Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-22 May 2022.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
18-21 Gorffennaf 2022.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
28-29 Tachwedd 2022.
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Fel un o sioeau stoc dethol gorau Ewrop, bydd Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn denu’r torfeydd o bell ac agos i fwynhau dau ddiwrnod yn llawn cystadlaethau, dathliadau a siopa Nadolig.
Bydd y ffair cael ei chynnal ar 29 – 30 o Dachwedd 2021. Unwaith yn rhagor, bydd maes y sioe yn Llanelwedd yn llawn ymwelwyr, cystadlaethau a da byw arobryn yn ystod y digwyddiad deuddydd hwn.
Byddwch yn ymwybodol y bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o Basbort COVID-19 neu brawf llif ochrol negyddol yn y Ffair Aeaf 2021. Mae mwy o wybodaeth ar gael YMA.
Dau ddiwrnod yn llawn cystadlaethau, atyniadau, arddangosiadau, gweithgareddau, cerddoriaeth fyw a siopa... mae digonedd i'w weld a'i wneud yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru. Gallwch weld y rhaglen o ddigwyddiadau dyddiol a chael rhagor o fanylion yma:
Osgowch y ciwiau wrth y giât trwy brynu eich tocyn ar-lein nawr.
Rydym ni'n cynnig LLU o lefydd parcio am ddim ar faes y sioe i'r sawl sy'n cyrraedd mewn car, a gallwch chi ddefnyddio cludiant cyhoeddus i ddod yma hefyd.
Edrychwch ar ein map o'r Ffair Aeaf i weld ble mae popeth ac i wybod sut i fynd o amgylch maes y sioe cyn cyrraedd yma.