Mae dod â stondin masnach i un o’n digwyddiadau yn ffordd wych o hyrwyddo eich busnes.
Mae’r Gymdeithas yn cynnal tri digwyddiad mawr, felly mae gennym ni lu o gyfleoedd i chi gwrdd â’ch cynulleidfa wyneb yn wyneb a’i thargedu, gwella ymwybyddiaeth o’ch brand a gwerthu.
Gall arddangoswyr stondinau masnach ddisgwyl cael llawer iawn o sylw cyn, yn ystod ac wedi’r digwyddiadau… fe wnaiff hyn oll eich helpu i gyrraedd at nifer fawr o ddarpar gwsmeriaid.
Mae’r tri digwyddiad yn denu bron iawn 300,000 o bobl, ac ar hyn o bryd, bydd ychydig yn llai na 3,000 o stondinau masnach yn mwynhau buddion arddangos ar faes Sioe Frenhinol Cymru. Bydd cwmnïau yn gwerthu amrywiaeth enfawr o nwyddau, yn cynnwys gwerthwyr peiriannau, iechyd a harddwch, nwyddau garddio, crefftau, dillad a bwyd a diod, a cheir digonedd o gyfleoedd i unrhyw fusnes fanteisio o arddangos yn ein digwyddiadau.
P’un ai a ydych chi’n fusnes annibynnol bychan yn gwerthu nwyddau o waith llaw, neu’n sefydliad amlwladol mawr, mae lle addas ar gael ar gyfer eich stondinau masnach chi.
Dathliad deuddydd o fywyd tyddynod a chefn gwlad, â rhaglen brysur o adloniant, gweithgareddau addysgol, gweithdai am ddim, dros 1,400 o gynigion da byw, neuadd fwyd, llecyn bwyd stryd ac adloniant, cannoedd o stondinau masnach, a pherfformiadau cyffrous yn y prif gylch.
Y sioe yw uchafbwynt calendr digwyddiadau amaethyddol Prydain, ac mae'n cynnig rhywbeth i ddiddori pawb trwy gyfrwng ei hamrywiaeth helaeth o weithagreddau yn cynnwys pedwar diwrnod o gystadlaethau cyffrous, da byw, siopa, coedwigaeth, garddwriaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, bwyd a diod, a rhaglen adloniant gyffrous sy'n para 12 awr bob dydd.
Un o sioeau da byw dethol gorau Ewrop sy'n denu arddangoswyr da byw o bob cwr o'r Deyrnas Unedig, yn cystadlu am y prif wobrau yn ystod y digwyddiad dau ddiwrnod. Bydd cynhyrchwyr bwyd gorau Cymru yn arddangos eu nwyddau a gall siopwyr Nadolig fwynhau awyrgylch y Nadolig wrth bori trwy'r cannoedd o stondinau masnach.
Beth am gyfuno safle eich stondin masnach â phecyn nawdd, ac elwa o’r holl fuddion sydd ar gael i chi?