Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Mae Gwobr Menter Bwyd Cymreig CAFC yn wobr flynyddol newydd er cof am y diweddar Mr Bill Ratcliffe OBE FRAgS. Bydd y wobr am y Cynhyrchydd/Gwerthwr Bwyd a Diod Cymreig Gorau sy’n Arddangos yn Sioe Frenhinol Cymru yn cael ei chyflwyno gyntaf yn Sioe Frenhinol Cymru 2022.
Bu Mr Ratcliffe yn gysylltiedig â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru am fwy na 60 mlynedd a bu’n gyfarwyddwr am dros 30 mlynedd. Un o’i ddiddordebau allweddol oedd bwyd, yn arbennig y busnesau fferm hynny sydd wedi arallgyfeirio a datblygu marchnadoedd a safleoedd i werthu eu cynnyrch yn uniongyrchol i ddefnyddwyr. Roedd yn ddyfeisiwr brwd hefyd.
Mae meini prawf y gystadleuaeth yn cynnwys:
Gwahoddir cynhyrchwyr a masnachwyr sy’n arddangos yn Sioe Frenhinol Cymru 2022 i wneud cais erbyn dechrau Gorffennaf i gystadlu yn y gystadleuaeth. Bydd y beirniadu’n cael ei wneud ar ddiwrnod cyntaf y Sioe a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Seremoni Gwobrwyo’r Gymdeithas a gynhelir yn Ardal y Cyngor ar ail ddiwrnod y Sioe.
Bydd masnachwyr a chwmnïau sy’n arddangos yn Sioe Frenhinol Cymru 2022 yn cael eu gwahodd i gyflwyno ffurflen gais i gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Byddir yn cyflwyno Gwobr Menter Bwyd Cymreig CAFC a Chofrodd y Gymdeithas i’r enillydd. Mae’r Gymdeithas yn cydnabod yn ddiolchgar iawn Mr Alistair Ratcliffe a Mr Anthony Ratcliffe a’u teuluoedd am noddi’r Wobr.