Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad

Dathliad deuddydd o fywyd tyddynod a chefn gwlad, â rhaglen brysur o adloniant, gweithgareddau addysgol, gweithdai am ddim, da byw, neuadd fwyd, llecyn bwyd stryd ac adloniant, cannoedd o stondinau masnach, a pherfformiadau cyffrous yn y prif gylch.

Mae’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad yn cynnig amrywiaeth enfawr o gyfleoedd masnachol i gwmnïau sy’n cynnig nwyddau fel cynnyrch amaethyddol, garddwriaeth, cyflenwadau garddio, iechyd a harddwch, cyflenwadau anifeiliaid anwes, pob math o nwyddau cartref a llawer mwy.

Cynhelir Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad 2024 ar ddydd Sadwrn 18 a dydd Sul 1 Mai.

Mae ceisiadau ar gyfer Stondinau Masnach Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad 2024 bellach ar agor. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 1 Mawrth 2024.

Gweler y dolenni isod am arweiniad i arddangoswyr.

Cyn i Chi Ymgeisio

Rheolau a Rheoliadau

Rhestr pris

Map Stondin Masnach

Disgrifiad Ardal

Bwyd a Diod

Mae’r Ardal Bwyd a Diod yn yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad yn cynnwys dwy ardal wahanol ac ar wahân ar gyfer siopau manwerthu a mannau arlwyo. Bydd siopau manwerthu yn y Neuadd Fwyd a mannau arlwyo yn yr Pentref Bwyd Cymreig.

Os hoffech gael stondin yn y neuadd fwyd cysylltwch â Laura Alexander e-bost foodhall@rwas.co.uk

Food Hall Application Form

Food Hall Guidance Notes

Welsh Food Village Application Form

Welsh Food Village Guidance Notes

Angen rhagor o wybodaeth am arddangos yn yr ŵyl?
Lucy Walton Powell
Ymgynghorydd Stondinau Masnach
Ffôn
01982 554408
A hoffech chi arddangos yn y neuadd fwyd neu'r llecyn bwyd stryd?
Laura Alexander
Ymgynghorydd y Neuadd Fwyd
Ffôn
07773 384 569