Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
18-19 Mai 2024.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Mae’n bleser gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, gyda chefnogaeth Sir Nawdd Morgannwg 2023, lansio Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig newydd CAFC ar gyfer 2022-2023.
Mae’r Rhaglen Arweinyddiaeth yn anelu at ddarparu rhaglen lawn mynd o hyfforddiant, mentora, cefnogaeth ac arweiniad dros 3 sesiwn breswyl ddwys. Mae’r cyfle i rwydweithio gydag unigolion uchel eu proffil o fewn y diwydiant yn dechrau gyda diwrnod dethol/blasu i ymgeiswyr ym mis Mai 2022.
Wedi’i hanelu at ysbrydoli arweinwyr y dyfodol ym myd amaeth, bydd y rhaglen ar gael i unrhyw un wneud cais am y lleoedd cyfyngedig. Cymerwch y cyfle hwn i ddatblygu’ch sgiliau arwain ar adeg mor bwysig i’n sector.
Dylid e-bostio ceisiadau wedi’u cwblhau at Olwen Thomas. Ebost: eolwen@gmail.com
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 29 Ebrill 2022