Sioe Frenhinol Cymru’n dathlu’r 100fed Sioe - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Wrth i 100fed Sioe Frenhinol Cymru dynnu at ei therfyn, mae’n ddiogel dweud bod yr ychydig ddyddiau diwethaf wedi bod yn llawn dop o heulwen a dathliadau.

Ers y sioe gyntaf un a gynhaliwyd yn Aberystwyth yn 1904, mae’r sioe wedi datblygu trwy gydol y blynyddoedd i ddod yn un o’r sioeau amaethyddol gorau a mwyaf yn Ewrop, yn dathlu amaethyddiaeth a chynnyrch Cymru a Phrydain ar ei orau un.

Gydag amcanion cynnar y gymdeithas i wella bridio stoc ac annog amaethyddiaeth ledled Cymru, denodd y sioe gyntaf 442 o gynigion da byw. Mae’r amcanion dechreuol hyn yn dal i swnio’n wir heddiw, gyda da byw yn cael lle ar ganol y llwyfan yn y sioe. Roedd niferoedd y da byw yn cystadlu yn dros 8,000 eleni, gydag arddangoswyr yn cydgyfarfod ar faes y sioe yng Nghanolbarth Cymru o bob cwr o’r Deyrnas Unedig ac ymhellach i ffwrdd, i gyd yn gobeithio mynd adref gyda rhoséd chwenychedig Sioe Frenhinol Cymru.

Wrth derfynu ychydig ddyddiau gwych o gystadlaethau brwd, cynhaliwyd cystadleuaeth Prif Bencampwr y Pencampwyr wefreiddiol yn y prif gylch ar y prynhawn dydd Iau. Yn cael ei noddi’n garedig gan Tesco, oedd hefyd yn dathlu eu canmlwyddiant, bu’r dosbarth arbennig hwn yn dyst i geffylau, gwartheg, defaid, geifr a moch i gyd yn cystadlu am deitl untro 100fed Sioe Frenhinol Cymru. I’n Cyfarwyddwr Sioe ein hunain, Harry Fetherstonhaugh, y disgynnodd yr anrhydedd o feirniadu yn ei flwyddyn olaf yn y swydd ar ôl 25 mlynedd.

Yn cael ei wylio gan filoedd o ymwelwyr a’r holl stiwardiaid a chyfarwyddwyr anrhydeddus, cyhoeddodd Harry mai enillydd y teitl untro hwn oedd Offham Theresa 32nd, Prif Bencampwr y Moch, hesbinwch Gymreig, wedi’i magu ac yn cael ei harddangos gan Wakeham-Dawson a Harmer o Lewes, East Sussex.

“Mae’n hyfrydwch gen i enwi’r esiampl dlws hon yn enillydd teitl Pencampwr y Pencampwyr yma yng 100fed Sioe Frenhinol Cymru” meddai Harry. “Roedd yn benderfyniad anodd iawn, ond mae’n rhaid imi ddweud, rwyf yn meddwl ei bod hi’n bictiwr go iawn ac yn enillydd teilwng iawn.”

Cyflwynwyd bwced Siampên grisial unigryw a gwydrau ffliwt cydweddog i’r perchnogion balch dros ben i goffáu’r achlysur pwysig hwn.

Canlyniadau Da Byw Allweddol

Pencampwr Pencampwyr 100fed Sioe Frenhinol Cymru

Beirniadwyd gan Mr Harry Fetherstonhaugh

Prif Bencampwr y Moch, Offham Theresa 32nd, hesbinwch Gymreig, wedi’i magu ac yn cael ei harddangos gan Wakeham-Dawson a Harmer o Lewes, East Sussex.

Prif Bencampwr Ceffylau

Beirniadwyd gan Mr B Champion

Amesbury Champagne, merlen ffrwyn dywys 5 mlwydd oed, wedi’i magu ac yn cael ei harddangos gan Mrs Anne Prosser a’i marchogaeth gan Charlotte Prosser, 5 mlwydd oed, y ddwy o Lanbedr, Caerdydd.

Prif Bencampwr Bîff

Beirniadwyd gan Mr Jack Henry

Sarcombe Dandelion-OMG a llo gwryw, Sarcombe Kite, wedi’u magu ac yn cael eu harddangos gan Judy a Bridget Borlase o Watton-at-Stone, Swydd Hertford.

Prif Bencampwr Buchod Llaeth

Beirniadwyd gan Mr R J Saxby

Newbirks Jazz 1584, buwch yn llaetha, wedi dod â llo 4 gwaith neu fwy, yn cael ei harddangos gan Robert ac Elaine Butterfield

Tîm o Bump y Natwest – bridiau bîff

Beirniadwyd gan Mr R G Bartle

Tîm o wartheg Glas Prydeinig yn eiddo i’r Mri R & M Patterson, MJ & D Madders, Miss Charlotte Alford a Mr & Mrs DW & LE Morgan

Tîm o Bump Marks & Spencer – bridiau llaeth

Beirniadwyd gan Mr Meurig James

Tîm o wartheg Holstein yn eiddo i Miss Charlotte Wilson & Mr Luke Lancaster, A H Wilson a’i Fab, Mr Bryn Davies, Mr Robert ac Elaine Butterfield.

Pencampwr Pencampwyr y Defaid

Beirniadwyd gan Mr R Wilson

Oen benyw Texel, Proctors Cinderella, wedi’i magu ac yn cael ei harddangos gan Mr Aiken o Wennington, Swydd Gaerhirfryn.

Prif Bencampwr y Moch

Beirniadwyd gan Mr N Overend

Offham Theresa 32nd, hesbinwch Gymreig, wedi’i magu ac yn cael ei harddangos gan Wakeham-Dawson a Harmer o Lewes, East Sussex.

Prif Bencampwr y Geifr

Mineshop Maia, Saanen Prydeinig, wedi’i magu ac yn cael ei harddangos gan Mr Chris Nye o Ely, Swydd Gaergrawnt.

Trwy gydol y pedwar diwrnod roedd nifer o ddathliadau coffaol i nodi carreg filltir y 100fed sioe yn hanes y sioe. Roedd y rhain yn cynnwys cynnal priodas i un cwpl ffodus.

Enwebwyd y pâr cariadus gan ffrindiau i briodi yn ystod y sioe, gyda holl gostau’r briodas wedi’u talu, yn dilyn nifer o flynyddoedd anodd i’r cwpl a’u teulu. Ar ôl bore o olchi ceffylau a thwtio dofednod yn barod ar gyfer eu cystadlaethau y diwrnod canlynol, priododd Bethan ac Arwel yng nghalon y sioe. Wedi’u hamgylchynu gan griw mynwesol o ffrindiau a theulu (a miloedd o ddymunwyr da hapus) fe wnaeth y cwpl gyfnewid eu haddunedau yn ein bandstand darlunaidd, cyn mwynhau gwydraid o siampên oer a gwledd briodas flasus gyda’u gwesteion, gan arddangos y cyfle i eraill briodi ar faes y sioe.

Ar bob un o’r pedwar diwrnod, trawsnewidiwyd y prif gylch yn strafagansa gerddorol yn dathlu 100 mlynedd o ffermio a diwylliant Cymru. Yn gyflawn â cherddoriaeth draddodiadol a chyfoes, canu, dawnsio a sylwebaeth, roedd gorymdaith o rai o’r peiriannau ffermio cynharaf i’r dechnoleg ddiweddaraf sydd ar gael heddiw wedi’i choreograffu’n fedrus yn arddangosfa oedd yn mynd â’ch anadl i bawb ei mwynhau. Wedi’i gynhyrchu gan Lysgennad Ifanc Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig, Euros Llyr Morgan, roedd rhai o oreuon Cymru, fel Shân Cothi yn syfrdanu’r tyrfaoedd tra oedd hi ar gefn ceffyl a Lloyd Macey, a gyrhaeddodd rownd derfynol yr X Factor, yn rhan o’r olygfa ysblennydd.

Roedd y 100fed sioe yn elfen hefyd yn llawer o’r cystadlaethau ar hyd a lled maes y sioe gyda chardiau a rhosedau gwobrwyol coffaol arbennig ar gyfer pencampwyr pob adran, gydag addurno teisennau, gwaith haearn addurnol, arddangosiadau coedwigaeth a dosbarthiadau trefnu blodau yn darlunio’r thema hefyd. Yn aros o fewn yr adran garddwriaeth, fe wnaeth y sioe gynnal lansiad amrywogaeth Pysen Bêr newydd sbon i goffau 100fed Sioe Frenhinol Cymru, wedi’i henwi’n ‘Gwawr Cymru’.

Fe wnaeth yr heulwen Gymreig ogoneddus ein hanrhydeddu â’i phresenoldeb drwy’r wythnos gan yrru gwerthiant hufen iâ a hetiau haul drwy’r to. A gan wneud y gorau o’r tywydd bendigedig, roedd ymwelwyr yn ddiolchgar am y mannau ail-lenwi dŵr newydd eu gosod a oedd yn frith o gwmpas maes y sioe. Nid yn unig y gwnaeth hyn gadw pawb wedi’i hydradu yn y gwres eiriasboeth, ond mae hefyd yn helpu’r gymdeithas a’r sioe i leihau faint o blastig a ddefnyddir ar y safle, sy’n mynd tuag at ein hymrwymiad i wneud cyfraniad cadarnhaol ar yr agenda newid hinsawdd.

Ar wahân i’r cystadlaethau, siopa anhygoel a’r 12awr o gyffro ac atyniadau di-baid bob dydd, mae’r sioe’n croesawu nifer fawr o bobl bwysig sy’n ymweld. Eleni roedd yn hyfryd gennym groesawu Tywysog Cymru a Duges Cernyw i’r sioe. Yn ystod eu hymweliad, fe wnaeth Eu Huchelderau Brenhinol agor arena ceffylau newydd, dadorchuddio cerflun o lawn faint o Farch Cob Cymreig Adran D ac agor gardd newydd ar faes y sioe yn swyddogol, wedi’i chreu’n benodol i goffáu hanner canmlwyddiant arwisgiad Ei Uchelder Brenhinol yn Dywysog Cymru. Roedd cyfle hefyd i’r ddau ohonynt gyfarfod ag arddangoswyr, stiwardiaid, masnachwyr, arweinwyr amaethyddol allweddol a mynychwyr y sioe a hyd yn oed gyflwyno nifer o wobrau yn y cylchoedd beirniadu.

Ymunwyd â’r cwpl brenhinol hefyd gan ymwelwyr brenhinol eraill â’r sioe, y Brenin Goodwill Zwelithini kaBhekuzulu a’r Frenhines Pumi, pennaeth cenedl y Zwlw. Trwy gyfarfod aelodau’r diwydiant amaethyddol, mae’r Brenin Goodwill yn bwriadu mynd â llawer o enghreifftiau o arfer da yn ôl i’w wlad i wella’u sgiliau ffermio ymhellach. Mae rhannu arfer da yn mynd yn ôl i’r rheswm y sefydlwyd cymdeithasau amaethyddol yn wreiddiol.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru bob amser wedi talu teyrnged i’w hanes llawn a’i thraddodiadau cryf, ond nid ydym erioed wedi bod ag ofn symud gyda’r amserau a mabwysiadu technolegau a ffyrdd newydd o weithio. Wrth inni edrych yn ôl ar y 100 Sioe Frenhinol Cymru gyntaf gyda balchder, gallwn fod yn falch hefyd ein bod yn gwneud cynlluniau at y dyfodol.

“Mae maes y sioe, yma yng nghefn gwlad canolbarth Cymru, yn gyflym ddod yn un o’r safleoedd digwyddiadau gwledig gyda’r cysylltiadau gorau yng Nghymru” meddai Steve Hughson, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC). “Rydym wrth ein bodd fod y mast ffôn parhaol yma ar y safle wedi’i uwchraddio i 5G o ganlyniad i brosiect cydweithredol rhyngom ni’n hunain, Llywodraeth Cymru a BT, ac y bydd gennym fast Vodafone / O2 5G newydd ar y safle cyn y Ffair Aeaf hefyd.

“Ar ôl gosod Superfast Cymru yn 2014, a’r mast 4G yn 2016, mae’r datblygiad diweddaraf hwn yn rhan o’n strategaeth i symud gyda’r amserau, i aros yn gyfamserol gyda byd cyfnewidiol technoleg a sicrhau ein bod yn aros yn berthnasol am y 100 sioe nesaf.”

Yn dilyn thema arloesi a datblygu yn y dyfodol, dyfarnwyd medal aur yn ystod y sioe am y ddyfais sy’n fwyaf tebygol o fod yn fuddiol i ffermio Cymru, i Solar Pump Solutions Ltd, am eu System Ddŵr Solarflo, sy’n caniatáu i ddŵr gael ei bwmpio o unrhyw fan anghysbell heb fod angen cael  trydan. Dyfarnwyd gwobr deilyngdod Sioe Frenhinol Cymru am arloesedd newydd sy’n dangos fwyaf o botensial i wella amaethyddiaeth yng Nghymru i’r peiriant tyrchu bychan JCB 19C-1 E-TEC – y cyntaf o’r genhedlaeth drydan a pheiriant tyrchu bychan cwbl drydanol y diwydiant gyda dim allyriadau, lefelau sŵn isel a dim cyfaddawd ar berfformiad.

“Nid yw darparu sioe lwyddiannus flwyddyn ar ôl blwyddyn yn hawdd, ond unwaith eto mae tîm CAFC wedi darparu dros Gymru” meddai Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y gymdeithas, John T Davies. “Fy niolch i bawb am wneud iddi ddigwydd mewn ffordd mor llwyddiannus.”

“Fel dyn o Sir Benfro rwyf mor falch o’m sir enedigol a’i chyfraniad at y 100fed Sioe, fe wnaeth y sir ei rhan a rhagori wrth ei gwneud yn sioe’r ganrif!!!”

Wrth inni ddod at derfyn Sioe Frenhinol Cymru 2019, edrychwn ymlaen at adeiladu ar ein llwyddiant a’ch croesawu chi’n ôl ar 20 – 23 Gorffennaf yn 2020.