Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Penwythnos llawn cystadlaethau, atyniadau, arddangosfeydd, gweithgareddau, cerddoriaeth fyw a siopa... mae digonedd i'w weld a'i wneud yn yr Ŵyl Wanwyn. Gallwch weld y rhaglen o ddigwyddiadau dyddiol a manylion y prif atyniadau yma:
Lawrlwythwch ein ap i am ddim ac ewch ati i greu eich amserlen eich hun ar gyfer yr ŵyl i sicrhau na wnewch chi fethu unrhyw beth ar ôl cyrraedd yma.
Angen gwybod ble mae'r toiled agosaf, peiriant arian neu ganolfan cymorth cyntaf. Darganfyddwch am holl gyfleusterau'r safle.
Mae Llanelwedd, Llanfair ym Muallt a'r ardal gyfagos yn cynnig dewis gwych o fusnesau bwely a brecwast, gwestai, bythynnodd, tai llety a mannau gwersylla yn un o ardaloedd gwledig mwyaf godidog ac ysblennydd y DU.
Edrychwch ar y map o'r ŵyl cyn cyrraedd i'ch helpu i gynllunio i ble'r ydych chi'n dymuno mynd a beth yr hoffech chi ei weld
Peidiwch ag oedi! Osgowch y ciwiau wrth y giât a manteisiwch ar brisiau tocynnau a brynir ymlaen llaw, trwy brynu eich tocyn ar-lein nawr.