Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Mae beudy o’r safon uchaf a chyfleusterau trin a storio slyri cysylltiedig wedi ennill Cystadleuaeth Gweithiau ac Adeiladau Fferm Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru 2019.
Roedd y gystadleuaeth, a noddwyd yn garedig gan Harrison Clark Rickerbys Solicitors ac a gyfyngwyd i ffermydd yn sir nawdd y gymdeithas ar gyfer eleni, Sir Benfro, yn chwilio am adeiladau sy’n rhan o’r drefn sydd ohoni ar y fferm ac yn addas ar gyfer y dyfodol.
“Arloesedd, gwelliant, buddsoddiad a seilwaith sy’n crynhoi’r pedair fferm a roed ar y rhestr fer ar gyfer cystadleuaeth eleni yn Sir Benfro orau ac ar bob un o’r pedair fferm roedd hi’n galonogol gweld y cenedlaethau iau yn cymryd rhan arweiniol wrth ddiogelu eu busnesau teuluol at y dyfodol.” meddai’r beirniaid, Colin V J Pugh FRAgS, Huw Prichard ac Aled a Helen Worthington (enillwyr 2018).
“Ar ôl diwrnod llawn a difyr yn ymweld â phedair uned fferm o’r safon uchaf daeth yr amser anodd i wneud penderfyniad, ond ar ôl peth trafodaeth fe wnaethom benderfynu dyfarnu’r wobr gyntaf i Marc Allison, Sychpant, Rhos-hyl, Aberteifi am ei feudy a chyfleusterau trin a storio slyri cysylltiedig a oedd yn eu tro yn arwain at berfformiad rhagorol y buchod.”
Mae Marc yn ffermwr ifanc blaengar iawn ac mae wedi gwneud defnydd da o sawl menter dechnegol ddiweddar wrth iddo ar yr un pryd gynyddu maint ei fuches o 130 o fuchod i 300. Mae’i sylw i fanylion cysur a maeth y buchod wedi codi cyfartaledd cynnyrch ei fuches i 10,500 kg ac ar yr un pryd wedi lleihau ei ddefnydd gwrthficrobaidd i lawr i 5mg PCU, sy’n llawer iawn is na chyfartaledd y Deyrnas Unedig o 26mg PCU.
Yn allweddol o ran cyflawni’r ffigurau hyn oedd adeiladu beudy newydd yn 2013/14 wedi’i ysbrydoli gan UDA sy’n cynnwys ciwbiglau ac ynddynt wely o dywod, alïau sefyllian llydan gyda system fflysio â dŵr, awyru wedi’i reoli a chladin sy’n adlewyrchu UV ac IR ar gyfer goleuni naturiol ond yn lleihau cynnydd gwres yn y beudy, sy’n ddiogel rhag adar.
Mae tywod yn gallu bod yn hunllef i systemau elifion a pheiriannau, ond roedd system Marc yn dibynnu ar wahanu’r tywod trwy ddisgyrchiant trwy gyfres o sianelau ble oedd y tywod yn aros a’r slyri’n arnofio ymlaen i’r lagŵn. Roedd y tywod yn cael ei gloddio mas wedyn gyda llwythwr a’i chwalu ar y tir, gan weithredu fel gwrtaith a chyflyrydd pridd. Roedd defnydd tywod ar gyfer ail-welyo’r ciwbiglau’n gweithio allan yn tua 60c y fuwch yr wythnos a gwnaed argraff ar y beirniaid gan lendid y buchod a oedd yn dal dan do ers iddynt ddod â lloi yr Hydref diwethaf, ac a oedd yn hollol lân.
Darparwyd ynni adnewyddadwy gan dyrbin gwynt a phaneli solar ar y to, ynghyd â llawer o welliannau technegol bychain eraill.
Bydd Marc yn derbyn Trywel Arian Ystâd Peniarth, a roddwyd gan y diweddar Gyrnol J F Williams-Wynne CBE DSO MA FRAgS a thystysgrif ar ddydd Mawrth 23 Gorffennaf yn Sioe Frenhinol Cymru.