Mae deuddydd gwych, llawn hwyl wedi’i fwynhau gan filoedd yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad Frenhinol Cymru yn Llanelwedd y penwythnos hwn. Fel dathliad o fywyd gwledig, roedd tyddynwyr ac eraill sydd â chariad at gefn gwlad a gweithgareddau awyr agored wrth galon yr ŵyl.
Gyda chyfleoedd i gael budd o amrywiaeth fawr o weithdai, sgyrsiau ac arddangosiadau am ddim, roedd mynychwyr eiddgar yr ŵyl yn gallu dod i wybod am bob math o weithgareddau diddorol, yn amrywio o iechyd pridd, cadw moch, gwenyn brodorol, cneifio â gwellau i dyfu llysiau, trwy gydol y penwythnos.
Mae’r ŵyl bob amser yn llawn gweithgareddau addysgol hwyliog, a ’doedd eleni ddim yn eithriad. Pa un a oeddech yn rhoi cynnig ar grosio neu’n galw heibio i weld golygfeydd y grŵp ail-greu, roedd cyfoeth o wahanol grefftau gwledig ar ddangos, yn hen a newydd. Roedd yr ardal Bywyd Gwledig yn llawn gweithgaredd cyffrous, megis dringo muriau, beicio, sgiliau syrcas, pabell profiad gwenyn ac ystwythder cŵn (i enwi ond ychydig), heb anghofio’r tîm CowsOnTour ardderchog a ddaeth â’u sioe deithiol addysgol i ben ar faes y sioe.
Ar ôl treulio’r wythnos ddiwethaf yn ymweld â 15 o ysgolion ar draws Cymru, ac adrodd stori ffermio wrth dros 2000 o blant, treuliodd y tîm CowsOnTour gweithgar y penwythnos yn ymgysylltu ag ymwelwyr ac yn egluro mewn ffordd hwyliog, ymarferol o ble mae ein bwyd yn dod ynghyd â phwysigrwydd ffermio.
Eglura Kay Spencer, Cyfarwyddwr yr Ŵyl, “Mae gallu dysgu’n uniongyrchol am amaethyddiaeth a phwysigrwydd ffermio yn rhan wirioneddol bwysig o’n Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad”.
“Mae’r fenter CowsOnTour yn ffordd wirioneddol unigryw o ennyn mwy o ddiddordeb ymhlith plant a’r cyhoedd fel ei gilydd mewn gwybod o ble daw eu bwyd. Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi’r tîm ifanc dynamig hwn trwy gydol eu sioe deithiol ac yn ystod yr ŵyl. Mae’n wych fod ein hymwelwyr wedi gallu cyfranogi yn y profiad CowsOnTour llawn a dod i wybod mwy am ddiwydiant amaethyddol Cymru a’r stori ffermio gyfan.”
Gan ddenu cystadleuwyr a thyddynwyr o bell ac agos, roedd rhesaid ragorol o anifeiliaid ym mhob adran o’r cystadlaethau da byw. Roedd niferoedd enfawr o gynigion yn adran y geifr, yn arbennig, a chafwyd deuddydd gwych o gystadlaethau. Gyda thros 65 yn dangos yn y dosbarthiadau Geifr Boer, hwn oedd y cynulliad mwyaf o’r brîd hwn yn y Deyrnas Unedig, hyd yn hyn.
Yn newydd ar gyfer eleni, denodd y cystadlaethau trin gwlân dyrfa dda, yn gwylio’r cystadleuwyr yn brwydro yn erbyn ei gilydd yn y cystadlaethau i ddechreuwyr, y cystadlaethau canolradd a’r cystadlaethau agored. Anogwyd cystadleuwyr newydd i roi eu henwau ymlaen i ennill profiad o gystadlu cyn y tymor sioeau sydd ar ddod, a rhoddwyd arddangosiad a chyngor iddynt cyn i’r gystadleuaeth ddechrau.
“Rydym yn wirioneddol fodlon ar faint y gwnaeth pawb fwynhau digwyddiad cyntaf y Gymdeithas yn 2019.” meddai Kay wedyn. “Mae’r ŵyl hon bob amser yn ffordd wych o gicdanio tymor y sioeau ac rydym wrth ein bodd sut y mae’r ymwelwyr i gyd wedi mwynhau pob agwedd ar yr ŵyl, yn hen a newydd. Bu’n amlwg o’r awyrgylch gŵyl gyfeillgar ardderchog fod pawb wedi llwyr groesawu ethos y digwyddiad … dathliad o dyddynnu a bywyd gwledig.”
Ar ôl mwynhau’r holl gystadlaethau da byw, ymgasglodd y tyrfaoedd i wylio sioe Styntiau Jez Avery, tîm Arddangos Cŵn anhygoel H&M, y difyr Meirion Owen a’i Gwac Pac enwog, ynghyd â lliaws o adloniant arall, yn cynnwys sgrialu-yrru, neidio ceffylau, cystadlaethau tynnu rhaff a’r arddangosfa hen beiriannau drawiadol a’r paredau Land Rover yng nghylch arddangos yr ŵyl.
Aeth yr ymwelwyr mwy athletaidd i’r afael â bryniau canolbarth Cymru i dderbyn unwaith eto her Gŵyl Redeg Gwlad Frenhinol Cymru, yn cael ei rhedeg ar y cyd â Rhedeg dros Gymru. Cafodd cyfres o rasys gwlad heriol ond golygfaol, yn cychwyn ac yn gorffen ar faes y sioe ac yn cynnwys y dyffrynnoedd, caeau a lonydd coetir oddi amgylch eu cynnal ar ddydd Sadwrn yr ŵyl. Derbyniodd y cannoedd o orffenwyr, yn cynnwys enillwyr ras Pencampwriaeth Cymru, grys t rhedeg gwlad a medal goffaol o lechen Gymreig.
Ni fyddai ’run o ddigwyddiadau’r Gymdeithas yn gyflawn heb ei offrwm o fwyd a diod ac ni wnaeth gŵyl eleni siomi. Yn ogystal â’r neuadd fwyd, yn orlawn o gynhyrchwyr rhanbarthol i gyd yn arddangos y cynnyrch gorau un o Gymru a siroedd y gororau, roedd yr ardal bwyd stryd boblogaidd yn llawn dop trwy gydol y penwythnos gyda phobl yn ymlacio ac yn gwrando ar y gerddoriaeth fyw ac yn mwynhau llymaid hamddenol a rhyw damaid bach blasus.
Am y tro cyntaf, roedd ap y Gymdeithas yn cynnwys manylion ar gyfer yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad. Roedd ymwelwyr sy’n deall technoleg yn gallu lawrlwytho’r ap ar ei newydd wedd i gael cipolwg ymlaen llaw ar raglen yr ŵyl a manylion ynghylch y digwyddiad. Yn ogystal roedd yr ap newydd yn cynnwys helfa drysor ddethol a oedd yn caniatáu i’r defnyddwyr gasglu rhith-fathodynnau ar hyd a lled maes y sioe a’u cyfnewid am rodd rad ac am ddim a thocyn plentyn i 100fed Sioe Frenhinol Cymru eleni.
“Mae’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad wedi bod yn ffordd berffaith i ddechrau’r tymor sioeau i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.” meddai Steve Hughson, Prif Weithredwr CAFC. “Rydym yn ffodus o gael cefnogaeth ardderchog gan bawb – y stondinau masnach, noddwyr, cystadleuwyr, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr – ym mhob un o’n digwyddiadau, a’r nesaf un ohonynt yw 100fed Sioe Frenhinol Cymru sydd ar ddod ac sydd ond naw wythnos i ffwrdd, a gynhelir yma ar faes y sioe yn Llanelwedd ar 22 – 25 Gorffennaf.”
Rhestrir prif ganlyniadau’r penwythnos isod, bydd rhestr lawn o ganlyniadau’r cystadlaethau ar gael ar y wefan gyda hyn: www.cafc.cymru
Defaid
Pencampwr – J & P Owens, Llanllieni, Swydd Henffordd
Cil-Wobr – Gwawr Llewelyn Hughes, Pwllheli, Gwynedd
Defaid Grŵp o Dri
Pencampwr – Meistr Tom Ryan Evans, Four Crosses, Powys
Cil-Wobr – Mri A T & P R Jones, Rhaglan, Sir Fynwy
Moch
Pencampwr – Mrs Sharron Nicholas, Arberth, Sir Benfro
Cil-Wobr – Mr & Mrs J & C Taylor, Arberth, Sir Benfro
Geifr Angora
Pencampwr – C & D Tyler, Crymych, Sir Benfro
Cil-Wobr – C & D Tyler, Crymych, Sir Benfro
Cystadleuaeth Cnu Gafr Angora
Pencampwr – Debbie Francis, Llanidloes, Powys
Cil-Wobr – Jeannie Camm, Aberteifi, Ceredigion
Gafr Odro Diwrnod 1
Pencampwr – Mr Nick Parr, Surrey
Cil-Wobr – Mr & Mrs R J & J A Hicks, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion
Gafr Odro Diwrnod 2
Pencampwr – Mr & Mrs R J & J A Hicks, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion
Cil-Wobr – Mr Nick Parry, Surrey
Pencampwr Brîd Geifr Pigmi
Pencampwr – Mri Nigel & Tim Keen & Bee, Trefynwy, Sir Fynwy
Cil-Wobr – Mrs Jill Osborne, Casnewydd, Gwent
Pencampwr Anifail Anwes Geifr Pigmi
Pencampwr – Ms Tracey Cater, Swydd Warwick
Cil-Wobr – Mr & Mrs J & P Keates, Swydd Gaerwrangon
Gafr Boer
Pencampwr – Mr Ian Johnson, Swydd Derby
Cil-Wobr – Mr Ian Johnson, Swydd Derby
Gwartheg
Pencampwr – T & K Bodily, Y Fenni, Sir Fynwy
Cil-Wobr – D J Bevan, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin
Gwobr Stondin Fasnach Brîd Defaid Orau
Enillydd – Cymdeithas Defaid Jacob (Cymru)
Cil-Wobr – Cymdeithas Defaid Mynydd Cymreig Balwen
Stondin Cymdeithas Bridiau Gwartheg Orau
Enillydd – Cymdeithas Gwartheg Moelion Coch
Cil-Wobr – Gwartheg Bychain
Sioe Ranbarthol Canolbarth Cymru CHAPS, Prif Bencampwriaeth Mewn-Llaw
Pencampwr – Sian Elphick, Wrecsam gyda Anbesbury Liquorice Allsorts
Cil-Wobr – Sian Elphick, Wrecsam gyda Catdol Daisymay
Ceffylau Trwm/Gwedd/Tramor, Bridiau Byd neu Fridiau Prin
Pencampwr – Jayne Bowen, Swydd Amwythig gyda Lena
Cil-Wobr – Dim yn Gymwys
Adran Dechreuwyr
Pencampwr – Zara Owen, Powys gyda Dyffryn Gwy Welsh Charisma
Cil-Wobr – Nia Davies, Ceredigion gyda Witwith Sirocco, Marchoges – Sioned Davies
Rownd Gymhwysol Ardal Cymdeithas yr Hen Geffylau – Mewn-Llaw
Pencampwr – Kelsey Bishop, Sir Fynwy gyda Shemika Snip
Cil-Wobr – Lesley Morgan, Sir Fynwy gyda Crossfoot Pippin
Rownd Gymhwysol Ardal Cymdeithas yr Hen Geffylau – Gyda Marchog
Pencampwr – Abbie Dark, Abertawe gyda Wycliff
Cil-Wobr – Julia Hewerdine, Sir Gaerfyrddin gyda Glanranell Major Robert
Mynydd & Gweundir (heb gynnwys Bridiau Cymreig a Merlod Shetland)
Pencampwr – Jane M M Harries, Sir Gaerfyrddin gyda Newoak Wild Rose Hip
Cil-Wobr – Shelley Bradley-Higham, Sir Benfro gyda Buckland Rhianna, Marchoges – Frankie Higham
Ceffylau Hela yn Gweithio
Pencampwr – Susan Hughes-Jones, Ceredigion gyda Waxwing Macenroe, Marchoges – Chelsea Hughes-Jones
Cil-Wobr – Justine Thompson, Powys gyda Daisy Rock Kingdom
Cymdeithas Ceffylau Bychain Prydain
Pencampwr – Harriet Miller, Gwlad yr Haf gyda Model Farm UK It’s After Eight
Cil-Wobr – Charlotte Leonard, Rhondda Cynon Taf gyda Jasco Designs Contraband
Pencampwriaeth Cymdeithas Bridiau Asynnod
Pencampwr – Clare Humphries, Wiltshire gyda Lottie
Cil-Wobr – Clare Humphries, Wiltshire gyda Jake
Sioe Ranbarthol Canolbarth Cymru CHAPS, Prif Bencampwriaeth Gyda Marchog
Pencampwr – Sophia Chambers, Powys gyda Roquefort Papillon
Cil-Wobr – Alys Matravers, Gwlad yr Haf gyda Fancy Pants
Hacneiod a Cheffylau Marchogaeth
Pencampwr – Abbie Dark, Abertawe gyda Runnon Ruby Tuesday
Cil-Wobr – Heather Ellis Jones, Ceredigion gyda Llanarth Fair Play, Marchoges – Nuala Ellis Jones
Cyfrwy Untu
Pencampwr – Rachael Forkings, Powys gyda Gravitatour
Cil-Wobr – Debbie Walters, Caerffili gyda Criafol Misty Lady
Ceffylau Arab
Pencampwr – Anne Pritchard-Simmons, Caerdydd gyda Cupidhill Caprice, Marchoges – Jess Pritchard-Simmons
Cil-Wobr – Rhodri Jones, Sir Gaerfyrddin gyda H Pepegano
Tynfeirch Gwyddelig
Pencampwr – Leander Walton, Swydd Gaerwrangon gyda Cosette’s Prospect, Tywysydd – Tim Barnes
Cil-Wobr – Mrs L John, Powys gyda Griffin Bridge, Marchoges – Zara Owen