Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Mae’r ŵyl yn rhoi pwyslais ar ddathlu bywyd tyddynod a chefn gwlad, a bydd yn cynnig llu o bethau diddorol i’w gweld, bwydydd a dioddydd blasus, cerddoriaeth fyw, chwaraeon cefn gwlad, siopa, arddangosiadau, gweithgareddau addysgol difyr a llawer o wahanol fathau o dda byw, ceffylau ac anifeiliaid eraill yn cyfranogi mewn rhaglen ddeuddydd brysur o gystadlaethau ac arddangosiadau.