Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Gan edrych ymlaen at Ffair Aeaf CAFC 2025, mae’r Rhestr Beirniaid Ceffylau wedi ei gyhoeddi. Mi fydd y Ffair Aeaf yn cael ei gynnal ar ddydd Llun 25ain a dydd Mawrth 26ain o Dachwedd ar Faes y Sioe, Llanelwedd.

Mae disgwyl i’r atodlenni fod ar gael o ddydd Gwener 30ain Awst ac fe fydd ceisiadau ar agor o ddydd Mercher 11eg o Fedi.