Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Bore heddiw (dydd Llun 22 Gorffennaf) cafodd y Pentref Garddwriaeth newydd sbon ei
agor yn swyddogol yn Sioe Frenhinol Cymru. Mae’r ardal fywiog dan arweiniad
Cyfarwyddwr Anrhydeddus Cynorthwyol Garddwriaeth RWAS, Adam Jones, sy’n fwy
cyfarwydd fel ‘Adam yn yr Ardd’ ar S4C, yn ddathliad o bob agwedd ar arddwriaeth yng
Nghymru.
Mae’r Pentref Garddwriaeth newydd yn arddangos tyfu cymunedol i fasnachol,
arddangosfeydd a sioeau cystadleuol, ochr yn ochr â hyrwyddo manteision cymdeithasol
ac iechyd garddio, addysg ac adeiladu cadwyn gyflenwi gadarn o gynnyrch cynaliadwy o
Gymru.
Yn ei araith agoriadol, datganodd Mr Jones i’r gynulleidfa yn ardal ‘Dysgubor’ ei fod yn
“Ddiwrnod gwych yn y Sioe!”. Siaradodd am sut yr oedd, wrth ymweld â’r sioe fel plentyn,
yn cofio cael ei ysbrydoli gan yr adran arddwriaethol a sut yr oedd hynny yn ysgogi ei
awydd i ddod yn arddwr. Ei weledigaeth ar gyfer y pentref oedd “ysbrydoli, addysgu a
chydweithio” ac roedd yn gobeithio y byddai ei ferch ifanc ei hun yn teimlo’r un synnwyr o
ryfeddod a mwynhad ag yr oedd ef pan yn blentyn. Datganodd hefyd fod nifer y ceisiadau
Celf Blodau 40% yn uwch na’r niferoedd cyn bwlch y llynedd.
Gydag amrywiaeth o ardaloedd wedi’u neilltuo ar gyfer pob agwedd ar arddwriaeth, mae
Mr Jones yn gobeithio y bydd pobl o bob rhan o’r diwydiant yn dod at ei gilydd i rannu
gwybodaeth a dysgu oddi wrth ei gilydd, p’un a oes ganddynt ardd fach neu fferm ar
raddfa fawr.
Dywedodd Mr Richard Price, Cyfarwyddwr Anrhydeddus y Sioe, mai’r bwriad oedd
gwneud y Pentref Garddwriaeth yn destun trafod mwyaf Sioe Frenhinol Cymru 2024 a bod
y Gymdeithas yn awyddus i gofleidio’r sector. Diolchodd i’r holl noddwyr a oedd wedi
gwneud y Pentref yn bosibl.
Sue Kent, cyflwynydd ‘Gardener’s World’ ar BBC2 sydd wedi ennill gwobrau, Llysgennad
Anabledd RHS, ac enillydd medal RHS a ‘Gardener’s World Live’, sy’n byw yn Abertawe,
agorodd y Pentref yn swyddogol, gan ddweud sut roedd hi’n falch o fod yn y sioe a
threulio’r diwrnod yn dathlu’r gorau sydd gan Gymru i’w gynnig ym maes garddwriaeth,
“Mae’n wych dod â’r holl dalent a brwdfrydedd hwn ynghyd”. Dywedodd ei bod yn edrych
ymlaen at ymweld â’r holl gystadlaethau celfyddyd flodau a garddwriaethol ac yn gobeithio
cael ei hysbrydoli i geisio cystadlu yn ei sioe leol. Dywedodd wrth y gynulleidfa “Rwy’n
cafc.cymru rwas.wales 2
credu ein bod ni i gyd yn mynd i gael diwrnod llawn o rannu a dysgu, sef hanfod Sioe
Frenhinol Cymru”, cyn datgan bod y Pentref ar agor. Yna cynhaliodd sesiwn llofnodi llyfrau
ar gyfer ei llyfr newydd ‘Garden Notes’, ac yna sesiwn holi ac ateb yn ddiweddarach yn y
dydd, dan arweiniad Richard Bramley, o Farmyard Nurseries, Llandysul.
Mae ymwelwyr yn gallu mwynhau elfennau traddodiadol y cystadlaethau garddwriaethol,
ynghyd ag arddangosfeydd yn yr ardaloedd ‘Eisteddflod’ a ‘Garddle’. Mae ‘Dysgubor’ yn
cynnal sgyrsiau, trafodaethau, gweithdai a chyfleoedd dysgu llawn gwybodaeth ar draws
pob agwedd ar y sector garddwriaethol, ac mae ‘Y Farchnad’ yn darparu ardal i dyfwyr a
chynhyrchwyr masnachol ymgysylltu ag ymwelwyr. Ceir gardd synhwyraidd, mân erddi
arddangos a man adloniant hefyd.
Pwysleisiodd Adam Jones yr awydd i greu ardal a fyddai’n dod â’r gymuned at ei gilydd,
“Yr elfen bwysicaf o’r sioe yw’r bobl. Mae’r pentref yn rhoi llwyfan rhyngwladol i ni
hyrwyddo Garddwriaeth yng Nghymru a threialu cysyniadau, trafod syniadau a dathlu ein
llwyddiannau. Rydym yn awyddus i ymwelwyr ddod draw a rhannu eu profiadau a’u
syniadau er mwyn datblygu’r pentref ymhellach yn y dyfodol”.