Adroddiad Ffair Aeaf 2024 - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Unwaith eto, mae’r Ffair Aeaf wedi profi’n llwyddiant ysgubol, gan ddenu miloedd o ymwelwyr i Faes y Sioe yn Llanelwedd am ddau ddiwrnod o ddathliadau tymhorol, cystadlaethau a dangosiadau diwydiant.
Roedd ail ddiwrnod yr Ŵyl yn gyfuniad bywiog o weithgarwch, gyda chynhyrchwyr, masnachwyr ac ymwelwyr yn ymgolli mewn rhaglen eang o gystadlaethau, arddangosiadau, ocsiynau a siopa. Ffair eleni oedd yr un fwyaf hyd yma, gyda nifer eang o stondinau bwyd a manwerthu amrywiol.
Addysg ac Ymgysylltu
Bu dros 2,000 o blant ysgol a myfyrwyr yn bresennol dros y ddau ddiwrnod, gan fanteisio ar fynediad am ddim ar gyfer teithiau ysgol cynradd ac uwchradd trefnedig, yn ogystal â chyfraddau gostyngol ar gyfer grwpiau addysg bellach ac uwch. Roedd thema ysgolion cynradd eleni, “Ein Dŵr, yn cynnig profiad addysgol ymgysylltiol. Cafodd disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 eu swyno gan weithdai dan arweiniad Dŵr Cymru, y Fyddin, yr addysgwr Phillip Cressey, a’r Prosiect Gwyddoniaeth Fawr, tra bod adnoddau dysgu ar rôl dŵr mewn amaethyddiaeth ar gael drwy Twinkl a gwefan y Gymdeithas.
Cyflwynodd Tom Pemberton, seren boblogaidd YouTube ‘Tom Pemberton’s Farm Life’, dystysgrifau i’r ysgolion a gymerodd ran ac fe rhannodd fewnwelediadau am ddefnyddio dŵr ar ei fferm laeth. Bu disgyblion yn ymateb yn frwdfrydig iddo, gan holi am pob agwedd o’i fywyd amaethyddol.
Cystadlaethau a Dathliadau
Ymunodd Pemberton hefyd â Mr. Neil Fenn a Mr. Stewart Williams o Castell Howell i feirniadu’r gystadleuaeth selsig yn adran Cynhyrchion Cig, cyn profi’r ocsiynau da byw prysur a chyfarfod cefnogwyr yn y Siop Sioe.
Unwaith eto, roedd cystadlaethau da byw wrth galon yr ŵyl, gyda nifer record o gofrestriadau, yn enwedig yn yr adran defaid.

  • Pencampwr Uchaf Gwartheg: ‘Twilight’, heffer o dras Limousin a fridwyd gan Tecwyn Jones, Caer Gwrli, Ynys Môn, a werthwyd am £8,500 i’r cigydd lleol Arwyn Morgans, Morgans Family Butchers, Llanfair-ym-Muallt.
  • Pencampwr Uchaf Defaid: Pâr o wyn Beltex gan E.F. Gittoes & Son, Fferm Bryndu, Powys, a werthwyd am £650.
  • Pencampwriaethau Moch: Enillwyd y teitlau unigol a phâr gan Myrddin James, Dolaeron, Ceredigion, gyda moch Pietrain x Cymreig. Gwerthwyd yr unigolyn am £400 a’r pâr am £350.
  • Pencampwr Uchaf Ceffylau: Coedwigddu Princess Rosia, Cob Cymreig Adran D o S. James, Brynlluan, Sir Gaerfyrddin, a’i drin gan Gareth Lapping.
  • Gwobr Stondin Fasnach Gorau yn Gyffredinol: ‘Wales Perfumery’.

Cefnogaeth Gymunedol a Diwydiannol

Mae llwyddiant y Ffair yn cael ei briodoli i ymroddiad y pwyllgor trefnu, cynhyrchwyr, masnachwyr, gwirfoddolwyr a stiwardiaid, ynghyd â chefnogaeth hael noddwyr. Chwaraeodd noddwyr pennaf, gan gynnwys HSBC, Llywodraeth Cymru a Dunbia, ochr yn ochr ag eraill, ran hanfodol yn llwyddiant y Ffair eleni.
“Mae’r Ffair eleni wedi bod yn llwyddiant mawr,” meddai Cyfarwyddwr y Ffair Aeaf, William Hanks. “Er gwaethaf tywydd garw cyn y Ffair, bu niferoedd yr ymwelwyr yn gryf, ac roedd ymdeimlad gwych o gydweithrediad ar y maes sioe.”
“Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y Ffair yma. O’n gwirfoddolwyr a’n stiwardiaid i’r arddangoswyr a’r noddwyr, mae eich cefnogaeth yn sicrhau bod y Ffair Aeaf yn parhau’n draddodiad gwerthfawr. Edrychwn ymlaen at groesawu pawb yn ôl i ddigwyddiadau’r flwyddyn nesaf.”