Tad a mab o Sir Benfro yn ennill Tlws Tir Glas Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru 2022 - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae ffermwyr Cymru yn adnabyddus fel rhai o arbenigwyr y byd yn tyfu glaswellt fel cnwd ac mae llawer ohonyn nhw’n cystadlu yng nghystadleuaeth Rheoli Tir Glas Cymru Gyfan, sy’n cael ei chynnal yn flynyddol.

Trefnir y gystadleuaeth fawr ei bri yma gan Ffederasiwn Cymdeithasau Tir Glas Cymru (FWGS) ar y cyd â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a chaiff ei noddi gan HSBC.

Roedd y panel beirniadu’n cynnwys Mr Euryn Jones, Cyfarwyddwr Amaethyddol Rhanbarthol HSBC – Cymru a’r De-Orllewin, Dr Iwan Owen, IBERS/Prifysgol Aberystwyth (Beirniad Technegol) a Mr Marc Jones, Trefnant, Aberriw (Enillydd Cystadleuaeth Tir Glas 2021).

Enillwyr Cystadleuaeth Tir Glas 2022 yw Aled ac Owain Rees, Treclyn Isaf, Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro.

Yn ail

Richard Morris, Bowett Farm, Hundleton, Sir Benfro

Eraill yn y Rownd Derfynol

J O Jones Cyf, Nant y Frân, Cemaes, Amlwch

David, Rachel a James Lee, Winnington Green Farm, Treberfedd, Y Trallwng

AJ Baldwyn, Vale Farm, Lower Chapel, Aberhonddu

Roedd y gystadleuaeth yn dynn iawn fel arfer, ond cytunodd y beirniaid yn unfrydol ar gyfuniad buddugol teilwng iawn o dad a mab Aled ac Owain Rees, Treclyn Isaf, Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro (aelodau o Gymdeithas Tir Glas Aberteifi).

Dywedodd y beirniaid ei bod yn fraint ganddynt ymweld â phump o ffermwyr tir glas rhagorol yn ystod y beirniadu a’u bod yn ddiolchgar i’r terfynwyr am y teithiau rhagorol o gwmpas eu ffermydd a’u parodrwydd i ddarparu a rhannu gwybodaeth fanwl am eu systemau ffermio.

Roedd gwanwyn a dechrau haf sych yn gyffredinol yn dechrau creu prinder glaswellt ar ffermydd llawr gwlad yn arbennig ac roedd cylchdro pori’n cael ei ymestyn yn barod gyda rhywfaint o atchwanegu silwair yn digwydd neu ar fin digwydd. Roedd tir glas a chnydau âr fel ei gilydd yn edrych yn dda ar y ffermydd yr ymwelwyd â nhw, ac mae pawb i’w canmol yn fawr ar olwg y tir glas a’r da byw yn ogystal â’r ffermydd drwodd a thro.

Er mwyn cyrraedd y rhan yma o’r gystadleuaeth, gellir cymryd yn ganiataol yn awr fod yr holl ffermydd yn cyflawni agweddau sylfaenol rheoli tir glas yn eithriadol o dda. Thema gyffredin, yn ychwanegol at ragoriaeth dechnegol, casglu a defnyddio gwybodaeth yn ogystal â sylw i fanylion, oedd llawer iawn o sylw i ffrwythlondeb ac iechyd y pridd (yn arbennig o ystyried y cynnydd sylweddol ym mhrisiau gwrtaith – a dom neu dail) gyda defnydd rhagorol o dom/tail a slyri’r ffermydd, ymwybyddiaeth lawn o effaith dynodiadau Parthau Perygl Nitradau (NVZ) a dangos cymwysterau rheoli amgylcheddol cadarn.

Mae fferm Treclyn Isaf yn 384 hectar (950 erw) i gyd, gyda rhan ohoni ar briddoedd clai gweddol drwm, a’r cyfan ohoni’n cael ei rheoli’n organig (yn organig er 2001). Mae’r fferm wedi’i chyfansoddi o 16 hectar (40 erw) o gnydau âr a 368 hectar (910 erw) o dir glas. Mae’r cnydau’n cynnwys rhug porthiant, pys ynghyd â barlys a cheirch, meillion coch a rhuddgoch yn ogystal â betys porthiant, sy’n cael ei dyfu i’r fferm ar gontract.  Mae’r prif ddaliad llaeth yn 104 hectar (260 erw) ac yn cario 300 o fuchod llaeth Friesian/Holstein yn bennaf sy’n lloea fesul bloc (⅓ yn lloea yn y gwanwyn a ⅔ yn yr hydref). Ar gyfartaledd mae’r cynnyrch llaeth ar hyn o bryd yn 7,500 litr y fuwch oddi ar 1790kg o ddwysfwydydd a 100kg o rawn gyda 10,400 litr/hectar yn cael ei gynhyrchu oddi ar borthiant.

Gwnaed argraff arbennig ar y beirniaid gan y system rheoli tir ac anifeiliaid cwbl integredig ble oedd pob agwedd ar reoli’r tir a’r anifeiliaid yn cyd-fynd â’i gilydd yn drefnus. Nodwedd allweddol ar y system ffermio oedd cynnyrch ac ansawdd y glaswellt a dyfid, 10.3 tunnell drawiadol iawn DM/hectar/flwyddyn ar system organig.

Meddai’r beirniad Marc Jones (enillydd yn 2021 a aeth ymlaen i fod yn Ffermwr Tir Glas y Flwyddyn Cymdeithas Tir Glas Prydain):

“Roedd mabwysiadu technolegau newydd yn ymestyn o’r adeiladau a gwybodaeth am reoli’r buchod i faethiad cnydau a rheoli tir glas yn arbennig o drawiadol”. Roedd eu rheolaeth ar dir glas a’u defnydd effeithlon iawn o dom/dail, slyri a dŵr brwnt/budr ar gyfer pori, silwair a chnydio wedi gwneud lawn cymaint o argraff ar ei gyd-feirniad, Dr Iwan Owen.

“Gwelsom system oedd wedi’i chynllunio a’i rheoli’n dda iawn yn cynhyrchu llaeth yn effeithiol ar ymborth wedi’i seilio ar laswellt a phorthiant i safonau organig ardystiedig ac mae’r teulu Rees yn enillwyr teilwng iawn.”

Bydd Tlws Parhaol y Ffederasiwn a Chofrodd CAFC yn cael eu dyfarnu i Aled ac Owain yn y cyflwyniad gwobrau yn Sioe Frenhinol Cymru ar ddydd Mawrth 19eg Gorffennaf.