Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
18-19 Mai 2024.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Mae modd i holl geisiadau cystadlaethau’r Ŵyl gael eu cwblhau ar-lein yn awr trwy ein porth ceisiadau ar y wefan. Mae yna wybodaeth am sut i ymgynnig ac arweiniad fideo defnyddiol i helpu arddangoswyr gyda’r system geisiadau ar-lein. Mae ceisiadau’n agor heddiw (dydd Mawrth 1af Mawrth) am 10 y bore ac yn cau ddydd Llun 4ydd Ebrill am 5 y prynhawn.
Yn digwydd ar ddydd Sadwrn 21ain a dydd Sul 22ain Mai, bydd yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad yn dychwelyd i Faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd am y tro cyntaf er 2019 ac rydym yn gobeithio bod ein harddangoswyr yn edrych ymlaen at gystadlu unwaith eto. Mae’r digwyddiad penwythnos o hyd yn ddathliad o fywyd gwledig gyda gweithgareddau cadw tyddyn wrth ei galon. Yn ddiwrnod allan gwych i deuluoedd, tyddynwyr, selogion garddio a phreswylwyr cefn gwlad, mae’r Ŵyl yn cynnig rhywbeth i bawb ei fwynhau.
Bydd Gŵyl eleni’n orlawn o gystadlaethau a bydd yr ornest amdanynt yn frwd, gyda chystadleuwyr yn dod o bell ac agos yn y gobaith o fynd â theitl a rhoséd a geisir yn ddyfal adref gyda nhw. Nid yn unig y gallech fod yn ychwanegu cerdyn gwobrwyo at eich casgliad, ond diolch i’r gefnogaeth barhaus gan ein noddwyr, gallech fanteisio hefyd ar yr amrediad enfawr o arian gwobrwyo, talebau a chofroddion arbennig sydd ar gael i’w hennill.
Meddai Geraint James, Cyfarwyddwr Anrhydeddus yr Ŵyl,
“Mae’n bleser mawr gennyf groesawu arddangoswyr o bob adran yn ôl i Faes y Sioe ers eu hymweliad olaf yn 2019, neu os yw hi’n dro cyntaf ichi gystadlu yn yr Ŵyl. Rwyf yn gobeithio y byddwch i gyd yn mwynhau’r profiad teimlo’n dda yn Llanelwedd.”
Gan dynnu sylw at y system ceisiadau ar-lein newydd meddai Mr Jones wedyn, “Er gwaethaf y datblygiadau mawr ym myd technoleg byddwn yn hoffi rhoi gwybod i’r arddangoswyr hynny nad oes ganddynt y cysylltedd o bosibl, neu nad ydynt yn brofiadol gyda chyfrifiadur, fod atodlenni copi papur ar gael ar gais o swyddfa CAFC.” Fe sicrhaodd hynny.
“Mae ein staff yma i helpu, ac rwyf yn gobeithio y bydd cyd-arddangoswyr sydd wedi arfer mwy â’r systemau ar-lein hyn yn helpu’r rheini sy’n llai cyfarwydd â’r system geisiadau.”
“Unwaith eto, mae gennym ddeuddydd amrywiol a llawn o gystadlaethau ac adloniant sy’n addas ar gyfer pob oed, ynghyd â llawer o gyfleoedd i sylwi, gwrando a chael gwybod am syniadau a phrofiadau newydd.”
Mae’r Atodlen Dda Byw ar gael i’w gweld ar ein gwefan yn awr. Gyda dros 400 o ddosbarthiadau a gwobrau arbennig ar gyfer defaid, moch, geifr a gwartheg, y mae llawer ohonynt ar gyfer bridiau traddodiadol, prin a brodorol, mae yna gyfle i bawb gymryd rhan. Mae gennym amryw o adrannau newydd yng Ngŵyl eleni, yn cynnwys dosbarthiadau ar gyfer Adran Texel Glas newydd sy’n sefyll ar ei ben ei hun, Adran Geifr Boer, ac Adrannau Stoc Ifanc Gwartheg Llaeth a Thywyswyr Ifanc Gwartheg Llaeth. Edrychwn ymlaen at gefnogaeth dda gan fridwyr i’r cystadlaethau newydd hyn.
Mae Atodlen Geffylau Gŵyl eleni yn rhoi lle amlwg i dros 130 o ddosbarthiadau ac mae ar gael ar ein gwefan yn awr hefyd. Yn ogystal â neidio ceffylau, ceffylau hela’n gweithio, ceffylau trwm, bridiau tramor a phrin ac adrannau tywyswyr ifanc, rydym yn cynnal Sioe Ranbarthol Canolbarth Cymru CHAPS, dosbarthiadau ar gyfer Cymdeithas Ceffylau Bychan Prydain, Cymdeithas y Bridiau Mulod a rownd gymhwyso Ardal Cymdeithas y Ceffylau Hŷn. Mae gornestau cymhwyso eraill yn cynnwys Her Stoc Ifanc Moorbennhall, rownd gymhwyso Cyfrwy Untu Clasurol Merched, Pencampwriaethau Ceffylau Arabaidd Prydeinig ac yn newydd ar gyfer 2022, dosbarth ar gyfer rownd gymhwyso’r Gymdeithas Cobiau Sipsi Traddodiadol.
Mae ceisiadau’r Brif Sioe Gŵn Agored ar agor yn awr hefyd ar gyfer Rowndiau Cymhwyso Crufts 2023 ble mae rhosedau, arian gwobrwyo a bwydydd anifeiliaid anwes o ansawdd i gyd ar gael i’r cŵn buddugol. Mae ceisiadau post yn cau ddydd Llun 11eg Ebrill, ac mae ceisiadau ar-lein yn cau ddydd Mawrth 3ydd Mai. Ewch i wefan yr FDS am wybodaeth neu i anfon cais ar-lein
Yn newydd i’r Ŵyl yn 2019, byddwn unwaith eto’n cynnal y cystadlaethau trin gwlân sy’n digwydd ar ddydd Sul 22ain Mai. Mae ceisiadau ar fin agor yn fuan a byddant yn cau ddydd Gwener 29ain Ebrill. Bydd rhagor o fanylion ac atodlen ar gael maes o law.
Ynghyd â’r holl gystadlaethau, bydd Canolfan y Tyddynwyr a’r Ardal Bywyd Gwledig ar agor eto, ac yno bydd ymwelwyr yn gallu cael cyngor defnyddiol ar bopeth yn ymwneud â Chadw Tyddyn. Fel arfer, gellwch ddisgwyl bwyd a diodydd blasus o’r Neuadd Fwyd neu gellwch gael gafael ar rywbeth blasus i’w fwyta yn yr ardal Bwyd Stryd. Gydag arddangosfeydd cyffrous yn y prif gylch, stondinau masnach diddorol a gweithgareddau hwyliog i’r teulu, mae’r Ŵyl yn ddiwrnod allan perffaith i bawb. Mae tocynnau ar gael yn awr o wefan CAFC. Mae tocyn diwrnod i oedolyn yn costio £16, mae’n £5 i blant ac mae rhai dan 5 yn cael dod am ddim.