Cyfarfod Cyngor 2024 - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae blwyddyn Ceredigion fel Sir Nawdd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi dod i ben, gyda’u tymor yn gorffen yn swyddogol yng Nghyfarfod Cyngor Blynyddol y Gymdeithas, a gynhaliwyd ar faes sioe ar ddydd Sadwrn, 14eg Rhagfyr. Wrth edrych yn ôl, disgrifiodd Cadeirydd y Cyngor, Mrs Nicola Davies, y flwyddyn fel “blwyddyn o dwf a chyflawniadau rhyfeddol gan y Gymdeithas,” tra’n ddathlu ei 120 mlwyddiant trwy “anrhydeddu’r gorffennol a chroesawu’r dyfodol.”

O dan arweiniad ysbrydoledig y Llywydd, Denley Jenkins, dechreuodd Ceredigion eu cyfnod fel Sir Nawdd 2024 gyda brwdfrydedd a phenderfyniad. Roedd eu hymdrechion di-baid yn arwain at ymgyrch codi arian hynod lwyddiannus, gan godi swm anhygoel o £430,000.

Mynegodd Nicola Davies ei diolch twym-galon i dîm Ceredigion am eu gwaith caled, gan amlygu’r nifer o ddigwyddiadau codi arian a drefnwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Nododd sut y teithiodd y llywydd yn helaeth ar draws y sir i fynychu’r digwyddiadau hyn ac estynnodd ddiolch i Lysgennad Ceredigion, Esyllt Ellis Griffiths, am ei gwasanaeth ymroddedig yn ystod ei thymor yn y swydd.

Nodwyd ymdrechion y sir gan amrywiaeth o weithgareddau codi arian arloesol a chyffrous. Yn ei anerchiad, amlinellodd Cadeirydd Ceredigion, Rowland Davies, rai o’r digwyddiadau hyn, gan gynnwys Digwyddiad Glasdir2024, a gododd swm rhyfeddol o £119,030. Ymhlith mentrau cofiadwy eraill roedd gyrru beiciau cwad, rasio tractorau, cystadleuaeth “Sion a Sian”, sioeau ffasiwn, bingos, pantomeim ‘Sioe’r Cardis,’ a’r Cyflwyniad Nadolig bythgofiadwy, lle cafodd aelodau’r pwyllgor a swyddogion y Gymdeithas gyfle i gymryd y llwyfan. Unodd y gweithgareddau hyn y gymuned yn ogystal â chodi dros £430,000 i’r Gymdeithas fel elusen, ac ychwanegol o £10,000 i elusennau lleol.

Mae’r Gymdeithas wrth ei bodd gyda phenderfyniad Ceredigion i fuddsoddi eu cronfeydd i wella cyfleusterau ar Faes y Sioe.

Yn ei sylwadau clo i’r Cyngor, disgrifiodd Denley Jenkins cael ei ethol fel Llywydd gan Bwyllgor Ymgynghorol Sir Ceredigion fel “yr anrhydedd mwyaf yn fy mywyd.” Wrth fyfyrio ar ei dymor, mynegodd falchder o ddarparu llwyfan i’r genhedlaeth iau, gan ddatgan, “nhw yw dyfodol y diwydiant.” Estynnodd ddiolch o galon i holl bwyllgor Ceredigion, gyda diolch arbennig i’r Cadeirydd, Rowland Davies, yr Ysgrifennydd, Eirlys Lloyd, y Trysorydd, Delyth Lloyd-Jones, a’r Is-gadeirydd, Morris Davies, am eu holl waith caled dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Nododd hefyd pa mor ffodus oedd iddo gael Esyllt Ellis Griffiths wrth ei ochr fel Llysgennad ac y wnaeth “gyflawni ei rôl yn rhagorol.” Diolchodd Mr Jenkins hefyd i’w deulu am eu cefnogaeth barhaus drwy gydol ei gyfnod fel llywydd.

Wrth edrych ymlaen, mae’r baton bellach yn cael ei basio i Gaernarfon, a fydd yn cymryd yr awenau fel Sir Nawdd 2025. Maent eisoes wedi cychwyn ar eu gwaith gyda brwdfrydedd, ac mae’r Gymdeithas yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld beth y byddant yn ei gyflawni yn y flwyddyn i ddod.

Diolch Ceredigion, am flwyddyn eithriadol, ac y dymunwn y gorau i Gaernarfon wrth iddynt ddechrau ar eu taith!