Mae ychydig ddyddiau penigamp, hwyliog wedi’u mwynhau gan filoedd yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, a gynhaliwyd ar faes y sioe yn Llanelwedd, Llanfair ym Muallt ddydd Llun 27ain a dydd Mawrth 28ain Tachwedd.
Wedi’i chynnal gyntaf yn 1990 ac ond yn ddigwyddiad undydd cymharol fach yn wreiddiol, mae’r Ffair Aeaf wedi dod yn un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd yng nghalendr amaethyddol Prydain. Mae’r digwyddiad blynyddol yn dal i gynnal ei le fel un o’r sioeau stoc ddethol gorau yn y DU, gan ddenu dros 600 o arddangoswyr o Gymru, Lloegr a’r Alban eleni.
Agorwyd Ffair Aeaf 2023 yn swyddogol gan Ddirprwy Lywydd NFU Cymru, Abi Reader fore dydd Llun ar ran sir nawdd Morgannwg. Mae Abi’n ffermwr trydedd genhedlaeth ac yn gyd-sylfaenydd y prosiect addysgol Cows on Tour.
Yn ystod ei hanerchiad agoriadol, cyfeiriodd Abi at ddwy neges allweddol. Y gyntaf yw sut mae’r Ffair Aeaf yn chwarae rhan bwysig wrth arddangos yr holl waith caled y mae ffermwyr yn ei wneud trwy gydol y flwyddyn.
“Mae’r sector amaethyddol yn treulio’r flwyddyn gyfan yn paratoi at y Gaeaf.” meddai Abi. “Rydym yn treulio’r gwanwyn, yr haf a’r hydref yn ŵyna, lloia, cynllunio, cynaeafu ein cnydau, gwneud yn siŵr fod popeth yn gweithio hyd eithaf ein rheolaeth. A phan ddeuwn ni yma heddiw, dyma’r arddangosfa o ffrwythau ein llafur,” meddai Abi.
“Yr hyn sydd gennym yma yn y Ffair Aeaf yw’r hyn y byddwn i’n ei galw’n sioe stoc ddethol orau Ewrop, yn dathlu cig eidion Cymreig, cig oen Cymreig, porc Cymreig, popeth sy’n cwmpasu calon Cymru wledig.”
Cyfleodd Abi rôl hanfodol ffermwyr y DU wrth fwydo’r wlad. “Fel cynhyrchwyr bwyd a’r rhai sy’n gofalu am y dirwedd, mae gennym yr anrhydedd enfawr o gyffwrdd mwy o fywydau nag unrhyw alwedigaeth arall ar y ddaear hon. Rydym gyda phobl yn yr amseroedd gorau a’r gwaethaf. Dichon nad ydynt hyd yn oed yn gwybod ein bod yno, ond mae ein cynnyrch rywle yn y cefndir.
“Mae cymdeithas yn dibynnu arnom i barhau ein hymrwymiad i gynhyrchu’r bwyd Cymreig gorau, mwyaf diogel a maethlon, a fforddiadwy y mae’n bosibl inni ei wneud.”
Thema allweddol arall yn Ffair Aeaf eleni oedd addysg, gyda’r rhaglen addysgol newydd, Ein Tir / Our Land, oedd yn canolbwyntio ar y pridd ac egwyddorion ffermio iach, yn cael ei lansio.
“Mae gennym 300 o blant ysgol gynradd a 350 o blant ysgol uwchradd yma’n mynychu’r rhaglen seminarau dros y ddau ddiwrnod nesaf i gyfleu pwy ydym a beth ydym yn ei wneud. Gallai’r rhain fod yn ffermwyr y dyfodol ac yn arweinwyr sector y diwydiant yn y dyfodol,” meddai Abi.
“Mae’r Ffair Aeaf yn camu i fyny i’r rôl y bydd yn ei chwarae wrth wneud yn siŵr ein bod yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.”
Am y tro cyntaf, roedd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn cynnig mynediad am ddim i bob trip ysgol oedd wedi’i drefnu i blant dan 16 oed. Ar ôl derbyn ymateb anhygoel i hyn, roedd yn hyfrydwch gan y Gymdeithas groesawu dros 2,667 o blant o 53 o ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae ysgolion o ledled Cymru wedi bod yn bresennol ar draws y ddau ddiwrnod, o Ynys Môn i Forgannwg. Yn ogystal, roedd dros 600 o fyfyrwyr coleg yn bresennol, gan ddod â’r cyfanswm i dros 3,267 o bobl ifanc yn ymweld â’r Ffair Aeaf i gael gwybod am y stori ffermio gadarnhaol.
Mae’r Ffair ddeuddydd yn llwyfan pwysig i drafod polisi a chael trafodaeth, gyda Gweinidogion o Lywodraeth Cymru ac o Lywodraeth y DU yn bresennol, ynghyd â chynrychiolwyr o Lysgenadaethau’r Almaen ac Iwerddon, gan roi’r digwyddiad ar y map rhyngwladol. Mae’r Gymdeithas yn falch fod y Ffair Aeaf wedi gallu chwarae rhan unwaith eto wrth hwyluso trafodaethau rhwng unigolion a sefydliadau tra dylanwadol, sy’n effeithio ar ddyfodol amaethyddiaeth Cymru a’r economi wledig.
Roedd un o westeion rheolaidd y Ffair Aeaf, y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths yn falch o fod yn Llanelwedd a phwysleisiodd y rhan bwysig y mae ffermwyr yn ei chwarae wrth fynd i’r afael â’r bygythiadau amgylcheddol sy’n wynebu’r sector amaethyddol.
“Mae’r Ffair Aeaf yn ddigwyddiad pwysig i arddangos goreuon Cymru wledig ac i drafod y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu’r sector amaethyddiaeth, yn arbennig wrth ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur,” meddai’r Gweinidog.
Bu’r gefnogaeth i’r Ffair gan y diwydiant, yn arbennig yr arddangoswyr da byw, yn rhagorol. Gyda chynigion cryf o bob cwr o’r DU ym mhob adran, a mwy nag erioed o gynigion yn adran y defaid, roedd y da byw, fel bob amser, yn meddiannu canol y llwyfan yn y digwyddiad deuddydd pwysig.
Dyfarnwyd un o’r teitlau mwyaf clodfawr sydd i’w hennill yn y Ffair bob blwyddyn, Prif Bencampwr y Gwartheg, i ‘Phoenix’, Heffer o darw Limousin yn pwyso 690kg, wedi’i magu ac yn cael ei harddangos gan Stewart a Lynsey Bett o Swydd Stirling. Newydd iddi ennill yr is-bencampwriaeth yn LiveScot dim ond dyddiau’n ôl, aeth Phoenix un yn well a chipio prif bencampwriaeth gyffredinol y gwartheg.
’Dyw Phoenix ddim yn ddieithr i gylchoedd beirniadu’r Ffair Aeaf, a hithau wedi cipio teitl Is-Bencampwr y Bîff Ifanc y llynedd. Yn yr arwerthiant ar ôl y sioe, gwerthwyd yr heffer fuddugol yn ddiweddarach gan yr arwerthwyr swyddogol, McCartneys am £7,000 i Mark Webster, Y Rhyl.
Aeth teitl Prif Bencampwr y Defaid i bâr o wyn Texel Glas pedigri wedi’u magu gartref gan Chris Davies, Powys. Mae enillwyr y wobr, a oedd wedi dod i’r brig yn gynharach yn yr adran gyfandirol, allan o famogiaid a fagwyd gartref yn niadell Beaconsview 35 mamog Mr Davies.
H.D. ac E.M. Roberts, Gwynedd oedd yn tra-arglwyddiaethu ar y gwobrau yn sied y moch, gyda’u pedwar mochyn Cymreig yn mynd â’r bencampwriaeth a’r is-bencampwriaeth ar ôl beirniadu’r senglau a’r parau.
Mae’r teulu wedi ennill llawer o wobrau pencampwr gyda’u moch Cymreig, sydd wedi’u magu gartref, yn y Ffair Aeaf. Aeth y pâr pencampwyr ymlaen i werthu am y swm trawiadol o £960 y mochyn i Tom Hughes Butchers, Ynys Môn.
Roedd niferoedd y ceffylau’n cystadlu ar eu huchaf er 2015, a Phrif Bencampwr y Ceffylau oedd ‘Cilmery Casemiro’, Ebol o Ferlen Fynydd Gymreig yn cael ei arddangos gan Ryan Wilson, Swydd Henffordd.
Mewn man arall ar faes y sioe, enillydd Gwobr y Stondin Fasnach Gyffredinol Orau oedd Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW) a leolid yn Neuadd De Morgannwg, am eu harddangosiad o arferion amaethyddol addysgiadol ac ecogyfeillgar.
Eleni roedd dros 350 o stondinau masnach, a thros 60 yn rhagor o stondinau yn y Neuadd Fwyd ble oedd gwesteion yn gallu blasu’r cynnyrch ardderchog o bob cwr o Gymru. Aeth y Stondin Fasnach wedi’i Gwisgo Orau yn y Neuadd Fwyd i fusnes mêl lleol, Bee Welsh Honey, am arddangos eu cynnyrch o’r safon uchaf.
Gwelodd y noson siopa hwyrnos filoedd o ymwelwyr yn eu tretio eu hunain eto i rywfaint o siopa Nadolig ac yn mwynhau’r awyrgylch Nadoligaidd a’r arddangosfa dân gwyllt drawiadol.
Gellir priodoli llwyddiant y Ffair nid yn unig i’r pwyllgor gweithgar a phenderfynol, ond hefyd i ffyddlondeb yr arddangoswyr, masnachwyr, gwirfoddolwyr, a stiwardiaid. Ni fyddai ein digwyddiadau’n cael eu cynnal heb gefnogaeth ein noddwyr, a diolchwn i’n prif noddwyr, Llywodraeth Cymru, HSBC, Dunbia ac Event Operations Specialists, ynghyd â’r holl noddwyr eraill am helpu i gefnogi’r digwyddiad hwn.
“Bu hi’n Ffair ardderchog eleni,” meddai Cyfarwyddwr y Ffair Aeaf, William Hanks. “Rydym wedi cael niferoedd ymwelwyr eithriadol. Roedd hi’n wych gweld maes y sioe’n byrlymu gyda siopwyr Nadolig a dathliadau’r Nadolig.”
“Bu’n uchelgais gennyf ers tro byd i gynnig elfen addysgol yn y Ffair Aeaf, a gan adeiladu ar yr adborth cadarnhaol o’r llynedd, bu inni allu lansio rhaglen addysgol lwyddiannus iawn. Mae rhannu’r wybodaeth ynghylch amaethyddiaeth, garddwriaeth a sut y caiff bwyd ei gynhyrchu yn hollbwysig ac yn fenter y mae’r Gymdeithas yn awyddus i ddod yn fwyfwy cyfrannog ynddi.”
“Rydym yn ddiolchgar am y peth wmbredd o waith caled ac ymroddiad gan y gwirfoddolwyr, stiwardiaid, masnachwyr a noddwyr lawer ac, wrth gwrs, yr ymwelwyr sy’n gwneud y digwyddiad hwn yn bosibl. Gobeithio bod ein holl westeion wedi mwynhau’r Ffair Aeaf ac edrychwn ymlaen at eu croesawu hwy’n ôl i’n digwyddiadau y flwyddyn nesaf.”
Crynodeb o’r canlyniadau:
Prif Bencampwr y Gwartheg
Phoenix, Heffer o darw Limousin yn pwyso 690kg, wedi’i magu a’i harddangos gan Stewart a Lynsey Bett, Swydd Stirling. Gwerthwyd am £7000 i Mark Webster, Y Rhyl.
Prif Bencampwr y Bîff Ifanc
One Off, Heffer Gyfandirol yn pwyso 344kg, wedi’i magu a’i harddangos gan Berwyn ac Elin Hughes, Ceredigion. Gwerthwyd am £4,500 i Mr D Leedham.
Prif Bencampwr y Moch Unigol
Mochyn Cymreig yn pwyso 500kg, yn cael ei arddangos gan H D ac EM Roberts, Gwynedd. Gwerthwyd am £960 i Tom Hughes Butchers, Ynys Môn
Prif Bencampwr y Pâr o Foch
Pâr o foch Cymreig, yn cael eu harddangos gan H D ac EM Roberts, Gwynedd. Gwerthwyd am £960/pen i Tom Hughes Butchers, Ynys Môn.
Prif Bencampwr y Carcasau Sengl
Beltex, yn cael ei arddangos gan Rebecca Armstrong. Gwerthwyd am £650 i Le Monde Restaurant
Prif Bencampwr y Pâr Carcasau
Pâr o ŵyn Beltex x Dutch Texel, yn cael eu harddangos gan Michael Carter, Caerloyw. Gwerthwyd am £400/un i Le Monde Restaurant
Pencampwr Carcasau a fagwyd yng Nghymru
Beltex, yn cael ei arddangos gan Bryn Davies, Sir Gaerfyrddin. Gwerthwyd am £600 i Bwydydd Castell Howell
Prif Bencampwr y Defaid
Pâr o ŵyn Texel Glas, yn cael eu harddangos gan Chris Davies. Gwerthwyd am £360/pen i Tom Hughes Butchers, Ynys Môn.
Pencampwr Hamper Cig Cyffredinol
‘Hamper Nadolig’, arddangoswyd gan Golden Valley Meat & Game, Sir Fynwy. Gwerthwyd am £150.
Dofednod wedi’u Trin
Gŵydd, arddangoswyd gan Tom Rowlands, Powys. Gwerthwyd am £8.75 y pwys.
Bacwn, Byrgyr a Selsig
Selsig â blas, arddangoswyd gan Daniel Tucker, Abertawe.
Asen Bîff
O Fustach Du Cymreig, arddangoswyd gan Robin a Jo Ransome, Powys. Gwerthwyd am £230.
Pencampwr Ceffylau Cymreig
Brampton Ray-Royale, Ebol o Ferlen Gymreig (Teip Cob), yn cael ei arddangos gan Nicole Wayman, De Swydd Efrog.
Prif Bencampwr y Ceffylau
Cilmery Casemiro, Ebol o Ferlen Fynydd Gymreig, yn cael ei arddangos gan Ryan Wilson, Swydd Henffordd.