Medalau Hir-Wasanaeth CAFC i weithwyr amaethyddol - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Bydd wyth o weithwyr amaethyddol o bob cwr o Gymru, sydd gyda’i gilydd wedi rhoi 350 mlynedd o wasanaeth, yn derbyn Medal Hir-Wasanaeth Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru mewn cydnabyddiaeth o’u hymroddiad i’r diwydiant amaethyddol yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.

Y rhai fydd yn derbyn medalau eleni yw:

  • John Elwyn Evans, 60 oed o Sarn Bach, Pwllheli, sydd wedi gweithio i J M & J Owen, Towyn, Llanengan am 44 mlynedd.
  • Terry Jones Hughes, 68 oed o Edern, Pwllheli, sydd wedi gweithio i G, J & H J Robyns, Ty’n Llan, Lôn Llan, Edern, Pwllheli am 51 mlynedd.
  • Phillip Andrew Mitchell, 55 oed o Landaf, sydd wedi gweithio i V J Thomas a’i Fab, Fferm Pancross, Llancarfan, Bro Morgannwg am 40 mlynedd.
  • Hughie Richard Roberts, 59 oed o Foelfre, Ynys Môn, sydd wedi gweithio yn y diwydiant am 42 mlynedd, yn fwyaf diweddar i B T a N A Bown, Trewyn, Maenaddwyn, Llannerch-y-medd am 12 mlynedd
  • Eirios Thomas, 62 oed o Lanfynydd, sydd wedi gweithio i Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr am 41 mlynedd.
  • Mervyn Downing Venn, 66 oed o Landrindod, sydd wedi gweithio i deulu Gibson Watt, Ystâd Doldowlod, Llandrindod am 45 mlynedd.
  • William G Williams 73 oed o Rhiw, Pwllheli, sydd wedi gweithio yn y diwydiant am 47 mlynedd, yn fwyaf diweddar i J M & J Owen, Towyn, Llanengan am 30 mlynedd.
  • Gareth Williams 57 oed o Lyndyfrdwy, Sir Ddinbych, sydd wedi gweithio i’r Arglwydd Newborough, Ystâd Rhug, Corwen am 40 mlynedd.