Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

“Tra bod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod y rhai mwyaf heriol o’r holl flynyddoedd, edrychwn gyda brwdfrydedd eto yn awr ar ddod â normalrwydd yn ôl i’r digwyddiadau ac i rythm dyddiol y Gymdeithas.”  meddai Mr John T Davies, Cadeirydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr, yn ei anerchiad i’r aelodau yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2022.

Yn cael ei gynnal gan Sir  Nawdd eleni, Clwyd yng Nghoed Coch, cartref hyfryd Llywydd eleni, Mr Harry Fetherstonhaugh OBE FRAgS, edrychodd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2022 yn ôl ar yr hyn a fu’n flwyddyn fwy gobeithiol ers y pandemig, ac ymlaen at Sioe Frenhinol Cymru eleni, oedd ond ychydig wythnosau byr i ffwrdd.

Wrth fyfyrio ynghylch y flwyddyn ddiwethaf, meddai Mr John T Davies; “Mae’r flwyddyn 2021 wedi caniatáu inni’r cyfle i gychwyn ar y pontio tuag at y normal newydd ym mhob agwedd ar ein busnes ar ôl y pandemig. Daeth y camau bach cyntaf wrth ddod â phobl yn ôl i dir cysegredig Llanelwedd gyda’r Digwyddiad Ceffylau un-tro ym mis Medi, ynghyd â’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a’r cynulliad Gwobrwyo yn yr un mis.”

“Cael a chael oedd y penderfyniad i redeg y Ffair Aeaf yn 2021 gydag ansicrwydd Covid yn parhau, ond y penderfyniad cywir er hynny. Caniataodd inni adennill ein hyder a’n gallu i redeg digwyddiadau mawr. Mae fy llongyfarchiadau diffuant yn mynd i dîm y Ffair Aeaf am wneud yn siŵr fod dychweliad y Ffair Aeaf yn llwyddiant ysgubol.”

Yng nghyfarfod y Cyngor fis Rhagfyr y llynedd, roedd y Gymdeithas yn ffodus o allu cyfarfod wyneb yn wyneb unwaith eto, gan adnewyddu cyfeillach a chyfeillgarwch wedi ysbaid o ddwy flynedd. Roedd yn ddiwrnod pwysig i’r Gymdeithas hefyd, wrth i Mr David Lewis, Cadeirydd y Cyngor, ymddeol ar ôl degawd yn swydd uchaf y Gymdeithas.

“Mae cyfraniad Dai yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’w swydd o fewn y Gymdeithas pan oedd yn ymddeol, gan ei fod wedi dal y tair swydd uchaf, fel Llywydd a Chadeirydd y Bwrdd yn ogystal. Wrth inni ddiolch i Mr David Lewis am ei gyfraniad a’i ymroddiad anfesuradwy i’r Gymdeithas mewn cymaint o wahanol ffyrdd, rwyf hefyd yn dymuno ychwanegu fy niolch personol am ei gefnogaeth gadarn a’i gyfeillgarwch amhrisiadwy trwy gydol fy amser fel Cadeirydd y Bwrdd.” meddai Mr John T Davies.

Mae gwyntoedd cyfnewidiadau yn parhau i mewn i 2022 wrth inni groesawu Mrs Nicola Davies i swydd etholedig Cadeirydd y Cyngor, ennyd hanesyddol o fewn y Gymdeithas gan mai hi yw’r wraig gyntaf i ymgymryd â’r swydd.

“Mae Nicola wedi profi dros y degawdau ei bod hi’n dal buddiannau gorau’r Gymdeithas yn dynn o agos at ei chalon. Mae fy nymuniadau gorau diffuant iawn yn mynd i Nicola. Bydd hi’n cael ei chefnogi’n gadarn gan was angerddol arall i’r Gymdeithas, Mr Alwyn Rees, fel Is-Gadeirydd y Cyngor. Llongyfarchiadau i’r ddau ohonynt ar gael eu hethol i swydd uchel o fewn y Gymdeithas.”

Yn ei hanerchiad agoriadol i’r aelodau yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, meddai Mrs Nicola Davies: “Mae cydbwyso disgwyliadau gyda realiti a chynnal cefnogaeth ein haelodau a’n cwsmeriaid yn her ac yn rhywbeth y byddwn ni i gyd yn rhan ohono o’n staff, aelodau a phwyllgorau i’r Cyngor a’r Bwrdd. Mae ein diolch yn mynd i bob un o’r rhain am eu cefnogaeth barhaus.”

“Sut bynnag, fy nymuniad yw y bydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn cofleidio ei rôl ymhellach wrth hyrwyddo Cymru wledig, ein treftadaeth, ein diwydiant amaethyddol a’n pobl, yn hen ac ieuanc.

Rydym mewn sefyllfa freintiedig iawn yn gymaint ag y gallwn fod yn gyfrwng ar gyfer newid, gan herio canfyddiadau ac annog sgyrsiau ac wrth wneud hynny gyrraedd allan nid yn unig at y rheini sy’n ymwybodol o’r hyn yr ydym yn ei wneud ond y rheini nad ydynt hefyd.”

Gan symud ymlaen at Sir Nawdd Clwyd, fe wnaeth Nicola y sylw: “Mae’r Gymdeithas hon wedi wynebu cyfnodau cythryblus yn y gorffennol a bydd eto yn y dyfodol ond mae Clwyd fel Sir Nawdd, dan arweiniad ein Llywydd, ein Llysgennad Lowri a’r pwyllgor wrth ei ochr, wedi dangos inni’r dycnwch, y dyfalbarhad a’r ymroddiad sydd ei angen i oroesi a ffynnu.”

Wrth annerch yr aelodau, diolchodd Mr Harry Fetherstonhaugh, Llywydd 2022, i’w wraig, Davina am ei chefnogaeth, ynghyd â thîm ehangach Clwyd am eu gwaith caled a’u cefnogaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Roedd y digwyddiad Tir Glas, a gynhaliwyd ar 12fed Mai yng Ngholeg Llysfasi, yn llwyddiant ysgubol. Mae diolch yn mynd i’r miloedd a ddaeth yno a’r cwmnïau a fu’n cynnal arddangosiadau, yn arddangos ac yn noddi’r digwyddiad.

Wrth edrych tuag ar y dyfodol, rhoddodd John T Davies amlinelliad o’r hyn sydd yn aros pawb yn Sioe Frenhinol Cymru eleni, y gyntaf mewn tair blynedd oherwydd y pandemig (18 – 21 Gorffennaf 2022).

Gyda da byw yn dal i fod yn ganolbwynt y sioe, roedd yn falch o roi gwybod bod nifer y cystadleuwyr yn gryf, gan sicrhau bod popeth yn barod ar gyfer pedwar diwrnod o gystadlaethau ffyrnig yn arddangos goreuon amaethyddiaeth Prydain a Chymru.

Yr atyniadau mawr yn y Prif Gylch eleni fydd Marchfagnelau Brenhinol y King’s Troop yn perfformio eu Gyriad Cerddorol, un o’r arddangosfeydd mwyaf trawiadol o farchogwriaeth yn y byd, a’r styntiwr beic cwad rhyfygus Paul Hannam, gyda’i Sioe Styntiau Beiciau Cwad cyffrous. Ni ddylid colli’r RAF Falcons, prif dîm arddangos parasiwtio milwrol y DU, gyda’u harddangosfa cwympo rhydd cyffrous ar gyflymder o hyd at 120 m.y.a.

Yn dychwelyd i ddiddanu’r tyrfaoedd fydd Band Catrodol y Cymry Brenhinol, Black Mountains Falconry, Gyrru Cerbydau Tristar, a Meirion Owen a’i Gŵn Defaid.

Bydd Sioe Frenhinol Cymru yn digwydd ar faes y sioe yn Llanelwedd ar 18 – 21 Gorffennaf. I gael mwy o wybodaeth am y Gymdeithas neu’r Sioe ewch i www.cafc.cymru