Sioe Frenhinol Cymru 2024: 11 gweithgaredd y mae’n rhaid i chi roi tro arnyn nhw eleni - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru yn enwog am ei chystadlaethau da  byw, ond mae yna lawer mwy i’w fwynhau hwnt ac yma o amgylch Maes y Sioe.

Cynhelir Sioe Frenhinol Cymru, pinacl y digwyddiadau yng nghalendr amaeth Prydain, ar Faes y Sioe yn Llanelwedd, Llanfair-ym-muallt o ddydd Llun 22 hyd ddydd Iau 25 Gorffennaf 2024.

Bob blwyddyn, mae Sioe Frenhinol Cymru yn denu cannoedd o filoedd o ymwelwyr i galon Canolbarth Cymru i ddathlu’r gorau o amaethyddiaeth Cymru a Phrydain. Mae’r Sioe yn ddigwyddiad pedwar-diwrnod sy’n llawn cyffro, gyda gwledd o gystadlaethau cyffrous, da byw garddwriaeth, coedwigaeth, crefftau, campau cefn gwlad, siopa, bwyd a diod a rhaglen 12-awr o adloniant, atyniadau ac arddangosiadau di-stop, a llawer iawn mwy.

Mae pawb wrth eu boddau â Sioe Frenhinol Cymru oherwydd ei chystadlaethau da byw, sydd gyda’r gorau yn y byd, ond beth sy’ ‘mlaen o amgylch Maes y Sioe, tu allan i’r cylchoedd beirniadu? Darllenwch ymlaen i weld pa bethau difyr allwch chi eu gwneud eleni ar Faes Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru…

  1. Galwch heibio i’r Pentref Garddwriaeth newydd sbon, sy’n dathlu pob agwedd ar arddwriaeth yng Nghymru – gan gynnwys cyflwyniadau ac arddangosiadau, gwesteion arbennig, arddangos cystadleuol, micro welyau, gardd synhwyraidd, cerddoriaeth fyw ac ardal fwyd.
  2. Gwyliwch y seremoni agoriadol fore dydd Llun. Eleni, fe fydd Sioe Frenhinol Cymru yn cael ei hagor yn swyddogol gan Mr Charles Arch, llais adnabyddus iawn a ddechreuodd sylwebu nôl yn 1980!
  3. Oerwch gyda hufen iâ – galwch heibio i Minolis of Machen o dan yr Eisteddle sy’n dathlu 30 mlynedd o fasnachu yn Sioe Frenhinol Cymru!
  4. Gwyliwch ragbrofion cystadleuaeth Ffermwr Mwyaf Heini Prydain y Farmers Weekly yn y Pentref Chwaraeon ddydd Iau, lle bydd ffermwyr yn wynebu cyfres o heriau corfforol llym sydd wedi’u cynllunio i brofi eu cyflymder, eu nerth a’u stamina.
  5. Porwch drwy’r stondinau niferus – codwch bob math o gofbethau a rhoddion unigryw a diddorol o’r cannoedd o stondinau masnach.
  6. Mwynhewch saib haeddiannol a thamaid i’w fwyta yn y Pentref Bwyd Cymreig, Gwledd | Feast.
  7. Profwch fwrlwm Canolfan Cneifio Meirionnydd brynhawn dydd Mercher lle bydd y Pencampwriaethau Uwch yn mynd rhagddynt.
  8. Gwyliwch y gystadleuaeth Dringo Polyn – cafwyd polion newydd o Ystâd Doldowlod gerllaw i ailgyflwyno’r gystadleuaeth dringo polion hynod o boblogaidd hon. Mae’r polion yn pwyso 5 tunnell yr un ac yn sefyll 90 troedfedd o hyd ac wedi’u gwneud o goed a blannwyd dros 60 mlynedd yn ôl!
  9. Gwyliwch yr Orymdaith Fawr – profwch awyrgylch y Prif Gylch wrth i dda byw a cheffylau sydd wedi ennill gwobrau ddod at ei gilydd brynhawn dydd Mercher a dydd Iau.
  10. Blaswch fwydydd bendigedig o bob cwr o Gymru yn ein Neuadd Fwyd enwog – o gampweithiau sawrus i ddanteithion melys – fe fydd rhywbeth yn siŵr o dynnu dŵr o’ch dannedd!
  11. Gwyliwch adloniant y Prif Gylch o 8am hyd 8pm bob dydd – gan gynnwys JCB Dancing Diggers, arddangosfa gerddorol Heavy Horse, yr RAF Falcons, Band Catrawd y Cymry Brenhinol, a Meirion Owen a’i gŵn defaid. I nodi 120 mlynedd ers sefydlu’r Gymdeithas, a dathlu sir nawdd Ceredigion, fe fydd Arddangosfa Dathlu Amaethyddiaeth Cymru yn cynnwys pyped anferth o ffermwr o Geredigion gydag anifeiliaid, perfformwyr a chantorion. Arddangosfa unigryw, na ddylech ei cholli!

Gallwch brynu tocynnau ar-lein ymlaen llaw nawr ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru. Neidiwch y ciw ac ewch i www.rwas.wales / www.cafc.cymru i gael eich tocynnau nawr!