Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Bydd Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn parhau i ddigwydd adeg gwyliau haf yr ysgolion yn ystod tymor y senedd hwn.

Mae CAFC yn dal i ddisgwyl eglurhad am y sefyllfa’n yr hir dymor. Dyw hi ddim eto’n eglur p’un ai fydd y Llywodraeth yn ail-ymgynhori am strwythr y flwyddyn ysgol yn ystod tymor y senedd nesaf, neu yn gweithredu bryd hynny.

Dydy caredigion y Sioe Fawr fyth wedi gwrthwynebu bod y Llywodraeth yn ymgynghori ar strwythr y flwyddyn ysgol. Eu cri nhw oedd bod unrhyw newid ddim yn niweidio’r sioe.

Bu ymgynghoriad Llywodraeth Cymru am strwythr y flwyddyn ysgol, mewn peryg o orfodi’r Sioe Fawr i gael ei chynnal tra bod ysgolion Cymru’n parhau ar agor. Gofid CAFC oedd y byddai hyn yn rhwystro plant a theuluoedd rhag mynychu, ac y byddai hynny’n peryglu dyfodol y sioe.

Bellach, mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n bwrw ymlaen â’u cynlluniau ar hyn o bryd, ac o ganlyniad bydd ysgolion Cymru ar gau yn ôl yr arfer wrth i’r sioe gael ei chynnal tan 2026.

Wrth groesawi’r newyddion dywedodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr CAFC – “Pe bai’r Sioe wedi cael ei gorfodi i ddigwydd tra bod plant Cymru’n parhau yn yr ysgol, bydda’i hyfywedd y digwyddiad mwyaf o’i fath yn Ewrop sy’n cyfrannu cymaint at ddiwylliant ac economi Cymru, wedi bod yn y fantol.

Gyda’n disgyblion ni’n rhydd i fynychu’r Sioe, cawn ni barhau i fod yn bartneriaid yn addysg ieuenctid Cymru, drwy ddarparu’r holl brofiadau a chyfleoedd all-gyrsiol gwerthfawr ry’n ni wastad wedi gwneud.”

Ychwanegodd Cadeirydd Cyngor CAFC, Nicola Davies, “Mae’n diolch ni i’n haelodau ni am wrthwynebu ymgynghoriad y Llywodraeth yn fawr.

Profodd eu hymateb bod ein gwyl yn un sy’n agos at galonnau trigolion gwlad a thref. Ni fydd unrhywun nawr yn cael eu hamddifadu o’r cyfle i’w mynychu a fydd y Sioe ddim yn cael ei hamddifadu o’i ran mewn datblygu Cymru ffyniannus. Ond pe bai ei bodolaeth dan fygythiad eto’n y dyfodol ry’n ni’n ffyddiog y byddai’n haelodau ni’n brwydro’n llawn mor egnïol i’w gwarchod.”

Bydd Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn digwydd rhwng Gorffennaf yr 22ain a’r 25ain 2024 ar faes y sioe yn Llanelwedd.