Enillydd Gwobr Goffa Syr Bryner Jones wedi’i gyhoeddi - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Fel gwobr bwysicaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, mae Gwobr Goffa Syr Bryner Jones yn cael ei  chwennych yn fawr bob blwyddyn.

Mae enillydd gwobr eleni wedi’i gadw ynghudd tan ddoe, (dydd Llun 22 Gorffennaf), diwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru, gan greu ymdeimlad o gyffro a disgwyliad sy’n briodol i wobr mor fawr ei bri.

Er 1957 mae’r wobr wedi’i rhoi bob blwyddyn i rywun o wahanol ran o’r diwydiant ffermio sydd wedi cyrraedd y lefel uchaf o lwyddiant yn y sector a ddewiswyd. Eleni roedd y beirniaid yn chwilio am unigolyn sydd wedi creu busnes amaethyddol dichonadwy trwy denantiaeth gychwynnol, tenantiaeth busnes fferm (FBT), cytundeb ffermio cyfran neu ecwiti ar y cyd.

Gyda phob un o’r pedwar terfynwr a roddwyd ar y rhestr fer, a’u teuluoedd, yn aros yn eiddgar i glywed pwy oedd wedi ennill, cyhoeddodd Cadeirydd Cyngor y gymdeithas, Mr David Lewis mai enillydd Gwobr Goffa Syr Bryner Jones 2019 yw Mr Richard Anthony FRAgS & Mrs Lynwen Anthony o Fferm Tythegston, Tythesgton, Pen-y-bont ar Ogwr.

Yn 1996 daeth Richard yn ymwybodol nad oedd y busnes teuluol yr oedd yn rhan ohono yn ddigon mawr i ddarparu bywoliaeth i bob un o’r partneriaid. Gan gymryd y cam cyntaf, aeth at berchnogion ystâd fawr gyfagos i rentu ond y tir glas ar fferm âr, ynghyd â rhywfaint o adeiladau a thŷ bychan ar Fferm Tythegston. Fel hyn yn 1997 y dechreuodd Richard a’i wraig Lynwen eu busnes fferm eu hunain ar denantiaeth busnes fferm (FBT) ddechreuol o dair blynedd ar 110 erw.

Y cyfalaf yr oeddynt yn dod ag ef i mewn oedd 250 o ddefaid (eu cyfran hwy o’r busnes fferm deuluol gwreiddiol) a 12 mis yn ddiweddarach daeth 100 erw arall o dir glas ar gael trwy drefniant tebyg. Roeddynt yn gweithredu menter ddefaid a busnes contractio amaethyddol, ac yn cynhyrchu gwywair. Roeddynt yn ffermio seibiau glaswellt ar gylchdro âr pobl eraill, gan fabwysiadu cylchdro rhygwellt Eidalaidd/gwenith gaeaf blwyddyn er mwyn cynyddu cynnwys deunydd organig y pridd. Erbyn yr adeg honno roedd y mentrau defaid i fyny i 600 o famogiaid ac roeddynt yn gwerthu 100,000 o fyrnau o silwair, gwywair a gwellt.

Cafodd gallu hwsmonaeth a gallu technegol Richard eu cydnabod gan eu landlordiaid ac yn 2002 fe wnaethant lunio cytundeb ffermio contract ar 570 erw o dir âr yn Tythegston. Yn yr un flwyddyn cododd cyfle i gymryd ystâd arall o 775 erw o dir âr ar denantiaeth busnes fferm 10 mlynedd. Ar ddiwedd 2002 roedd y busnes yn cynnwys 1600 erw o dir. Roedd y twf hwn yn gam arwyddocaol a heriol iawn yn eu datblygiad, gan felly osod eu nod yn yr ychydig flynyddoedd nesaf i atgyfnerthu’r twf hwn yn system ffermio a busnes gynaliadwy. Yn 2010 sicrhawyd 350 erw ychwanegol ac yn 2013 cymerwyd 650 erw arall, y naill a’r llall ar denantiaethau busnes fferm. Mae hyn, ynghyd â blociau pellach a gymerwyd yn ddiweddarach, wedi arwain at fusnes sy’n ffermio 3000 erw ar hyn o bryd.

Gwnaeth hwsmonaeth âr ac ymagwedd dechnegol Richard argraff fawr ar y beirniaid. Mae wedi ymrwymo i reoli pridd da, gan fabwysiadu cylchdro cnydau chwe blynedd arloesol sy’n cynnwys rêp had olew, gwenith gaeaf, rhyg Westerwolds ac indrawn. Fe wnaeth y mamogiaid a hyd at 3000 o ŵyn cadw ychwanegu at ffrwythlondeb a chynnydd yn neunydd organig y pridd. Mae hyn wedi arwain at well cynhwysedd dal lleithder a strwythur pridd gan wneud y pridd yn fwy tramwyadwy o’r herwydd gan alluogi llai o weithgareddau trin y tir, a llai o lafur, tanwydd a chostau pŵer. Roedd angen llawer o waith unioni ar y priddoedd ac ar yr ystadau fferm cyffredinol.

Mae hi’n bwysig pwysleisio bod Richard a Lynwen Anthony yn ffermwyr da iawn ac maent wedi’u cydnabod felly gan eu cymheiriaid. Yn amlwg, mae tirfeddianwyr lleol wedi sylwi ar eu gallu i wella’r tir, i fabwysiadu cyfleoedd amaeth-amgylchedd gwell ac adnewyddu’r strwythurau ffisegol ar y tir dan denantiaeth. Chwiliodd landlordiaid amdanynt gan ddymuno manteisio ar eu harbenigedd a’u galluoedd ffermio. Yn werth sylwi arno fu parodrwydd y landlordiaid i ymestyn telerau’r tenantiaethau busnes fferm – ffurf ar gydnabyddiaeth a enillwyd yn amlwg.

Mae’r fferm yn cynnal lleiniau treialu amrywogaethau gwenith a barlys yr NIAB a lleiniau rêp had olew a gwenith i’r cwmni masnachol Agrii. Mae hyn yn golygu bod Richard yn gallu sylwi’n uniongyrchol ar yr amrywogaethau newydd addawol a’r cynhyrchion diogelu planhigion diweddaraf sydd ar waith. Maent yn agor y ffermydd hefyd i gyd-ffermwyr âr wrth gynnal diwrnodau agored i ymweld â’r lleiniau treialu.

Mae Richard a Lynwen yn ofalus iawn yn eu dewis o beiriannau fferm ac maent yn mabwysiadu’n ewyllysgar y technolegau diweddaraf o ran systemau traffig rheoledig a mapio cynnyrch a maethynnau’r fferm.

Mae datblygiadau diweddar yn cynnwys cytundeb i gyflenwi gwaith treulio anaerobig cyfagos â silwair indrawn. Mae hyn yn cynnwys derbyn hyd at 90,000 metr ciwbig o weddillion treuliad anaerobig i’w chwalu fel maethyn ar y tir âr. Mae hyn wedi creu sialensiau o ran storio a hefyd o ran taenu’r gweddillion treuliad anaerobig hylifol. Fe wnaeth y cynnydd hyd yn hyn mewn ymateb i’r sialensiau hyn argraff ar y beirniaid.

Maent hefyd wedi gosod uned biomas (1 megawat) a boeler gwres a phŵer cyfunedig (55 cilowat), y mae’i wres yn sychu’r ydau, sglodion coed a logiau ac mae’r pŵer yn cynhyrchu trydan.

Roedd pryniadau tir ar y gweill pan oedd y beirniaid yn ymweld. Dychwelodd eu mab David i ymuno â busnes y fferm ar ôl graddio ac mae’r teulu’n edrych yn ffurfiol ar gynllunio ar gyfer olyniaeth at y dyfodol. Mae Richard wedi arwain datblygiad busnes ffermio âr a phorthiant amrywiol ac integredig effeithlon a phroffidiol.

Fe wnaeth Syr Bryner Jones helpu i lunio cyfeiriad Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru am 50 mlynedd. Roedd yn bennaeth yr Adran Amaethyddiaeth a Choleg Aberystwyth yn 1907 ac aeth yn ei flaen i fod yn un o brif ffigurau addysg amaethyddol yng Nghymru. Roedd yn rhywun o ddylanwad yn Amaethyddiaeth Cymru, gan ddod yn Gomisiynydd ac yn Gadeirydd Cyngor Amaethyddol Cymru ac wedi hynny daeth yn Ysgrifennydd Cymreig y Weinyddiaeth Amaeth.

Roedd Syr Bryner Jones, a gafodd ei urddo’n Farchog yn 1947, yn Gyfarwyddwr Anrhydeddus Sioe Frenhinol Cymru o 1908 – 10 ac roedd yn Gadeirydd Cyngor y gymdeithas o 1944 – 53. Daeth yn Llywydd y gymdeithas yn 1954, yn 50fed flwyddyn y gymdeithas ac yn drasig bu farw ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno.

Cyflwynwyd gwobr Syr Bryner Jones am y tro cyntaf yn 1957 gan ei ferch ac mae wedi’i chyflwyno bob blwyddyn i rywun o wahanol gangen o’r diwydiant ffermio sydd wedi cyrraedd y lefel uchaf o lwyddiant yn y sector a ddewiswyd.