr y Ceffylau
Beirniadwyd gan Mr Richard Johnson OBE
Stockdale Black Prince – yn eiddo i Jodie Phillips
Pencampwriaeth Fitzhugh – Godro
Beirniadwyd gan Mr Alan Timberell
Pâr Holstein – Dulais Lustre Silver yn eiddo i Davies, Haines, Jones, Sercombe ac Yates a
Nethervalley Awesom Rosanne Red gan Hefyn Wilson
Pencampwriaeth Fitzhugh – Bîff
Beirniadwyd gan Mr Charlie Boden
Pâr Limousin – Maraiscote Tangerine gan G a S Harvey a Garrowby Tarzan gan R a J Graham
Tîm o bump Marks and Spencer – Bridiau Godro
Beirniadwyd gan Mr Alan Timbrell
Tîm o wartheg Holstein yn eiddo i Davies, Haines, Jones, Sercombe ac Yates, David Jones a
Hefyn Wilson
Tîm o Bump Natwest – Bridiau Bîff
Beirniadwyd gan Mr Bernard Llewelyn
Tîm o wartheg Corn Byr yn eiddo i James Dickinson, M.R. Souter a Mary Cormack
Cwpan y Frenhines 2024
Beirniadwyd gan Mr Malcolm James
Pencampwr y Gwartheg Duon Cymreig – Gwarcwm Macsen yn eiddo i D. Huw Jones
Pencampwr y Pencampwyr Defaid
Beirniadwyd gan Mr John Sinnett
Suffolk yn eiddo i Arnold Oare
Prif Bencampwr y Moch
Beirniadwyd gan Mrs Sharon Barnfield
Cymreig – Clowen Model 42 yn eiddo i Julian Collings
Prif Bencampwr y Geifr
Beirniadwyd gan Mr Adrian Bull
Ballingall Roxy yn eiddo i Beth Fairley
Dofednod Gorau’n y Sioe
Paul Tucker
Colomen Orau’n y Sioe
Jamie Vaughan
Anifail Anwes Gorau’n y Sioe
Crwban yn eiddo i Cai Barnard
Garddwriaeth
Blodau Gorau’n y Sioe
The Dewel Garden – Delyth Price